10.30, dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf 2023
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion, gyda gwahanol gyfrifoldebau, i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ranbarthau fydd cyfarfod mis Gorffennaf ac yn gyfle i glywed am waith y Gymdeithas yn lleol.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os ydych yn bwriadu mynychu. Mae hyn yn bwysig oherwydd trefniadau bwyd.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig yn dilyn cyfarfod y Senedd er mwyn trafod newidiadau i Reolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol.