6 phwynt polisi o fewn 6 mis, llythyr Carwyn Jones

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Awst 2013

Annwyl Brif Weinidog,

Yn dilyn y Gynhadledd Fawr, mae Senedd Cymdeithas yr Iaith wedi trafod ein hymgyrchoedd a sut mae’r Llywodraeth yn ymdrin â’r Gymraeg. Credwn fod angen arweiniad clir er mwyn gwyrdroi sefyllfa’r Gymraeg - credwn y dylech chi fel Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg ddangos yr arweiniad hwnnw dros y 6 mis nesaf. O wneud hynny, ac o fabwysiadu’r polisïau a restrir yn ein Maniffesto Byw, credwn ei bod yn bosib sicrhau dyfodol y cymunedau sy’n cynnal y Gymraeg fel iaith fyw a gweld cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Rydym yn mynnu eich bod yn cymryd chwe cham sylfaenol yn ystod y chwe mis nesaf i brofi nad siop siarad oedd y gynhadledd, gan ofyn i chi weithredu’r pwyntiau canlynol erbyn Chwefror 1af 2014.

Mae’r pwyntiau yma yn deillio o’n Maniffesto Byw, dogfen a grëwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith, yn dilyn trafodaeth gyhoeddus, sydd yn cynnwys 38 o argymhellion polisi er mwyn gwella sefyllfa’r Gymraeg.

1. Addysg Gymraeg i bawb -  Dylech ddatgan yn syth fod bwriad i ddileu "Cymraeg ail iaith" a symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan fod y ddelfryd hon yn bell o’r drefn bresennol, mynnwn eich bod yn sefydlu meini prawf cenedlaethol am "Gontiniwym Addysg Gymraeg" a methodoleg i sicrhau fod pob sefydliad addysgol yng Nghymru'n symud ar hyd y continiwym. Mae’r gallu i weithio a chyfathrebu'n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw un ohono - dylech sicrhau y bydd gan bob disgybl y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

2. Tegwch ariannol i’r Gymraeg - Dylai’r Llywodraeth gyhoeddi patrymau gwariant newydd, yn dilyn ei hasesiad effaith iaith traws-adrannol o’r gyllideb, gan sicrhau fel isafswm bod gwariant ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg ymhob maes yn cyfateb i ganran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn benodol, dylech gynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn darpariaeth Gymraeg yn y meysydd hyn:

  • Addysg i oedolion yn y gymuned

  • Gwasanaethau ieuenctid

  • Cynyddu gwariant ar brosiectau penodol Cymraeg - o ddilyn enghraifft Gwlad y Basg byddai'r Llywodraeth yn gwario 4 gwaith yn fwy ar brosiectau penodol Cymraeg.

3. Gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg - sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd i ragor o gyrff cyhoeddus ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau y bwriadwch eu cymryd yn ystod y 3 blynedd nesaf er mwyn symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg mewn rhagor o adrannau.

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir - dylech ddatgan eich bod am weithredu safonau iaith cryf a chynhwysfawr er mwyn cynyddu nifer y swyddi Cymraeg a sefydlu hawliau i bobl Cymru allu defnyddio'r Gymraeg ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gan normaleiddio'r Gymraeg ym mhob ran o fywyd. Trwy’r safonau, dylid sefydlu hawliau clir i bobl ar lawr gwlad ym mhob rhan o Gymru, a fydd yn cynnwys:

- yr hawl i dderbyn gweithgareddau hamdden fel gwersi nofio yn Gymraeg

- yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a

- yr hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

5. System Gynllunio Newydd - gan gynnwys cyhoeddi fersiwn newydd o Nodyn Cyngor Technegol 20 (TAN 20), a sicrhau ei fod mor gryf â phosib. Dylech hefyd datgan eich bwriad i atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar y Gymraeg, sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol. Yn ogystal, dylech ddatgan bod angen chwyldroi’r system gynllunio ar sail anghenion cymunedau lleol ac er lles y Gymraeg fel bod pobl yn dod yn gyntaf yn hytrach na’r farchnad.

