Dyfodol Meddygfa Teifi - Llandysul

24/01/2019 - 19:00

Rydym yn cynnal cyfarfod yn Nhafarn y Porth, Llandysul ar y 24ain o Ionawr ynglŷn â chau Meddygfa Teifi, Llandysul.

Mae’n bwysig i chi fel trigolion Llandysul fynychu'r cyfarfod er mwyn i ni allu trafod a chael gobaith i wneud rhywbeth ynghylch Meddygfa Teifi, ac i gael cyfleusterau Meddygfa Llyn y Fran yn fwy Cymraeg hefyd. 

Dewch er lles eich cymuned, a rhannwch y neges yma gyda nifer o aelodau'r pentref rydych yn gallu i ni gael trafodaeth drylwyr!