14/07/2025 - 12:00
Bydd cyfarfod nesa' Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith dros Zoom am ganol dydd, dydd Llun, 14 Gorffennaf.
Byddwn ni'n parhau i drafod materion yn ymwneud â'r Bil Addysg, yn benodol ymgyrchoedd addysg lleol all dynnu sylw at ddiffygion y bil, a hyfforddi'r gweithlu addysg.
Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd o blith aelodau'r Gymdeithas, felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.
Ac os nad ydych yn siwr, pam na ddewch chi i'r cyfarfod er mwyn cael blas ar y trafodaethau.
Ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni eich ychwanegu at y grŵp.