[Cliciwch yma am y fersiwn Saesneg / Click here for English language version]
Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1. Cyflwyniad
Mae darlledu Cymraeg mewn cyflwr difrifol, bregus a bellach mae’n fater o gryn bryder i bawb sydd eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Bwriad y papur hwn yw amlinellu opsiynau amgen ar gyfer ariannu darlledu er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ar y cyfryngau a bod ffynonellau ariannol cadarn ar gael er mwyn hyrwyddo ein hiaith genedlaethol unigryw a bodloni'r hawl sydd gan bob dinesydd yng Nghymru i weld ac i glywed y Gymraeg.
Mae S4C a Radio Cymru yn wynebu heriau digynsail. Mae’r sianel a’r orsaf Gymraeg genedlaethol wedi gweld toriadau sylweddol a bygythiadau parhaol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r dyfodol yn ansicr iawn. Maent hefyd wedi cael eu beirniadu am drio, a methu, bod yn bopeth i bawb. Tra bod hyn oll yn digwydd, mae darlledwyr a chwmnïau cyfryngau preifat yn parhau i weld cynnydd sylweddol blynyddol yn eu trosiant a’u helw.
Wrth awgrymu ffynonellau amgen ar gyfer ariannu S4C ac, i raddau, ariannu Radio Cymru, rydym hefyd yn awgrymu y dylai cyfran o unrhyw arian ychwanegol a godir gael ei chlustnodi yn benodol ar gyfer sefydlu gwasanaeth newydd. Yn ail ran y papur yma felly rydym yn rhannu ein gweledigaeth am ddarparydd amlgyfryngol newydd a fydd yn llenwi bwlch amlwg yn y farchnad trwy ganolbwyntio ar gynulleidfa o Gymry ifanc ac fydd yn mynd i’r afael â phroblemau ieithyddol ymysg y grŵp oedran hwnnw.
Ymhellach, credwn fod rhaid i’r drafodaeth hon ddigwydd yng nghyd-destun yr angen i ddatganoli darlledu i Gymru er mwyn sefydlu trefn sy’n adlewyrchu anghenion Cymru.
2. Y Cyd-destun Ariannol
Mae darlledwyr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain wedi dioddef toriadau mawr yn eu cyllid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, ac er gwaethaf y dirwasgiad, mae darlledwyr preifat, megis British Sky Broadcasting (Sky) ac ITV, wedi gweld cynnydd mawr yn eu helw. Mae llwyfannau ar-lein, megis Google a Facebook, hefyd yn parhau i weld cynnydd mawr yn eu trosiant blynyddol, ac yn defnyddio strwythurau busnes cymhleth er mwyn osgoi talu trethi llawn i‘r llywodraeth.
2.1. Darlledwyr cyhoeddus
Diddymwyd y fformiwla ariannu statudol a roddai sicrwydd ynghylch yr arian a roddir i S4C drwy newidiadau yn y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus. Unodd miloedd o bobl tu ôl i ymgyrch y Gymdeithas o dan y faner “Na i doriadau - Ie i S4C newydd”, ond cafwyd toriadau o 92% i grant S4C gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn bargen a darwyd rhwng y BBC a Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010 - penderfyniad a wnaed yn Llundain heb ymgynghori â neb yng Nghymru. Hyd yn oed wedi ystyried y cyfraniad o’r ffi drwydded, mae’r toriadau i S4C yn gyfystyr â 40%, ffigwr y dywedwyd y byddai’n gwneud y gwasanaeth yn anghynaladwy. Yn wyneb y toriadau hyn, gwelwyd penderfyniad diweddar gan S4C i ganoli eu contractau gyda nifer llai o gwmnïau mawrion gan leihau budd y sector i gynhyrchwyr bychain.
2.2. Darlledwyr preifat
Tra bod toriadau mawr wedi bod i gyllid darlledwyr cyhoeddus, mae patrwm i’r gwrthwyneb i’w weld yn elw cwmnïau cyfryngau preifat. Mae trosiant BSkyB wedi cynyddu o £5.4 biliwn yn 2009 i £7.2 biliwn yn 2013, cynnydd o 33%. Mae’r cwmni bellach yn gwneud elw o £1.3 biliwn yn flynyddol (2013) o gymharu ag £813 miliwn yn 2009, sef cynnydd o £487 miliwn (60%) yn flynyddol.
Mae ITV hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn ei elw yn ystod y pum mlynedd yn arwain at 2013. Yn 2009, trosiant y cwmni oedd £1.9 biliwn. Gwelwyd cynnydd blynyddol cyson, gan gyrraedd £2.4 biliwn yn 2013. Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd enfawr (278%) yn ei elw felly, o £196 miliwn yn 2009 i £546 miliwn yn 2013.
2.3. Llwyfannau ar-lein
Mae llwyfannau ar-lein hefyd wedi gweld cynnydd cyson a sylweddol yn eu trosiant a’u helw yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Tra bod y cwmnïau hyn yn gwneud elw mawr ac yn osgoi talu trethi llawn yng ngwledydd Prydain, maent hefyd yn defnyddio cynnwys cynhyrchwyr eraill heb dalu unrhyw ffi am yr hawl i ddefnyddio’r cynnwys hwnnw.
