-
1 (1) Apologia dros sefydliad sylfaenol Saesneg . Ymddengys fod y ddogfen hon ar ran y Coleg wediíi chyfansoddiín bennaf er mwyn ceisio ateb gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg yn hytrach nag fel sail i drawsnewid natur ieithyddol y sefydliad ei hunan. Y duedd drwyddiíi gyd yw ceisio crynhoi ynghyd pob defnydd real, potensial neu anhebygol a wneir oír Gymraeg gan obeithio y bydd cyfanswm y rhannauín cael ei dderbyn fel strategaeth gyfan. Yr argraff llethol a roddir yw darpariaeth a chynlluniau cwbl dameidiog a methiant unrhyw strategaeth integreiddiedig.
-
1 (2) Mae realiti profiad oír sefydliad yn dangos ei bod yn sefydliad sylfaenol Saesneg syín ceisio ffurfio ffrynt dwyieithog er mwyn creu Cynllun Iaith. Cymerwn wefan y coleg. Tudalen o groeso Saesneg syín wynebuír sawl a geisia www.aber.ac.uk gyda botwm bach Cymraeg ar y top. Dyma egluroín syth mai sefydliad Saesneg sydd yma gyda darpariaeth Gymraeg ar gyfer y sawl syín chwilio ac yn gofyn amdani. Maeír sawl syín chwilio yn cael yn syth fod y ddarpariaeth Gymraeg honnoín gyfyngedig iawn e.e. ar dudalen Cyhoeddiadau / Publications y wefan, mae modd darllen a llwytho i lawr pob adran yn Saesneg ond lleiafrif bach yn unig yn Gymraeg ñ gan adael allan meysydd mor allweddol ag Astudiaethau Ewropeaidd, Celf, Gwyddor Amgylchedd a hyd yn oed Llety yn Aberystwyth ! Dyma ddatgelu, wrth y cysylltiad cyntaf, wir natur y coleg ac ni byddai gwireddu gofynion y Cynllun Iaith ñ yn ei ffurf drafft ñ yn newid y realiti hwnnwín sylfaenol.
-
1 (3) Mae pawb sydd yn gweithio neuín astudio yn y Coleg, neu mewn cysylltiad ag ef, yn deall mai Saesneg yw iaith y mwyafrif llethol o'r gweinyddu a'ríaddysgu. Er bod y Coleg wediíi leoli mewn sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mewn gwlad lle mae 20% oír boblogaeth yn medruír iaith, ni byddaiír Cynllun Iaith yn sicrhau fod cyfanswm y gweinyddu naír addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn agos at y canrannau hyn. Dyma ragfarnu ymddangosiadol yn erbyn y Gymraeg gan y coleg fel sefydliad.
-
2 (1) Mae Seisnigrwydd y Coleg yn codi o natur y sefydliad. Nid ywír anghysondeb hwn naír tan-ddefnydd oír Gymraeg yn codi o ragfarnu personol. Mae wediíi sefydliadoliín hytrach yn natur y coleg ei hun. Nid yw cymeriad ieithyddol y coleg yn adlewyrchu cymeriad ieithyddol y sir na Chymru oherwydd ni wel y coleg ei swyddogaeth yn ymarferol fel gwasanaethu Ceredigion na Chymru beth bynnag a hawlir yn ei gendadwri. Datgenir yn y cenadwri hwnnw:
ìMae gennym gyfrifoldeb arbennig tuag at anghenion Cymru, ac yr ydym yn ymwybodol iawn oír rhan sydd i ni wrth gynnal diwylliant cynhenid Cymru aír iaith Gymraeg. At hynny, yr ydym yn ymwybodol oín cyfrifoldeb tuag at y gymuned leol yr ydym yn rhan ohoniÖÖ.î
Eto i gyd, maeír coleg yn ymarferol yn gweld ei hunan yn rhan o rwydwaith mwyfwy cystadleuol o sefydliadau addysg uwch ar raddfa Brydeinig, a Saesneg yw cyfrwng naturiol cystadlu oír fath. Mae cyllid ac einioes y sefydliad yn ddibynnol ar ei lwyddiant cystadleuol ac ymylol iawn felly yw ei ymrwymiad fel sefydliad i hybu buddiannau Ceredigion na Chymru ñ boed o ran hybu iaith, datblygiad economaidd na pharhad cymunedau lleol.
