Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

03/03/2025 - 19:00

7.00, nos Lun, 3 Mawrth 2025
Palas Print, Caernarfon ac ar-lein

Croeso i unrhyw aelod yn y rhanbarth i ymuno – dewch i glywed beth sy'n digwydd yn yr ardal ac i drafod sut gall y Gymdeithas weithredu.
 

Byddwn ni'n parhau i drafod ymgyrchoedd am dai - a rali bosibl flwyddyn nesa - yn ogystal â sut i gael mwy o aelodau gweithredol. Ond rhowch wybod os oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu trafod.

Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno, cysylltwch ag ymgyrch@cymdeithas.cymru.