Addysg Gymraeg i Bawb - Llythyr Carwyn Jones

[Cliciwch yma i agor y PDF - Llythyr Carwyn Jones atom 4/12/15]

4 Rhagfyr 2015

Rwy’n ysgrifennu yn dilyn ein cyfarfod ar 18 Tachwedd. Roedd y cyfarfod yn un adeiladol a bu’n dda cael cyfle i drafod nifer o faterion pwysig yn ymwneud â’r Gymraeg. Fel wnaethon ni gytuno, dyma lythyr sy’n cadarnhau fy safbwynt ar rhai materion.

Fe wnaethom drafod cysyniad Cymraeg ail iaith a chyfyngiadau’r term hwn. Rwyf wedi trafod y mater gyda fy nghydweithiwr Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, ac rydym wedi dod i’r un casgliadau ynglŷn â’r maes.

Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol. Efallai mai’r ffordd orau o ddisgrifio’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yw fel pont neu “gontinwwm” y gall unigolion gael mynediad ato ar wahanol fannau, yn unol â’u gallu. Dylem edrych ar bawb ar y bont honno mewn ffordd bositif, ac annog pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg ar unrhyw lefel i ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, heb osod labeli artiffisial.

Rhaid i’n system addysg hyrwyddo uchelgais ar gyfer y Gymraeg, a chynnig digon o hyblygrwydd i fodloni gwahanol ofynion gan wahanol rannau o gymdeithas. Wrth inni gamu ymlaen, rhaid i’r polisi symud i ffwrdd o’r cysyniad o “ail iaith” tuag at ystyriaeth integredig a chydlynol o’r Gymraeg fel iaith wirioneddol fyw. Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn.

Gan droi yn nesaf at y modd mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r defnydd o’r Gymraeg gan gyrff sy’n derbyn grant gennym. Mae cymal safonol wedi ei gynnwys yn nhempled llythyron grantiau Llywodraeth Cymru sydd yn nodi: Pan fo’r dibenion yn cynnwys neu’n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau neu ddeunydd ysgrifenedig (gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein) yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg, oni fyddai’n afresymol neu’n anghymesur i wneud hynny.

Ar hyn o bryd rydym yn ailedrych ar ein prosesau grantiau i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion safonau’r Gymraeg yng nghyd-destun dyrannu arian grant i drydydd partïon. Bydd canllawiau newydd yn cael eu datblygu erbyn yn y flwyddyn newydd er mwyn bod yn siŵr fod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan o’r prosesau a bod gofynion ieithyddol yn cael eu monitro. Rwyf yn ffyddiog y bydd y drefn safonau, ynghyd a pwerau gorfodi’r Comisiynydd sydd wedi’i amlinellu yn y Mesur, yn cryfhau’r modd mae cyrff fel y Llywodraeth yn gosod amodau ieithyddol ar gyrff sy’n derbyn grant.

Fe drafodwyd yr ymgynghoriad ar gynllunio yn y cyfarfod. Mae rhan helaeth y TAN yn ymwneud â’r broses o greu cynlluniau datblygu lleol, sydd heb eu heffeithio gan y darpariaethau yn y Ddeddf Gynllunio (Cymru) 2015, felly does dim rheswm dros ei newid. Mae’r newidiadau a gynigiwyd i’r TAN yn ymwneud yn uniongyrchol â’r darpariaethau newydd - darpariaethau sy’n cryfhau statws a’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg yn y system gynllunio. Cafodd y darpariaethau hyn eu croesawu gan aelodau pob plaid wrth i’r Ddeddf gael ei llunio. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi’r cyfle i Gymdeithas yr Iaith a’r holl randdeiliaid eraill i ystyried os yw’r TAN 20 diwygiedig yn rhoi canllawiau ymarferol priodol i awdurdodau cynllunio lleol, a defnyddwyr eraill y system gynllunio.

Yn gywir

CARWYN JONES