Trefnu Rali Nid yw Cymru ar Werth Bethesda

22/07/2025 - 19:30

7.30, nos Fawrth, 22 Gorffennaf

Ystafell Gwenllïan, Neuadd Ogwen

Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Bethesda yn cael ei chynnal ar 1 Tachwedd eleni, ac yn gyfle pellach i dynnu sylw at yr ymgyrch Deddf Eiddo i sicrhau dyfodol ein cymunedau. Yn benodol, bydd y rali yn rhoi sylw i bwysigrwydd tai dan berchnogaeth gymunedol fel rhan o'r ateb i'r argyfwng tai. 

Mae'r gwaith o drefnu wedi dechrau! Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gyda'r gwaith, dewch draw i Neuadd Ogwen! Gallwch helpu mewn pob math o ffyrdd – bydd cyfle i ddarganfod sut yn y cyfarfod.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag ymgyrch@cymdeithas.cymru.