-
2 (2) Mae staff yn cael eu denu o Brydain yn gyffredinol i weithio mewn fframwaith Prydeinig a Saesneg. Diddorol fyddai darganfod canran y penodiadau gweinyddol a dysgu o du allan i Brydain. A ydywír coleg yn gaer o Brydeindod ?. Felly hefyd y myfyrwyr y mae cyllidoín ddibynnol arnynt. Mewn cyd-destun felly y mae Cynllun Iaith yn gonsesiwn yn hytrach nag yn egwyddor. Amlygir hynny trwy holl ddrafft y Cynllun.
-
2 (3) Nid yw cynnwys y cyrsiauín arbennig o berthnasol i Geredigion nag i Gymru ac, o ganlyniad, nid ywír ffynonellauín Gymraeg at ei gilydd. Ein dadl yma yw fod Seisnigrwydd addysgu a gweinydduír coleg yn codiín naturiol o natur y sefydliad. Mewn cyd-destun felly, arwynebol iawn fydd y newidiadau a ddeuant trwy Gynllun Iaith.
-
3 (1) Petaiír Coleg yn gwneud ymdrech mwy i uniaethu ag anghenion Ceredigion a Chymru, byddai hynny ynddoíi hun yn cynydduír defnydd oír Gymraeg i raddau llawer yn fwy nag a gyflawnid trwyír Cynllun Iaith. Rhaid derbyn mai dim ond newidiadau gwleidyddol a allai newid natur a swyddogaeth y coleg fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan naturiol a hanfodol oíi fodolaeth. Eto i gyd, mae nifer o gamau y gallaiír coleg eu cymryd yn syth er mwyn uniaethu aír gymuned yíi lleolir ynddi. Ar y funud y maeír coleg yn ymddwyn yn debyg i landlord ffiwdal yn cyflogi ac yn gorfodiíi ewyllys ar y gymuned leol yng Ngheredigion. Un ffordd yn unig ywír cyfathrebu h.y. y maeír coleg yn Seisnigo Ceredigion, ond nid yw Ceredigion yn llwyddo i Gymreigioír coleg.
-
3 (2) Ein hargymhelliad yw y dylid ffurfio Cyd-Weithgor o Goleg Aberystwyth ac o Gyngor Ceredigion (gyda chymorth Aelod Cynulliad Ceredigion) i astudioír ddau faes canlynol a gwneud argymhellion iíw gosod gerbron awdurdodauír Coleg -:
b)Llunio meysydd ymchwil lle gallai adrannau oír Coleg ñ trwy eu cyrsiau ñ wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiadau yng Ngheredigion e.e. datblygu economaidd, astudio newidiadau cymdeithasol, effaith penderfyniadau cynllunio, astudiaethau amgylchedd aír gwyddorau naturiol, hanes a llenyddiaeth etc. Dyma gyfathrebu dwy ffordd ñ gwerth addysgiadol ffynonellau ymchwil ar drothwyír coleg a chynnyrch ymchwil a allai arwain at ddealltwriaeth well o broblemau cymunedau lleol a datblygiadau.
Byddai gweithredu oír fath ymaín arwain yn naturiol at raddfa lawer uwch o addysgu a gweinyddu trwyír Gymraeg a denu myfyrwyr Cymraeg..
a)Astudioír effaith (yn ieithyddol, yn economaidd ac mewn meysydd fel tai) a gaiff polisiauír Coleg ar y gymuned leol
-
3 (3) Dylaiír Coleg wneud ymdrech llawer fwy i feithrin cydweithio gyda sefydliadau addysgiadol eraill yn y sir, er engrhaifft ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach ac addysg gydol oes. Dylid ceisio integreiddioín well fyfyrwyr llawn amser a rhai rhan-amser syín byw yn y sir. Unwaith eto, fe ellid cyflawni gwelliannau oír fath yn syth heb ddisgwyl i am unrhyw newid i natur sylfaenol y coleg. Byddai meithrin cysylltiadau lleol a Chymreig fel hyn yn arwain at gynydduír cyfathrebu gweinyddol trwyír Gymraeg ynghyd ’ chanran yr addysgu Cymraeg a chanran y myfyrwyr Cymraeg aír rhai syín abl i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
-
4 (1) Hyd yn oed o dderbyn fframwaith y status quo yn llwyr, maeír cynllun yn wan mewn cymhariaeth aír hyn y byddaiín bosibl ei gyflawni ac yn wir mewn cymhariaeth a chynlluniau iaith eraill. Yn wir y maeír Cynllun mor wan fel ei bod yn debygol mai un effaith fyddai sicrhau fod canran llai fyth o fyfyrwyr Cymraeg yn dod i Aberystwyth a llai o ddarlithwyr Cymraeg yn ymgeisio am swyddi yn y coleg. Byddai sefyllfa fellyín gwaethygu ac yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai hyd yn oed y targedau a osodir yn cael eu cyrraedd.
-
4 (2) Lle mae cynnydd mewn darpariaeth Gymraeg wedi gweddnewid sefydliadau addysgiadol ynghyd ’ sefydliadau eraill yng Nghymru, mae Coleg Aberystwyth bron wedi sefyll yn ei hunfan ers cenhedlaeth. Maeín cynnal agweddau gwrth-Gymraeg y ganrif ddiwethaf, trwy fod yn agos at 100% oír cyrsiau (heblaw am y Gymraeg ei hun) ar gael yn Saesneg, gyda dim ond cyfran fach yn unig ar gael yn Gymraeg. Y ddiffyg mwyaf yw natur tameidiog y ddarpariaeth Gymraeg. Nid oes unrhyw beiriant yn gyrru datblygiadau yn y maes yn effeithiol. Mae bodolaeth tim bychan ym Mangor i ymchwilio i addysgu dwyieithog wedi golygu fod y ddarpariaeth yng Ngholeg Bangor wedi cynydduín llawer fwy nag yn Aberystwyth (teirgwaith yn fwy o gyrsiau ym Mangor yn 2000 ar gael yn Gymraeg). Felly gwendid mwyaf Cynllun Aberystwyth ywír methiant i gynnig peirianwaith oír farth er mwyn gyrru datblygiadau yn eu blaenau. Yn absenoldeb unrhyw waredigaedd oír fath, anodd yw gweld unrhyw newid mawr oír sefyllfa warthus bresennol
-
4 (3) Ffrwyth cyntaf sefydlu peirianwaith oír fath fyddai creu targedau mentrus o ran sicrhau ystod eang o addysgu Cymraeg, na fyddent yn obeithion gwag, ond yn rhan o strategaeth gydlynus syín seiliedig ar drefniadaeth fanwl. Yn y cynllun hwn y mae amheuaeth a wireddir unrhyw dargedau ac y mae sicrwydd na fyddai gwireddu targedau oír fath yn gweddnewid y sefyllfa.
-
4 (4) O ran ei gynigion ar gyfer Gweinyddu Cymraeg y maeír Cynllun Iaith hwn yn methu yn yr un ffyrdd ag y gwnaír mwyafrif o Gynlluniau Iaith -:
b) Nid oes unrhyw gynllunio gwirioneddol er mwyn sicrhau bod gan y Coleg staff sydd yn gymwys i weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cymalauír cynllun sydd yn gysylltiedig ’ staffio yn drychinebus o wan, aír duedd iíw i nodi y byddaiír Gymraeg yn fanteisiol. Golyga hyn y byddai penodiadau Cymraeg yn dibynu ar hap a damwain yn hytrach nag ar gynllunio pendant. Credwn y dylid llunio proffil gofynion ieithyddol manwl ar gyfer pob swydd yn y Coleg a gwneud gofynion ieithyddol pob swydd yn hysbus i ddeiliaid presennol y swydd ac wrth hysbysebu unrhyw swyddi newydd. Ymhellach, dylai pob proffil ieithyddol gynnwys amserlen a thargedau parthed cyrraedd safon weithredol defnyddiol yn y Gymraeg aír Saesneg. Mewn perthynas ’ hyn, credwn y dylaiír cyfle i ddysgu neu i loywiír Gymraeg fod ar gael i aelodau staff yn ystod oriau gwaith, yn y man gwaith, ac yn rhad ac am ddim.
c) Fod yr ymlyniad tuag at gydraddoldeb rhwng y ddwy iaith yn niwlog iawn. Dylid anelu yn hytrach at nod symlach o ddwyieithrwydd gan nodi eithriadau ar y naill ochr neuír llall e.e. gweithgareddau arbenigol iawn, heb unrhyw gysylltiad ’ Chymry Cymraeg ar y naill law ac ar y llaw arall gweithgareddau sydd wediíu hanelu at Gymry Cymraeg yn unig. Byddai gofyn cyfiawnhauír eithriad ym mhob achlysur.
