Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosib

16/11/2023 - 10:00

10.00yb-3.00yp, dydd Iau, 16 Tachwedd

Y Pierhead, Bae Caerdydd

Wrth i'r Llywodraeth baratoi papur gwyn ar yr angen i sicrhau tai digonol a rhenti teg rydyn ni'n galw am basio deddf gynhwysfawr, yn ystod y tymor Seneddol hwn, fyddai’n cadarnhau mewn cyfraith mai asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi yw prif ddiben tai.

Yn y gynhadledd bydd cyfle i ddysgu am ddiwygiadau sylfaenol a wnaed i'r system tai mewn gwledydd ar draws Ewrop sydd wedi llwyddo i greu systemau sydd yn gweithio er budd pobl, cyn trafod datrysiadau posibl yma yng Nghymru.

Trefn y gynhadledd:

9.30 - Paned a Chofrestru

10.00 - Croesawu ac Agor
    • Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
    • Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd
    • John Griffiths, Aelod o'r Senedd

10.15 - Adnabod y problemau

Cyfraniadau fideo

Panelwyr:
    • Catrin O’Neill, Siarter Cartrefi ac ymgyrchydd tai
    • Cyng. Linda Evans, deilydd portffolio cartrefi ar gabinet Cyngor Sir Gâr
    • Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol, Community Housing Cymru

Cadeirydd: Sioned Hughes, ymgynghorydd tai

11.45 - Toriad

12.00 - Beth sy'n bosibl: Siaradwyr gwadd

    • Dara Turnbull, Cydlynydd Ymchwil, Housing Europe
    • Walis George, Cymdeithas yr Iaith

1.00 - Cinio

1.30 - Y Ffordd Ymlaen: Y Papur Gwyn

Panelwyr:
    • Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd
    • John Griffiths,  Aelod o'r Senedd
    • Alicja Zalesinska, Tai Pawb, ar ran Back the Bill
    • Walis George, Cymdeithas yr Iaith

Cadeirydd: Dylan Iorwerth

3.00 - Sylwadau cloi

Cymdeithas yr Iaith

Bydd cyfle hefyd i gyfrannu o’r llawr.

Noddir y gynhadledd gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ac Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths.

Bydd angen cofrestru – gallwch wneud hynny trwy gwblhau'r ffurflen isod. Cysylltwch os am ragor o wybodaeth.