Ad-drefnu Llywodraeth Leol - Gohebiaeth gyda'r Gweinidog

Annwyl Weinidog, 

Yn ôl yn Ionawr 2014 gwnaeth Comisiwn Williams alw am leihau'r nifer y Cynghorau
Lleol o’r 22 presennol i’w hanner neu hyd yn oed llai na hynny.
Ar ddydd Iau 18
Mehefin 2015 fe wnaethoch chwithau gyhoeddiad pellach drwy lansio map ar gyfer
ffiniau posibl yr Awdurdodau arfaethedig a charwn ar ran Cymdeithas yr Iaith
ymateb i’r cyhoeddiad.

Dyma ddatgan rhai egwyddorion sylfaenol credwn a ddylai fod yn ymgorfforiad o’r
mesur pan y daw i rym yn derfynol a hynny ar sail faint bynnag fydd nifer yr
Awdurdodau hynny a lle bynnag bydd y ffiniau gwahanol.

Wrth wneud hynny rydym hefyd yn cadw mewn cof un o’r egwyddorion a nodir gan
Lywodraeth Cymru yn y ddogfen Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni a gyhoeddwyd
ar 3 Chwefror 2015 taw pwrpas y cynllun o Ddiwygio Llywodraeth Leol fydd i roi
grym yn nwylo bobl Cymru yna nodwn y prif bwyntiau canlynol i fedru cyflawni
hynny:

* Mae’r Gymraeg wedi bod erioed mewn sefyllfa o wendid yn ein Hawdurdodau Lleol
ac o’r dystiolaeth i ni yn eu casglu mae hynny yn parhau o fewn y 22 Awdurdod
presennol. Mae yn gonsyrn mawr bod gwendidau sylfaenol yn parhau cyhyd ac fe
welwn yr Adrefnu arfaethedig bydd hynny yn gyfle i ddelio â ffaeleddau dirfawr
yr awdurdodau hyd yma i ddarparu gwasanaethau llawn yn Gymraeg. Mae gwir angen
mynd i’r afael a’r methiant yma a dyma gyfle arall eto i wneud hynny;

* Mae angen amddiffyn ac ehangu nifer y cyrff sydd yn gweinyddu’n fewnol trwy
gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ymwybodol taw dim ond o fewn un awdurdod mae hynny
yn digwydd ar hyn o bryd, sef Cyngor Gwynedd; felly mae angen cryfhau'r
ddarpariaeth a hynny ar fyrder. Byddai hyn yn gwireddu hawliau gweithwyr i
weithio trwy gyfrwng y Gymraeg;

* Wrth i’r newidiadau hyn ddod i rym, bydd yr unedau o reidrwydd yn cynyddu mewn
maint, a thrwy hynny yn cryfhau'r ymdeimlad fod atebolrwydd yn pellhau. Gwanhau
fydd cysylltiad rhwng yr etholwr a’r darparwr, a bydd hynny yn cael effaith
niweidiol ar ddemocratiaeth. Credwn fod angen adfywio a chryfhau democratiaeth,
yn enwedig ar lefel leol iawn. Gwelwn fod hyn yn gyfle da i ddod a’r broses
ddemocrataidd yn agosach at y bobl ac i roi fwy o gyfrifoldebau yn nwylo
Cynghorau Cymuned. Gwelir bod mwy o rôl iddynt yn benodol yn y system gynllunio.
Bydd hyn yn fodd i gywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg
gan seilio’r system ar anghenion lleol yn hytrach nag ar ystadegau cenedlaethol;

* Gwelwn fod gwasanaethau lleol yn hollbwysig i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg
ac rydym yn edrych ar yr adrefnu yn y goleuni hynny;

* Mae angen creu set o safonau iaith cyson ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, y
drydedd sector a'r sector breifat er mwyn gwella gwasanaethau Cymraeg ac a fydd
yn sicrhau eglurder i’r cyhoedd;

Wrth i’r broses o adrefnu bwrw ymlaen yna rwyf yn siŵr bydd gan y Gymdeithas
cynigion a sylwadau pellach yn y meysydd gwahanol a fydd yn gyfrifoldebau'r
Awdurdodau dan sylw.

Gallwch weld ein sylwadau mwy manwl yn y ddogfen hon a gyhoeddwyd gennym wrth
ymateb i Gomisiwn Williams:
http://cymdeithas.cymru/dogfen/comisiwn-gwasanaethau-cynhoeddus-ymateb

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb i’r llythyr yma gan ddiolch ymlaen llaw
am unrhyw sylwadau a fydd gyda chi yn codi o’r hyn sydd gyda ni ei ddweud.

Yr eiddoch yn gywir,

Jamie Bevan

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg