Adolygiad Diamond ar Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr
Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1. Polisi Ffioedd Newydd – Effaith ar Allfudo a'r Gymraeg
Credwn fod angen ail-ystyried polisi presennol y Llywodraeth ar dalu ffioedd myfyrwyr sydd yn dewis astudio tu allan i Gymru er mwyn sicrhau fod gymaint â phosib o’n pobl ifanc yn defnyddio’r adnoddau sy’n cael eu datblygu. Dylid newid y polisi ffïoedd myfyrwyr presennol a chynnig mantais ariannol i fyfyrwyr addysg uwch o Gymru sydd yn astudio yng Nghymru yn unig, yn hytrach na rhoi cymorthdal i'r rhai sydd yn dewis astudio tu hwnt i Gymru. Byddai polisi o'r fath yn lleihau allfudo, sef un o’r prif ffactorau sy’n arwain at y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y wlad. Dylid creu rhagor o gytundebau hyfforddiant mewn sectorau gwaith pwysig a fydd yn cadw gweithwyr yng Nghymru, megis gweithwyr addysg ac iechyd, fel bod modd cadw sgiliau yng Nghymru a chadw siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
2. Ehangu Addysg Gymraeg
Credwn fod angen ehangu darpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel nid yn unig er mwyn rhoi cyfle teg a dewis i bobl ifanc ond hefyd er mwyn gwireddu’r cyfraniad diwylliannol y gall persbectif Cymreig ei gynnig i’r byd. Mae hyn yn fater mwy na chyfrwng ieithyddol addysg; mae perthynas cymhleth rhwng cynnwys a chyfrwng ieithyddol addysg. Mae addysg yn Gymraeg yn cynnig persbectif diwylliannol gwahanol a gwerthfawr ac y mae angen trefniadaeth a chyllid priodol i feithrin a hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg a’r ymwybyddiaeth diwylliannol cysylltiedig. Hyn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ond hefyd, yn anuniongyrchol, ar gyfer myfywyr di-Gymraeg oherwydd mae persbectif Cymreig yn drosglwyddiadwy i gyfryngau ieithyddol eraill. Hynny yw, mae meithrin a datblygu addysg Gymraeg a Chymreig yn gyfraniad addysgol rhyngwladol gwerthfawr.
3. Pwysigrwydd y Coleg Cymraeg
Mae’r cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd yn dangos fod rhieni a myfyrwyr yn gynyddol yn gwerthfawrogi addysg Gymraeg a Chymreig. Mae datblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi creu cyfleoedd newydd ar draws y cwricwlwm i fyfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg wrth barhau gyda’u hastudiaethau ym Mhrifysgolion Cymru. Ni fyddai’r datblygiad yma wedi digwydd onibai bod un corff pwrpasol yn bennaf gyfrifol am ei ddatblygu.
Mae’r Coleg Cymraeg wedi gwneud gwaith arbennig yn agor cyfleoedd i fyfyrwyr astudio amrywiaeth eang o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ond nid yw cyfnod o bum mlynedd yn ddigon i ddatblygu darpariaeth Cymraeg a Chymreig yn y Prifysgolion. Yn awr bod y gwaith cychwynnol o sefydlu’r Coleg Cymraeg wedi’i gyflawni a bod y Coleg wedi profi ei werth credwn fod angen ychwanegu’n sylweddol at gyllid y Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau fod y cyfleoedd yma’n cynyddu.
Credwn fod angen i’r Coleg Cymraeg, y Prifysgolion a Cholegau Addysg Uwch ddatblygu ymhellach y cyrsiau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig yn y meysydd galwedigaethol megis iechyd a gofal, rheolaeth a busnes a datblygiad cymunedol.
Grŵp Ymgyrch Addysg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Chwefror 2015
01970 624501
cymdeithas.org