24/01/2019 - 19:00
Rydym yn cynnal cyfarfod yn Nhafarn y Porth, Llandysul ar y 24ain o Ionawr ynglŷn â chau Meddygfa Teifi, Llandysul.
Mae’n bwysig i chi fel trigolion Llandysul fynychu'r cyfarfod er mwyn i ni allu trafod a chael gobaith i wneud rhywbeth ynghylch Meddygfa Teifi, ac i gael cyfleusterau Meddygfa Llyn y Fran yn fwy Cymraeg hefyd.
Dewch er lles eich cymuned, a rhannwch y neges yma gyda nifer o aelodau'r pentref rydych yn gallu i ni gael trafodaeth drylwyr!