Cyfarfod o'r Grwp Cymunedau Cynaliadwy

Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy dros Zoom am 6.30, nos Fawrth, 28 Awst.

Mae croeso mawr i aelodau'r Gymdeithas ymuno â'r grŵp hwn felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, beth am ddod i un o'r cyfarfodydd i weld beth yw beth. Ymysg y pethau y byddwn yn eu trafod yn y cyfarfod hwn y mae cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol, digwyddiadau i hyrwyddo'r ymgyrch Deddf Eiddo a'r camau nesaf yn yr ymgyrch hwnnw.

Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru  / post@cymdeithas.cymru