6. Y Gymraeg yn rhan o ddiffiniad Datblygu Cynaliadwy - datgan eich bwriad i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r Biliau Cynaliadwyedd a Chynllunio newydd trwy, ymysg pethau eraill, gynnwys lles y Gymraeg fel priod iaith Cymru fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy a gosod asesiadau effaith iaith datblygiadau ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

Deallwn fod eich rhaglen ddeddfwriaethol wedi newid yn ddiweddar gyda’r nod o gyflwyno rhai o’ch cynigion deddfwriaethol megis y Bil Cynllunio a Bil Cenedlaethau’r Dyfodol erbyn yr haf y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, fel nodwn yn y ddau bwynt olaf uchod, credwn ei fod yn bwysig i chi sylweddoli, bod y biliau hyn yn gorfod bod yn bellgyrrhaeddol eu hamcanion er mwyn sicrhau bod y system gynllunio yn gweithio er lles pobl, cymunedau a’r Gymraeg yn hytrach nag yn eu herbyn.  Atodaf yr egwyddorion yr hoffem i chi eu dilyn wrth newid y system gynllunio trwy gyfrwng y Bil Cynllunio a mesurau eraill.  

Wedi’r 1af Chwefror 2014, os ydym yn penderfynu eich bod wedi cyflawni, byddwn yn eich llongyfarch. Fel arall, ein bwriad fydd dechrau ymgyrch o weithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn eich Llywodraeth.

Yr eiddoch yn gywir,

Robin Farrar, Cadeirydd

Lisa Erin, Is-Gadeirydd Ymgyrchoedd,

Toni Schiavone, Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

ATODIAD: Chwyldroi'r Gyfundrefn Gynllunio

Nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n cymunedau a’n pobl - boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio - wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais ohonynt. Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw. Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan yn hytrach nag un sydd dim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Cymraeg, a dylai'r system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn hytrach na dim ond amddiffyn y cymunedau Cymraeg sy’n bodoli eisoes.

Credwn y dylid ailsefydlu’r system gynllunio ar sail y prif gynigion yn ein Maniffesto Byw, sef:

  • “Llunio a gweithredu Mesur i asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd cynllunio blaenorol.... Sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i gymunedau a grwpiau apelio ceisiadau cynllunio.

  • “Sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio (Planning Inspectorate)” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”

  • “Dylai cynghorau yn ogystal â datblygwyr gynnal Asesiadau Effaith Iaith a rhoi sail statudol i hyn gan adolygu’r sefyllfa yn flynyddol i sicrhau y gweithredir hyn. Galwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i adolygu pob Cynllun Datblygu arfaethedig neu sydd ar waith er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg gan na wneir hynny’n ddigonol ar hyn o bryd gan TAN 20.

  • “Dylent hefyd atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar y Gymraeg, sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol.”

Chwyldroi’r Gyfundrefn Gynllunio

Cred y Gymdeithas bod angen defnyddio Deddf Gynllunio er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer holl gymunedau Cymru, yr iaith Gymraeg, a’r amgylchedd naturiol.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddatrys yr argyfwng tai drwy roi’r hawl i bawb gael cartref ar rent teg yn eu cymuned, drwy roi’r cyfle cyntaf i bobl leol wrth werthu eiddo, a thrwy ddod â’r farchnad dai ac eiddo yn raddol yn ôl o fewn cyrraedd pobl leol mewn modd fydd yn sicrhau na fydd perchnogion presennol ar eu colled.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddiogelu cymunedau Cymru a’r Gymraeg drwy alluogi pobl leol i gael y tai a godwyd eisoes a’u hadnewyddu a’u haddasu os bydd angen; drwy beidio â chaniatáu codi tai newydd oni bai fod angen lleol a dim tai addas yno’n barod; a thrwy beidio â chaniatáu cynlluniau fyddai’n niweidiol i’r iaith Gymraeg — gan gynnwys rhai sydd wedi’u cymeradwyo’n barod.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd trwy reoli datblygiadau megis glo brig, chwareli a chanolfannau twristiaeth mawr yn ogystal â thai diangen. Byddai hyn yn gam pwysig iawn tuag at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.

Felly, nod y Bil dylai fod:

  • estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai ac eiddo er mwyn diwallu anghenion pobl leol yng Nghymru am dai

  • diogelu a sicrhau cynaladwyedd cymunedau Cymru a’r Gymraeg

  • diogelu’r amgylchedd.

Er mwyn cyflawni’r amcanion uchod, nodir chwech o bwyntiau y dylid eu cynnwys yn y Bil:

1. Asesu’r Angen Lleol

Dylid gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal ymchwil fanwl a pharhaol i’r angen lleol am gartrefi ac eiddo ym mhob cymuned. Yna dylid llunio strategaeth i ddiwallu’r anghenion hynny drwy ddefnyddio’r stoc bresennol o dai ac eiddo, oni bai fod honno yn annigonol neu’n anaddas.

Ar hyn o bryd, mae caniatâd yn cael ei roi i godi tai heb wneud ymchwil digon trylwyr i'r angen lleol na'r effaith ar y Gymraeg. Yn aml, nid yw’r ymchwil yn ystyried amgylcheddau lleol, lefelau cyflogaeth leol, natur y boblogaeth a’r Gymraeg a gall hyn olygu bod pentrefi bychain yn dyblu mewn maint, neu fe godir rhagor o dai mewn ardal ble mae dros hanner y tai eisoes yn dai haf. Pe ganfyddir bod angen tai newydd er mwyn diwallu’r galw, ond ni roddir ystyriaeth i gwestiynau megis pa fath o dai sydd eu hangen, ar gyfer pwy, ar ba bris, sut i’w darparu a’u rheoli ac yn y blaen.

2. Tai ac Eiddo i’w Rhentu

Dylid rhoi’r hawl i bobl leol gael cartrefi neu fferm neu eiddo busnes ar rent rhesymol ac mewn cyflwr boddhaol. Ymhellach, dylid rhoi dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i sicrhau’r ddarpariaeth hon, a hynny o’r stoc bresennol oni bai ei bod yn anaddas. Mae’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat yn allweddol bwysig ar gyfer darparu cartrefi addas a fforddiadwy. Byddai’r Bil yn gosod y sector rhentu preifat dan reolaeth strategol yr awdurdodau lleol, yn adfywio’r sector rhentu cymdeithasol ac yn gwella mynediad i dai ar rent yn gyffredinol drwy strategaethau tai gwag mwy gweithredol a defnydd o dai gwyliau/ail gartrefi.

3. Cymorth i Brynwyr Tro Cyntaf

Dylai pob person sy’n dymuno prynu cartref am y tro cyntaf gael cymorth i wneud hynny.

Mae angen buddsoddiad pellach mewn cynllun cymorth prynu mwy hyblyg a datblygu deiliadaeth hyblyg i ganiatáu i bobl symud rhwng perchnogaeth a rhentu. Gan fod prisiau tai yn parhau i fod y tu hwnt i’r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf ar hyn o bryd oherwydd yr angen am flaendal sylweddol, ac y bydd y sefyllfa hon yn parhau am beth amser ar ôl i’r Bil ddod i rym, mae’n hanfodol fod cymorth yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau mynediad i’r farchnad. Mae’n bosib y gellid gwneud hyn drwy ymddiriodeolaethau tir a fyddai’n gallu darparu tai at anghenion lleol a thai a fydd yn aros yn fforddiadwy gan fod y tir yn perthyn i'r ymddiriedolaeth.

4. Blaenoriaeth i Bobl Leol

Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae prisiau tai yng nghymunedau Cymru wedi cynyddu’n gyflym — heb unrhyw reolaeth a heb unrhyw ystyriaeth o anghenion y cymunedau hynny. Erys cyflogau Cymru ymhlith yr isaf yn y DU a chyda’r cynnydd parhaol ym mhrisiau tai ers canol y 1990au — a’r cynnydd ymhellach rhwng 1997 a 2007 — chwalwyd unrhyw gysylltiad rhwng y farchnad eiddo leol a gallu pobl i gystadlu yn y farchnad. Er y gwelwyd gostyngiadau ym mhrisiau tai rhai ardaloedd ers 2008 mae'r farchnad mewn rhan fwyaf o ardaloedd yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd pob leol. Gan fod cyflogau mewn ardaloedd lle mae’r iaith Gymraeg gryfaf, megis Gwynedd a Cheredigion, yn dueddol o fod yn is mae’n amlwg y caiff hyn effaith ar gynaladwyedd yr iaith:

Mae gallu pobl leol i gystadlu yn y farchnad dai yn digwydd bod yn is yn y mannau hynny lle mae materion iaith yn fwy tebygol o fod yn fwy argyfyngus. Gwelwyd cynnydd graddol mewn prisiau ers dechrau’r 1970au ac yna effeithiau cynnydd mawr diwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au. O ganol y 1990au mae’r farchnad dai wedi profi cyfnod arall o gynnydd. Cyflymodd hyn unwaith eto hyd at 1997. Os dadansoddir y cynnydd o 124% rhwng 1997 a 2004 gwelir i 82% ohono ddigwydd rhwng 2001 a 2004. Er y bu cwymp ers hynny o ganlyniad i’r dirwasgiad economaidd, ni chynyddodd lefelau cyflogaeth felly erys sefyllfa lle mae prisiau tai mewn llawer o gymunedau ymhell tu hwnt i gyrraedd y trigolion — hynny yw, nid yw’r farchnad leol yn bodoli.

Bwriad y pwynt hwn ydi ail-wampio’r broses o brynu a gwerthu eiddo i:

a. roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai gan ddod a’r farchnad yn raddol o fewn cyrraedd pobl leol unwaith eto;

b. sicrhau nad ydi perchnogion presennol yn dioddef colled.

5. Cynllunio i’r Gymuned

Dylai’r drefn gynllunio wasanaethu buddiannau ac anghenion y gymuned leol — yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ieithyddol. Dylai tai newydd ddiwallu anghenion lleol na ellir eu diwallu o’r stoc dai bresennol, ac ni ddylid rhoi caniatâd ar gyfer cynlluniau a fyddai’n niwedidiol i’r gymuned, na fyddai'n darparu tai addas, ac a fyddai'n niweidiol i'r iaith Gymraeg neu’r amgylchedd.

6. Ailasesu Caniatâd Cynllunio blaenorol

Dylid sicrhau na fydd caniatâd cynllunio a roddwyd yn y gorffennol yn ychwanegu’n ddiangen at y stoc dai nac yn bygwth cymunedau, yr iaith Gymraeg neu’r amgylchedd. Mae yna ganiatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer miloedd ar filoedd o dai yng Nghymru. Er enghraifft, mae caniatâd cynllunio sy’n gyfredol ers pymtheg mlynedd a rhagor i godi cannoedd o dai ym Morfa Bychan ac Aberdyfi a llawer o gymunedau tebyg. Dylid ailedrych ar bob un o’r cynlluniau hyn sydd wedi derbyn caniatâd a gofyn yn syml — “a oes angen y tŷ/tai yma?”

Pwysleisiwn fod yna gydberthynas bwysig rhwng yr holl bwyntiau hyn, ac o’u cyfuno maent yn cynnig un polisi cynhwysfawr ac amlochrog. Ni ddylid eu hystyried felly fel cyfres o amcanion sy’n annibynnol ar ei gilydd na’u gweithredu’n ddi-gyswllt, gan ddewis a dethol rhai ac anwybyddu eraill.