Adolygiad Cymraeg i Oedolion - ymateb

Adolygiad Cymraeg i Oedolion - Ymateb [PDF]

Adolygiad - Cymraeg i Oedolion

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Crynodeb

Gyda thros 18,000 o bobl yn cofrestru ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion, mae’n amlwg bod y ddarpariaeth yn wasanaeth poblogaidd ac yn un pwysig. Fodd bynnag, mae’r niferoedd o oedolion sy’n dod yn rhugl yn gymharol isel (allan o dros 17,865 o ddysgwyr yn 2010, safodd 59 (0.33%) arholiad sy’n cyfateb i arholiad lefel-A, gyda 230 (1.3%) yn sefyll arholiad safon TGAU) – er nid yn is na’r hyn a welir o gymharu â chyrsiau dysgu ieithoedd eraill.

Awgrymir bod angen edrych ar y maes mewn ffordd llawer iawn fwy strategol a radical, gan dargedu adnoddau ac egni mewn ffyrdd bydd yn fwy tebygol o gyrraedd lefelau uwch o lwyddiant.

Nodau

1. Cynyddu’r nifer o bobl sydd yn llwyddo dod yn siaradwyr Cymraeg rhugl

2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol

3. Cynyddu’r gefnogaeth i’r Gymraeg a dealltwriaeth o bwysigrwydd y

   Gymraeg yng Nghymru

Grwpiau Targed

Mae’r ddarpariaeth bresennol yn cynnig cyfleodd i ddysgu Cymraeg fel rhan o’r gwasanaeth addysg i oedolion yn gyffredinol. Sefydlwyd 6 ‘Canolfan’ gyda chyllideb flynyddol o tua £12 miliwn. Ceir rhywfaint o gyrsiau wedi eu targedu at y gweithle, a rhywfaint at rieni, ond mae angen dybryd am strategaeth genedlaethol cydlynus a chynhwysfawr.

Argymhellion

1. Llunio Strategaeth Genedlaethol a Chyfarwyddiaeth Genedlaethol i arwain y strategaeth a sicrhau cydlyniad a rhannu arferion gorau.

2. Sefydlu’r strategaeth ar sail gwbl wahanol i’r sefyllfa bresennol gyda’r pwyslais ar ddiwallu anghenion yn hytrach nac ar ddarparu gwasanaeth. I’r perwyl hynny, awgrymir targedu grwpiau penodol o oedolion a llunio cyrsiau sydd yn addas i bwrpas.

i. Rhieni ifanc. Y symbyliad mwyaf i ddysgu Cymraeg i lawer iawn o oedolion yw’r penderfyniad i anfon plant i ysgol Gymraeg. Dylai pob rhiant CA1/CA2 gael cyfle i fynychu cyrsiau ar fodel cyrsiau llythrennedd a rhifedd i rieni – cyrsiau 20 neu 30 wythnos (1 neu 2 diwrnod yr wythnos) neu fwy mewn ysgolion gyda’r tiwtoriaid iaith yn cyflwyno gwersi i rieni yn y bore, a’r rhieni a’r plant yn dod at ei gilydd ac yn cyd-ddysgu yn y prynhawn. Gan na fydd yn bosib sefydlu’r drefn yma yn genedlaethol yn syth, dylid canolbwyntio i ddechrau ar yr ardaloedd mwyaf Cymraeg, er mwyn cymhathu plant a rhieni newydd-ddyfodiaid ac yna adeiladu gwasanaeth cenedlaethol o fewn 5 mlynedd. Y nod yn y tymor byr bydd recriwtio 5,000 o rieni yn flynyddol.