Yn achos Google, mae rhywfaint o ddarpariaeth arwynebol Cymraeg a Chymreig ar gael, yn bennaf mewn rhai rhyngwynebau, ond mae diffygion amlwg yn dal i fod, sy’n ein gorfodi i ddefnyddio’r Saesneg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â’r cwmni i geisio trafod darpariaeth Gymraeg mewn cynnyrch a gwasanaethau eraill, gan gynnwys Android, Search, YouTube, Maps, Drive, Calendar, Alerts ac Analytics. Er gwaethaf sawl cais am gyfarfod, dyw Google heb ddangos diddordeb trafod ein pryderon.
Yn 2013, gwelodd cwmni Google gynnydd yn ei incwm yng ngwledydd Prydain i £3.4 biliwn (sy’n gynnydd o 15.5% ar 2012). O gymharu, casglwyd £3.65 biliwn trwy ffi drwydded y BBC yn ystod yr un adeg. Mae hyn yn awgrymu bod incwm Google yng ngwledydd Prydain yn gyfuwch â’r arian a gasglwyd trwy’r ffi drwydded yn 2014. Mae’r rhan fwyaf o gyllid Google yn dod trwy hysbysebion - 96% yn 2011 ac, er gwaethaf ei enillion sylweddol, dim ond £11.2m o dreth gorfforaethol a dalwyd gan Google yn 2012.
Yn chwarter cyntaf 2014 yn unig, gwelodd cwmni Facebook elw o £383m yn rhyngwladol. Roedd refeniw yn ystod yr un cyfnod yn £2.5 biliwn, sef cynnydd o 72% ar yr un cyfnod yn 2013, yn bennaf oherwydd twf mewn hysbysebion ar ddyfeisiau symudol.
3. Opsiynau Ariannu Darlledu Cymraeg
Mae yna sawl opsiwn a model ar gyfer ariannu gwasanaethau darlledu Cymraeg. Yn y papur hwn, ystyriwn yr opsiynau a amlinellir isod er mwyn sicrhau bod rhagor o fuddsoddi mewn darlledu Cymraeg.
Ers i’r Gymdeithas lansio ymgyrch i ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru, rydym wedi gweld nifer fawr o sefydliadau a gwleidyddion o nifer o bleidiau yn cefnogi ein galwad. Ymhellach, ymddengys fod pobl Cymru yn gefnogol iawn o’n safbwynt yn ogystal. Yn ôl arolwg barn a gynhaliwyd gan Gomisiwn Silk, roedd 58% o’r boblogaeth yn cefnogi datganoli darlledu, sy’n uwch na nifer o feysydd eraill.
3.1. Cyfran statudol o’r ffi drwydded Brydeinig
Ni ellir rhedeg sianel deledu heb sicrwydd ynglŷn â chyllid digonol. Mae’r cytundeb presennol yn rhoi arian pendant i S4C hyd at 2016-7. Credwn fod angen fformiwla ariannol i S4C fydd yn rhoi sefydlogrwydd hirdymor iddi wneud ei gwaith yn hyderus. Byddai cyfran statudol o’r ffi drwydded Brydeinig yn galluogi hyn.
3.2. Ffî drwydded Gymreig gyda chyfran ohoni yn mynd yn syth i S4C
Yn debyg i opsiwn 1, byddai ffi drwydded Gymreig yn rhoi mwy o sicrwydd i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru ac i S4C yn benodol. Rydym yn sylweddoli y byddai angen cyfnod o amser er mwyn sefydlu cyfundrefn ar wahân i Gymru. Ond gyda’r ffi drwydded ar lefel Brydeinig o dan fygythiad, byddai’n synhwyrol i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil ar gostau ac ymarferoldeb sefydlu’r gyfundrefn Gymreig.
3.3. Ariannu’n uniongyrchol gan y Cynulliad
Yn 2014, awgrymodd Comisiwn Silk y dylai'r cyfrifoldeb dros ariannu S4C symud o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru yn ogystal â newidiadau strwythurol eraill. Ymhellach, mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Prydeinig wedi dweud ei fod yn ystyried symudiad o’r fath. Fodd bynnag, yn ddelfrydol, ac er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a’r gallu yng Nghymru i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu, byddai grymoedd ariannu a deddfu dros y cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dim ond datganoli llawn fyddai’n caniatáu i bobl Cymru lunio cyfundrefn sy’n addas iddyn nhw.
3.4. Treth ar wasanaethau rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu
Mae darparwyr rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu yn cynnig llwyfannau eang i wylio a defnyddio cynnwys cyfryngol. Mae’r cwmnïau yma, megis TalkTalk, EE (Orange/T-Mobile), Sky Broadband, Virgin Media a Vodafone, hefyd yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn eu helw, flwyddyn ar ôl flwyddyn. Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o 2013 yn awgrymu bod gan 21 miliwn o gartrefi yng ngwledydd Prydain fynediad i’r rhyngrwyd. Maent hefyd yn nodi bod mynediad i’r rhyngrwyd drwy ffonau symudol wedi mwy na dyblu rhwng 2010 a 2013, o 24% i 53%. Yn seiliedig ar y ffigwr uchod, byddai ardoll ar gyfradd unffurf o £5 yn flynyddol fesul pob tanysgrifiwr yn codi £105 miliwn.
