Amserlen Diddymu Cymraeg Ail Iaith - Llythyr at Kirsty Williams

Awst 2016

Annwyl Ysgrifennydd Addysg, 

Diolch am gwrdd â ni ddiwedd mis diwethaf i drafod nifer o faterion addysg sy'n effeithio ar y Gymraeg a chymunedau Cymru. Roedd yn galonogol clywed eich bod, fel ninnau, yn gweld y gyfundrefn addysg fel un o'r allweddi er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.  

Wrth reswm, os ydyn ni am gyrraedd y miliwn, ni all ein Llywodraeth barhau â'r system 'Cymraeg Ail Iaith' sy'n amddifadu tua 80% o'n pobl ifanc, neu oddeutu 27,000, o'r Gymraeg bob blwyddyn. System sydd hefyd yn creu cymhelliant i rai ysgolion, yn enwedig yn y Gorllewin, danberfformio'n ddifrifol o ran sicrhau bod disgyblion yn caffael y Gymraeg yn rhugl.  

 

Rydym yn erfyn arnoch felly i wrth-droi penderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith. Gallwch chi benderfynu gwrthdroi safbwynt y corff nawrac mae gennych chi'r cyfle wneud hynnyWedi'r cwbl, pwy arall fydd yn sefyll lan dros y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg, nid oherwydd eu gallu, ond oherwydd methiannau'r gyfundrefn? 

Mae bellach bron i dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ym mis Medi 2013 a argymhellodd gyflwyno cymhwyster newydd yn lle Cymraeg Ail Iaith o fewn tair i bum mlynedd.  

Galwn arnoch felly i gyflwyno un cymhwyster Cymraeg newydd, a fydd yn disodli Cymraeg Ail Iaith, erbyn 2018 fan hwyraf er mwyn gweithredu argymhellion yr adroddiad. 

Mae arbenigwyr yn glir ei bod yn gwbl ymarferol diddymu TGAU Cymraeg Ail Iaith, gan sefydlu yn ei le un cymhwyster cyfun Cymraeg i bob disgybl erbyn 2018 gyda disgyblion yn sefyll yr arholiad cyfun newydd yn 2020. Yn wir, roedd CBAC yn glir mewn cyfarfod gyda ni bod modd cyflwyno un cymhwyster cyn hynny os gwneir penderfyniad clir gan y Llywodraeth nawr.  

Mae Cymwysterau Cymru bellach wedi sefydlu gweithgor sy'n edrych ar ddiwygio, nid diddymu, Cymraeg Ail Iaith. Gan ystyried barn glir y Prif Weinidog a chithau mai diddymu nid diwygio'r cymhwyster yw'r ffordd ymlaen, mae gweithgor o'r fath yn wastraff amser, egni ac adnoddau. Mae Cymwysterau Cymru yn honni mai 'cam dros dro yn unig' yw'r diwygiad i Gymraeg Ail Iaith cyn i'r un continwwm dysgu gael ei gyflwyno. Fodd bynnag, nid oes n am beth yw ystyr 'dros dro'. 

Fel dywedom yn y cyfarfod gyda chi, os caiff y system 'Cymraeg Ail Iaith' ei diwygio yn lle ei disodli gan system newydd sbon, credwn yn y pendraw bydd y system fel y mae yn parhau. Mae'r grym yn eich dwylo chi i newid hyn. Rydym yn erfyn arnoch i godi disgwyliadau ein disgyblion, ymarferwyr a sefydliadau addysg. Os na wneir hyn ar yr un pryd â chyflwyno'r cwricwlwm newydd, byddwn wedi colli'r cyfle am genhedlaeth arall.  

Ydych chi felly yn cefnogi ein cais bod y cwricwlwm Cymraeg Iaith newydd mewn lle erbyn 2018 a bod disgyblion cyntaf yn sefyll arholiad ar gyfer un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yn 2020? 

Yr eiddoch yn gywir, 

Toni Schiavone

Cadeirydd, Grwp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg