15/11/2018 - 19:00
Ydych chi eisiau bod yn rhan o Gell Prifysgol Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg?
Diddordeb mewn helpu gyda trefnu digwyddiadau Cymraeg i fyfyrwyr a phobl Caerdydd?
Dewch i drafod eich syniadau gyda ni:
Nos Iau 15 o Dachwedd
19:00
Bar Yr Undeb
Bydd ein cadeirydd newydd, Osian Rhys, yn bresennol yn y cyfarfod i sgwrsio â chi ac i wrando ar eich syniadau.
Am fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu ag Owen Howell: 02920486469 / de@cymdeithas.cymru