13/02/2025 - 19:00
Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hawl dros Zoom am 7 o'r gloch, nos Iau, 13 Chwefror 2025.
Dyma'r grŵp sy'n ymwneud â hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg, statws y Gymraeg a defnydd cyrff o'r iaith felly os ydych yn aelod o'r Gymdeithas ac efo diddordeb yn y meysydd hyn, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.
Ac, os nad ydych yn sicr, dewch i arsylwi yn un o gyfarfodydd y grŵp a phenderfynu wedyn.
Ymysg y materion sy'n cael eu trafod y mae ehangu hawliau iaith a'r diweddaraf ar yr ymgyrch meysydd parcio a'r ymgyrch Swyddfa'r Post.
Am ragor o fanylion neu os am ddolen Zoom, e-bostiwch neu ffoniwch 01970-624501.