a)Mae ymdrech i roi gwedd dwyieithog ar beiriant gweinyddol syín sylfaenol Saesneg e.e. yr ymdrech i ateb y ffÙn iír cyhoedd yn Gymraeg traín cynnal Saesneg fel cyfrwng cyfathrebu mewnol. Caiff hyn ei ategu gan ddibyniaeth y Coleg ar yr adran gyfieithu. Er pwysigrwydd yr adran hon, maeír dystiolaeth yn awgrymu fod yna duedd ymhlith gwahanol adranau ñ yn weinyddol ac academaidd ñ i ddibynnu yn llwyr arni, gan osgoi unrhyw gyfrifoldeb i geisio defnyddioír Gymraeg fel cyfrwng naturiol ar gyfer cyfathrebu mewnol. Yn sgil y fath ddibyniaeth ni ellir symud at sefyllfa lle caiff y defnydd oír Gymraeg ei normaleiddio o fewn y sefydliad. Yn absenoldeb unrhyw ymdrech gyd-lynus i symud tuag at weinyddu mewnol trwyír Gymraeg, bydd y Coleg yn parhau yn sefydliad sylfaenol Saesneg, sydd yn dibynnu ar gyieithu bob hyn a hyn.
-
4 (5) Tynnwn sylwír Coleg at ddogfen Cymdeithas yr Iaith; Dwyieithrwydd Gweithredol a gaiff ei gynnwys fel atodiad iír ymateb hwn. Er bod y ddogfen hon yn canolbwyntio ar y modd y dylai'r Cynulliad Cendlaethol weithredu er mwyn sicrhau ei fod yn gorff gwirioneddol dwyieithog, mae'r egwyddorion sydd yn sail i'r ddogfen yn berthnasol i unrhyw sefydliad a chredwn y dylai swyddogion y Coleg ystyried ei gynnwys.
-
5 (1) Ni allwn dderbyn fod yma ymdrech tuag at Gynllun Iaith difrifol. Nid oes peirianwaith digonol i wiredduír amcanion ac, oíu gwireddu, ni byddent yn gweddnewid y sefyllfa warthus bresennol o ran y ddarpariaeth Gymraeg.
-
5 (2) Maeín ddadlenol iawn fod y Cynllun ond yn nodi y modiwlau aír cyrsiau gradd hynny sydd ar gael yn Gymraeg. O ganlyniad maeín mynd yn groes iír hyn syín arferol mewn cynllun oír fath, lle nodir pob cwrs a gynigir gan y sefydliad dan sylw, ynghyd ’ beth yw bwriadauír sefydliad ar gyfer y cyrsiau hyn yn y dyfodol. O ystyried hyn, gellir ond casglu bod y coleg wedi osgoi cyhoeddi deunydd oír fath gan y byddai yn pwysleisio, mewn modd cwbwl ddamniol, mor ymylol yw sefyllfaír Gymraeg ar hyn o bryd, ynghyd ’ír diffyg ewyllys sydd yno i newid y sefyllfa.
-
5 (3) Maeír ffaith fod y Cynllun drafft wedi ymddangos mor hwyr (hyd yn oed o gymharu a sefydliadau cyffelyb) yn arwydd o ddiffyg ymrwymiad na pharodrwydd i ddod iír afael aír anghyfiawnder.
-
5 (4) Maeír ffaith fod y cyfnod ymgynghori wediíi gyfyngu ñ ar Ùl yr holl amser llunio ñ i ddiwedd Gorffennaf tan ganol Hydref ñ yn arwydd fod y Coleg yn ceisio osgoi ymatebion difrifol a beirniadaeth trwy gynnal yr ymgynghori gorfodol yn y cyfnod tawelaf.
-
5 (5) Yr ymateb mwyaf priodol fyddai dyfarnu nad ywír Cynllun yn deilwng. Byddai hyn yn danfon arwydd fod yn rhaid wrth gychwyn newydd a difrifol a brys gyda pheirianwaith ac adnoddau digonol. Maeín bryd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (am y tro cyntaf) wrthod cynllun iaith.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
17/10/02
|