Adolygiad o addysg Gymraeg ail-iaith: Cyfathrebu’n Gymraeg - Sgil addysgol hanfodol i bawb

[Cliciwch yma i agor y PDF]

[Cliciwch yma i agor y  PDF fersiwn Saesneg / English language version] 

Cyfathrebu’n Gymraeg - Sgil addysgol hanfodol i bawb
Ymateb i adolygiad o addysg Gymraeg ail-iaith

Safbwynt

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Credwn mai methiant addysgol yw amddifadu unrhyw un o'r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrafod ei waith yn Gymraeg. Ni ddylid gosod unrhyw rai dan anfantais yn y Gymru gyfoes, felly galwn am lunio amserlen i sicrhau fod pawb yn ennill y sgil o rugledd yn y Gymraeg.

Dylid datgan yn syth fod bwriad i derfynu "Cymraeg ail iaith" a sicrhau'n hytrach fod symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag astudio’r Gymraeg fel pwnc, fel bod ganddo'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid ydym fel mudiad yn cytuno y dylai yr hawl i fyw eich bywyd yn Gymraeg fod yn gyfyngedig i’r rhai sydd yn digwydd bod yn ddigon ffodus i fynd i ysgolion penodedig Cymraeg, boed hynny oherwydd dewis rhiant neu hap a damwain daearyddol. Ni ddylai system amddifadu dim un plentyn o’u hawliau syflaenol i allu byw eu bywyd yn Gymraeg.

Adolygiad

Mae’r Gymdeithas yn croesawu bodolaeth y Grŵp Adolygu, ac yn croesawu hefyd gydnabyddiaeth y Gweinidog wrth ei sefydlu o ddiffygion y gyfundrefn ‘Cymraeg ail iaith’ bresennol. Nid oes dwy waith: mae’r model presennol o ‘Gymraeg ail iaith’ yn methu, ac mae’r adolygiad hwn yn gyfle felly i roi cychwyn ar chwyldroad llwyr o’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Ein safbwynt ni yw mai’r holl gysyniad o “ail iaith” yw hanfod y methiant. Cyfeiliornus felly yw cais y Gweinidog i chwi ystyried “sut i godi statws Cymraeg ail iaith fel pwnc”.

Dengys ystadegau’r Llywodraeth mai canran y disgyblion sy’n cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf ym Mlwyddyn 9 yw 16.8%, llai na chanran y boblogaeth gyfan sy’n siarad Cymraeg yn ôl canlyniadau’r Cyfrifiad. Mae’r gyfundrefn addysg felly yn gyfrifol ar hyn o bryd am reoli dirywiad y Gymraeg ac am barhau i amddifadu mwyafrif llethol poblogaeth Cymru o’r cyfle i’w siarad. Mae hyn yn gwbl groes i bolisi’r Llywodraeth.

Nod

Ar hyn o bryd mae gwahanol bolisïau’r awdurdodau addysg yn golygu bod cryn amrywio rhwng ardaloedd o ran cyfleoedd pobl ifanc i ddysgu siarad Cymraeg i lefel ymarferol ddefnyddiol. Er mai’r un yw’r nod ledled Cymru yn y pen draw felly - sef galluogi pawb yng Nghymru i adael yr ysgol yn gallu byw a gweithio drwy’r Gymraeg - bydd angen gweithredu’n wahanol yn ôl y sefyllfa bresennol ymhob ardal.

Mewn ardaloedd lle daeth addysg gynradd Gymraeg yn norm i bob disgybl, y blaenoriaethau i ddechrau fydd:

(1) Sicrhau cyfundrefnau i barhau hyn at y sector uwchradd ac oedran 14-19 trwy sicrhau:

  • a. cynnydd yn nifer yr ysgolion uwchradd sy'n dysgu o leiaf 80% o'r cwricwlwm i bawb yn Gymraeg
  • b. llunio rhaglenni i symud ysgolion uwchradd 2b i fod yn rhai 2a i ddechrau trwy gofrestru'n ddi-ofyn pob disgybl a ddaw o ysgol gynradd Gymraeg mewn ffrwd Gymraeg

(2) Sicrhau trefniant o leiaf mor effeithiol â threfniadau presennol Gwynedd i gymhathu hwyr-ddyfodiaid mewn canolfannau arbennig cyn eu dychwelyd at eu hysgolion cymunedol;

(3) Rhaglen frys i sicrhau fod yr ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg yn y siroedd hyn yn dechrau cyflwyno peth o'u cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg (syniadau pellach yn yr adran nesaf) fel bod llai o gymhelliant i rieni symud plant o'u cynefin at ysgol uwchradd o'r fath;

(4) Sicrhau nad yw Colegau'n dyfarnu fod unrhyw fyfyriwr wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus heb ddangos y gallu i gyflawni'i waith yn Gymraeg;

(5) Sicrhau bod Colegau a darparwyr preifat yn parchu polisïau iaith ysgolion y maent yn trefnu cyrsiau ynddynt.

Mewn siroedd ac ardaloedd eraill o Gymru ein bod yn symud tuag at gydnabod a gwireddu hawl sylfaenol holl bobl ifanc Cymru i allu defnyddio’r Gymraeg trwy wneud y canlynol:

(1) Estyn y rhwydwaith o ysgolion penodedig Cymraeg fel bod y dewis a'r gallu ymarferol gan rieni o sicrhau fod eu plant yn gallu ymdrochi'n llwyr yn y Gymraeg;

(2) Dileu'r pwnc "Cymraeg Ail Iaith". Bydd pob myfyriwr yn astudio "Cymraeg" fel yr astudiant "Saesneg" ac anelir at wahanol raddau o hyfedredd yn y Gymraeg;

(3) Mewn ysgolion heblaw am y rhai penodedig Cymraeg (yn y sector cynradd ac uwchradd, er y gall fod mwy o bwyslais i ddechrau ar y cynradd) fod symud o fewn blwyddyn i ddechrau cyflwyno peth o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfeirir yn enghreifftiol at Addysg Gorfforol a Thechnoleg. Ar lefel cynradd, cynigir y dylid dysgu Astudiaethau "Bro" yn Gymraeg - a hynny er mwyn gwreiddio ymlyniad y disgybl tuag at yr iaith yn ei gynefin. Fel hyn y daw pob disgybl i fedru defnyddio'r Gymraeg. Anelir yn y pen draw at drefn lle bydd pob ysgol yn dysgu lleiafswm o 30% o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr ardaloedd hynny felly sy'n ddigon poblog i gynnal dewis rhwng gwahanol fodelau, y dewis fyddai rhwng ysgolion sy'n addysgu 80%-100% o'r cwricwlwm yn Gymraeg a rhai sy'n addysgu 30% trwy gyfrwng y Gymraeg. Terfynir y drefn gostfawr ac aneffeithiol o gael ffrydiau cyfochrog Cymraeg a Saesneg yn astudio'r un pynciau yn yr un ysgol. Ni byddai dewis o amddifadu disgybl o'r sgil addysgol hanfodol o fedru trin ei waith yn Gymraeg - yn yr un modd a na fyddai'n dderbyniol i amddifadu disgybl o'r gallu i drin gwaith yn Saesneg na'i amddifadu o sgiliau technoleg gwybodaeth. Cydnabyddir y Gymraeg yn gyfrwng hanfodol;

(4) Rhoddid rhybudd, o fewn amserlen resymol, na byddai cefnogaeth gyllidol gyhoeddus i unrhyw gylch meithrin a oedd yn rhagfarnu'n erbyn y Gymraeg.

Adnoddau Dynol

Yr her fwyaf yn hyn o beth fydd adnoddau dynol. Ar hyn o bryd lleiafrif yr athrawon sy’n cymhwyso newydd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth sy’n tanseilio’r gyfundrefn addysg yn llwyr ac yn arwain at atgyfnerthu gwendidau’r gorffennol. Bydd angen gweddnewid cyfundrefnau hyfforddi athrawon a gweithwyr eraill yn y sector yn llwyr.

O ran hyfforddi athrawon newydd:

(1) Bydd angen i bob ymgeisydd newydd i fod yn athro yng Nghymru ddangos lefel o allu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg;

(2) Dylai myfyrwyr sy’n cael eu derbyn i wneud Tystysgrif Addysgu Ôl-raddedig (TAR) yng Nghymru fod yn rhugl yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o athrawon dwyieithog ar gael i weithio yn ysgolion Cymru. Ar hyn o bryd nid oes targedau o gwbl ar gyfer cyfran y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar gyrsiau TAR. Dylid cychwyn drwy osod cwota bod 40% o fyfyrwyr sy’n cael eu derbyn ar gwrs TAR yn rhugl yn y Gymraeg ar unwaith, gan gynyddu’r cwota hwn 10 pwynt canran bob blwyddyn fel ei fod yn 100% erbyn 2020;

(3) Er mwyn bodloni’r galw am athrawon dwyieithog a galluogi myfyrwyr yng Nghymru sydd am fynd yn athrawon ond sydd heb y sgiliau priodol yn y Gymraeg - gan fod y gyfundrefn bresennol wedi eu gadael nhw eu hunain i lawr - bydd angen creu cwrs newydd, blwyddyn o hyd, ar eu cyfer. Bydd y cwrs hwn yn llawn amser, wedi ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru fel TAR, ac yn hyfforddi myfyrwyr nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg, dros gyfnod o flwyddyn (a) i ddod yn siaradwyr Cymraeg a (b) i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran hyfforddi athrawon a gweithwyr cysylltiedig sy’n rhan o’r gyfundrefn ar hyn o bryd:

(1) Dylai fod hyfforddiant dwys mewn swydd wedi'i dargedu at athrawon uwchradd, gan gychwyn yn y meysydd/pynciau y byddai angen eu cyflwyno'n gyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg e.e. Addysg Gorfforol, Astudiaethau Bro ac ati. Er mwyn i hyn fod yn effeithiol bydd yn golygu rhyddhau athrawon o’u dyletswyddau addysgu, ar batrwm y Cynllun Sabothol, er mwyn cael hyfforddiant i ddod yn siaradwyr Cymraeg ac wedyn i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn y byddai angen chwe mis o hyfforddiant dwys amser llawn i gyflawni hyn;

(2) Bydd angen hyfforddiant dwys tebyg ar athrawon mewn ysgolion cynradd. Bydd angen buddsoddi’n helaeth yn yr hyfforddiant hwn, i athrawon cynradd ac uwchradd, oherwydd yr angen i ryddhau staff o’u dyletswyddau addysgu, ond bydd yn golygu gweddnewid ysgolion Cymru yn llwyr ac yn golygu dros amser y bydd modd gwireddu hawl pob disgybl i gael dysgu’r Gymraeg;

(3) Er mwyn gwireddu’r cynlluniau uchelgeisiol hyn mae angen gweledigaeth ac arweiniad. Credwn y dylid rhoi'r cyfrifoldeb, o fewn amserlen penodedig, dros hyfforddi athrawon yng Nghymru i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - gan drosglwyddo iddo adnoddau digonol i gyflawni hyn.

Grwp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mehefin 2013
post@cymdeithas.org
01970 624501