ii. Athrawon. Mae’r Gymraeg yn rhan o gwrcwlwm craidd pob plentyn. Y nod yw sicrhau bod pob plentyn yn gadael ysgol yn medru siarad Cymraeg. Ar hyn y bryd, hyd yn oed ar ôl deng mlynedd neu fwy o ‘wersi Cymraeg,’ mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn gadael yr ysgol heb yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Un o’r rhesymau am hyn yw nad oes gan lawer iawn o athrawon yn yr ysgolion yr hyder na’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl. Mae angen targedu’r grŵp yma o oedolion – yn arbennig y rhai sy’n cychwyn eu gyrfa fel athrawon. Gwelir hyn fel buddsoddiad allweddol, oherwydd byddai’r grŵp yma o oedolion mewn sefyllfa i drosglwyddo’r Gymraeg i eraill ac yn medru datblygu ac ymarfer eu Cymraeg wrth iddynt fagu hyder a gallu wrth ddysgu Cymraeg. Yn ogystal â hynny wrth gwrs, mae llawer iawn o’r oedolion yma wedi bod drwy’r system addysg yng Nghymru, ac eisoes â sylfaen o allu yn y Gymraeg. Unwaith eto, mae angen cynllunio strategol gan ganolbwyntio ar ardaloedd penodol fel rhan o strategaeth genedlaethol ehangach ar gyfer y Gymraeg. Trwy sefydlu 6-10 o Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg fel yr awgrymir ym Maniffesto Byw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, byddai modd targedu’r dalgylchoedd ysgol yn yr ardaloedd yma, a byddai angen cydweithrediad pob ysgol. Byddai’r rhaglen ddysgu yn seiliedig ar gyrsiau dwys a chyrsiau preswyl er mwyn lleihau’r effaith ar waith yr ysgol o ddydd i ddydd. Y nod yn y tymor byr byddai targedu 20 o ddalgylchoedd ysgol a recriwtio 1,000 o athrawon, sef 10% o ysgolion Cymru ar gyfer rhaglen dros gyfnod o 2/3 mlynedd.

iii. Oedolion ifanc – ar fynediad i addysg bellach/addysg uwch. Er gwaethaf yr ymdrechion dros yr ugain mlynedd diwethaf, nid yw’r sector addysg bellach wedi llwyddo cynnig rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r nifer o ddisgyblion sy’n dewis dilyn cwrs galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn siomedig. Rhan o’r rheswm am hyn yw’r diffyg darpariaeth, y diffyg anogaeth ac efallai diffyg dilyniant yn y gweithle.  Er mwyn torri’r cylch yma, mae angen targedu’r sector, ac yn benodol y Colegau Addysg Bellach sy’n gwasanaethu’r ardaloedd Cymreiciaf fel man cychwyn, gan gynnig rhaglen o wersi gloywi/meistroli iaith mewn cyd-destunau galwedigaethol ochr yn ochr gyda chyfleoedd preswyl fel rhan o’r ddarpariaeth graidd ar gyfer pob myfyrwyr. Y nod yn y tymor byr fyddai targedu 5 safle Coleg Addysg Bellach, e.e. Llandrillo; Ceredigion; Coleg Sir Gâr; Abertawe; Glannau Dyfrdwy a 2,000 o fyfyrwyr. Byddai’r cyfleoedd yma ar gael hefyd i’r tiwtoriaid yn y Colegau.

iv. Gweithleoedd allweddol. Efallai mai’r ail ysgogiad mwyaf i ddysgu neu i feistroli’r Gymraeg yw pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle. Os yw’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fod yn wasanaethau dwyieithog, mae angen cynllun gweithredu ar fyrder i osod y sylfeini. Er gwaethaf yr holl gynlluniau iaith, y tu allan i Wynedd, ac i raddau llai, Ynys Môn, mae gweithleoedd gwasanaethau cyhoeddus yn tueddu i fod yn Saesneg. Mae hyn yn sicr yn wir hefyd am Lywodraeth Cymru, lle mae’r weinyddiaeth fewnol a rhaglenni hyfforddiant mewn swydd yn y Saesneg, a diffyg cynllun gweithredu dros y blynyddoedd i newid y sefyllfa yma. Ymysg y gweithleoedd eraill mwyaf allweddol o ran darpariaeth gwasanaeth i’r cyhoedd y mae’r Gwasanaeth Iechyd, y gwasanaethau gofal a gwasanaethau cymdeithasol, arlwyo, hamdden a thwristiaeth. Nid yw’r rhaglen hyfforddiant yn y gweithle cenedlaethol presennol yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac nid oes strategaeth ar gyfer datblygu rhaglen felly. Mae angen cynllunio rhaglen hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ar fyrder, a dylai hyn gynnwys rhaglen gloywi/meistroli iaith yn ogystal â dysgu Cymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol arwain y ffordd mewn partneriaeth gyda’r rhwydwaith o ganolfannau Cymraeg i oedolion a’r mentrau iaith.

v. Oedolion yn gyffredinol. Amcangyfrifir nad yw 80% o’r rhai sy’n ymuno â chyrsiau Cymraeg i Oedolion yn cyrraedd y tu hwnt i lefel Mynediad neu’r hyn sydd yn gyfwerth â Lefel 1 mewn siarad Cymraeg. Fodd bynnag, mae’n bwysig ymateb i ddiddordeb pobl mewn dysgu Cymraeg. Efallai bod angen ystyried o ddifri newid natur y ddarpariaeth ar gyfer yr oedolion yma, er enghraifft trwy gyfuno cyrsiau iaith a chyrsiau ymwybyddiaeth am y Gymraeg a chefndir diwylliannol a hanesyddol Cymru a’r Gymraeg.

Strwythur Cenedlaethol: Canolfannau Iaith / Mentrau Iaith / Canolfannau Cymraeg

Sefydlwyd rhwydwaith o ganolfannau sydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu Cymraeg. Yn ogystal â hynny wrth  gwrs, mae’r rhwydwaith o ysgolion sydd yn rhan allweddol a chanolog o bob cymuned. Mae angen adeiladu ar yr hyn sydd eisoes mewn bod ond o edrych o’r newydd ar y strategaeth ar  gyfer dysgu Cymraeg i Oedolion mae angen edrych hefyd ar y strwythur  mwyaf cost effeithiol ac yn bwysicach na hynny, y strwythur mwyaf effeithiol o ran argaeledd i ddarpar ddysgwyr. Golyga hyn hefyd yr argaeledd ar gyfer gwahanol grwpiau o oedolion fel y nodir uchod.

Dulliau Dysgu ac Argaeledd

Y dull mwyaf effeithiol o ddysgu unrhyw iaith yw ‘trochi.’ Dyma’r hyn sydd yn greiddiol i gyrsiau Wlpan. Am resymau ymarferol efallai, mae’r mwyafrif llethol o gyrsiau dysgu Cymraeg presennol yn cynnig cyfnodau o awr neu ddwy yr wythnos dros gyfnod o 3/4 mlynedd. O ddatblygu cynllun dysgu Cymraeg i Oedolion llawer iawn mwy strategol, mae angen hefyd rhoi llawer iawn mwy o bwyslais ar ddulliau dysgu sydd yn galluogi pobl i ddod yn siaradwyr Cymraeg ac i fedru cyrraedd y nod yma llawer iawn ynghynt. Oblygiadau hynny yw adnabod ffyrdd y gellir cynnig cyrsiau dwys a chyrsiau preswyl lle y gellir cynnig cyfleoedd trochi. Byddai hyn yn golygu cynyddu’r pwyslais ar ddatblygu a defnyddio canolfannau preswyl fel Nant Gwrtheyrn, a chanolfannau’r Urdd fel Glanllyn a Llangrannog.

Credwn y dylai’r Llywodraeth ystyried opsiynau deddfwriaethol i gryfhau hawliau gweithwyr i ddysgu Cymraeg, gan ganolbwyntio ar sicrhau digon o amser i fynychu cyrsiau ‘trochi’ a chyrsiau dwys eraill. Credwn y dylid cynnig gwersi iaith yn awtomatig i bobl sydd ar lwfans ceisio gwaith yng Nghymru. Mae'r cyrsiau yn gallu arwain at gymhwyster, a hefyd yn fodd gymdeithasol o ddatblygu go gyfer chwilio am waith.

Ymhellach, credwn y dylid ystyried a fyddai mudiad megis Mentrau Iaith, sydd â statws elusennol, allu ceisio gwneud defnydd o siopau gwag dan amodau tebyg siopau elusennol a’u defnyddio ar gyfer cyrsiau trochi i ddysgwyr. Gellid hefyd ystyried datblygu canolfannau cymunedol fel Neuadd Soar ym Merthyr ym mhob cymuned at ddefnydd dysgu Cymraeg, a gellid ystyried defnyddio siopau gwag pentrefi at y pwrpas hwn.

Er mwyn cynyddu’r nifer o oedolion sydd yn llwyddo cyrraedd rhuglder, mae angen system o asesu dysgwyr newydd cyn cychwyn cwrs fel y gellir cyfeirio at y cwrs cywir iddyn nhw. Hynny yw, dylid asesu cymhelliad oedolion i ddysgu yn ogystal â’u dull nhw o ddysgu. Gellir gwneud hwn trwy gynnal cyfweliad byr gydag arbenigwyr addysgiadol fel rhan o’r broses ymrestru: mae angen mwy na llenwi ffurflen.

Dylid hefyd cynnig cyfweliad arbennig i ddysgwyr sydd yn profi anawsterau neu sydd yn atal mynychu dosbarthiadau yn ystod y cwrs, fel y gellir gwell asesu sut i’w helpu ac i addasu’r ffordd maent yn cael eu dysgu, ac o bosib cyfeirio nhw at gwrs mwy addas.

Ochr yn ochr gyda’r datblygiad yma mae angen cryfhau’n sylweddol y defnydd o gyfryngau dysgu a fydd yn atgyfnerthu’r gwersi a’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i oriau dysgu.

  1. Neilltuo cyfran o gyllideb addysg BBC i gomisiynu S4C i lunio cyfresi o raglenni dysgu Cymraeg i gyfateb i wahanol lefelau a gallu – Lefel Mynediad, Lefel 1 a lefelau uwch i’w darlledu y tu allan i oriau brig ac i fod ar gael trwy’r rhwydweithiau digidol.

  2. Comisiynu deunyddiau cyfatebol newydd mewn ffurf CD/digidol wedi eu targedu yn benodol at rieni plant ifanc ac i gyd-fynd gyda’r strategaeth uchod.

  3. Datblygu deunyddiau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle gan ganolbwyntio ar  sectorau penodol  fel y nodwyd uchod.

Un ardal lle nad yw’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi llwyddo yw i ail-greu a datblygu’r elfen gymunedol a ddarparwyd cynt gan CYD. Gan dderbyn mai elfen bwysig o ddysgu iaith yw ei defnyddio ar lefel gymunedol, mae angen llawer mwy o gynllunio er mwyn ffurfio strategaeth genedlaethol. Mae angen sicrhau bod yr elfen gymunedol yn rhan annatod o gyrsiau, ac ystyried gwneud nifer o gredydau/modiwlau yn seiliedig ar fynychu gweithgareddau Cymraeg cymunedol. Yn ogystal, fe ddylai tiwtoriaid a staff y canolfannau gael eu hyfforddi i ddatblygu’r meddylfryd nad rhywbeth ar wahân i’w addysgu yw’r elfen gymunedol, ond rhan annatod o ddod yn rhugl. Bydd hyn oll yn magu hyder dysgwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth, ac yn helpu ail-ffurfio’r rhwydweithiau cymunedol oedd yn arfer bodoli o fewn ardaloedd, a rhwng ardaloedd, cyn dyfodiad y Canolfannau Cymraeg i Oedolion.

Cyllido

Heb ymhelaethu, mae’n amlwg y byddai strategaeth fel yr uchod yn gofyn am gyllideb fwy sylweddol na’r buddsoddiad presennol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu cyllideb newydd. Nid yw’r gwariant prif-lif ar addysg yn neilltuo cyllideb ddigonol ar gyfer y Gymraeg. Cyfeirir yn arbennig at y gyllideb genedlaethol ar gyfer hyfforddiant yn y gweithle, y gyllideb ar gyfer addysg ôl-16 yn gyffredinol, a’r gyllideb ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae’r gwariant cyfrwng Cymraeg ar ei cholled yn sylweddol iawn ym mhob un o’r meysydd yma. Credwn fod y dystiolaeth hon yn cryfhau’r achos dros gynnal asesiad blynyddol o effaith cyllideb y Llywodraeth a’i holl wariant ar y Gymraeg.

Toni Schiavone, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Ionawr 2013