24/10/2023 - 18:30
Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy dros Zoom am 6.30, nos Fawrth, 24 Hydref 2023.
Y prif bethau fydd yn cael eu trafod fydd Deddf Eiddo a'r gynhadledd Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy'n Bosib ar 16 Tachwedd.
Mae croeso mawr i aelodau'r Gymdeithas ymuno â'r grŵp hwn felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, beth am ddod i un o'r cyfarfodydd i weld beth yw beth.
Ebostiwch post@cymdeithas.cymru os am unrhyw wybodaeth neu os am ddolen i ymuno yn y cyfarfod.