Mae’r ffigyrau uchod yn dangos yn glir y symiau o arian sy’n llifo trwy ddwylo’r cwmnïau preifat. Trwy osod ardoll yn uniongyrchol ar drosiant neu elw’r darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a’r cwmnïau telathrebu, gellir sicrhau ffynhonnell sylweddol o gyllid ychwanegol i ddarlledu cyhoeddus.
Amcangyfrif o faint y gellir ei godi trwy ardoll o 1% ar drosiant 2013 TalkTalk £1.7 biliwn = £17 miliwn
Amcangyfrif o faint y gellir ei godi trwy ardoll o 1% ar drosiant EE (Orange/T-Mobile) £3.2 biliwn = £32 miliwn
3.5. Treth ar hysbysebion
Ym 1998, mewn adroddiad gan gronfa ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, awgrymwyd y dylai cwmnïau glustnodi 3% o’u cyllid hysbysebu er mwyn cyllido "non-profit, certified, qualified, public interest TV and radio producers" er mwyn talu am "counter-advertising". Yn y Deyrnas Unedig yn benodol, mae’r Awdurdod Safonau Hybysebu (ASA, corff sy’n rheoleiddio hysbysebu ar draws y cyfryngau ar lefel Brydeinig) yn cael ei gyllido trwy ardoll o 0.1% ar y gost o brynu gofod hysbysebu a 0.2% ar rywfaint o bost uniongyrchol. Mae hyn yn galluogi’r ASA i ymateb i gwynion ac i wirio hysbysebion i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cod ymddygiad o ran hysbysebion camarweiniol, niweidiol neu sarhaus.
Yn ddiweddar, mae’r cysyniad yma o gronfa hysbysebu wedi cael ei gynnig ynghylch materion gwyrdd. Mae’r ‘Maniffesto Gwyrdd’ yn cynnig ardoll o 0.1% ar gwmnïau sy’n hysbysebu yn y Deyrnas Unedig. Mae awduron y maniffesto yn dadlau y dylid:
“codi gordal bychan ar hysbysebu confensiynol (fel y mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu eisoes yn ei wneud i dalu am ei wasanaeth cydymffurfio) er mwyn catalyddu symudiad i arferion defnyddio cynaliadwy, gan gael barn y cyhoedd ar gyfer syniadau newydd a’u cyflwyno trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol”
Mae un o awduron y maniffesto yn awgrymu y gallai ardoll o’r fath godi £16 miliwn ar lefel Brydeinig, ac yn rhesymegol felly, gallai’r incwm gynyddu i tua £160 miliwn pe codid yr ardoll i hyd at 1%10.Yn y cyd-destun Cymraeg, gallai ardoll ar gwmnïau sy’n hysbysebu yng Nghymru neu yng ngwledydd Prydain gyfrannu at gyllido darlledu cyhoeddus yn gyffredinol, gan eithrio unrhyw gwmni sy’n bodloni disgwyliadau cod marchnata Cymraeg.
3.6. Treth ar y diwydiant darlledu a’r sector preifat
Yr opsiwn olaf a argymhellir yw cyflwyno ardollau diwydiannol, sef treth neu daliad ychwanegol gan adrannau penodol o’r diwydiant cyfryngau, yn seiliedig ar drosiant blynyddol neu elw. Mae ardollau diwydiannol yn bodoli eisioes mewn nifer o wledydd Ewropeaidd, felly nid ydynt yn gysyniad newydd. Yn Ffrainc, mae’r Centre National de la Cinématographie (CNC) yn cael ei gyllido trwy system o ardollau ar ddarlledwyr, sinemâu a labeli fideo. Mae’r system yn codi tua 500 miliwn ewro y flwyddyn tuag at gynhyrchu ffilmiau yn Ffrangeg.
Wrth edrych ar y farchnad ddarlledu yng ngwledydd Prydain, mae’n glir bod cynnydd aruthrol wedi bod yn incwm y cwmnïau hyn, tra bod toriadau wedi bod i ddarlledwyr cyhoeddus.
Yn seiliedig ar y ffigyrau o 2013 yn adran flaenorol y papur hwn:
Amcangyfrif o faint y gellir ei godi trwy ardoll o 1% ar drosiant BSkyB
£7.2 biliwn = £72 miliwn
Amcangyfrif o faint y gellir ei godi trwy ardoll 1% ar drosiant Google
£3.4 biliwn = £34 miliwn
Drwy ymestyn yr ardoll o 1% i drosiant cwmnïau preifat eraill fel Facebook a Virgin Media, ac ymhellach i’r cwmnïau telathrebu, megis Vodafone, EE a TalkTalk, gellir codi swm sylweddol er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus ar draws gwledydd Prydain gyda chyfran deg ohono yn mynd yn syth at S4C ac at ddarparydd newydd yn y Gymraeg.
4. Darparydd Newydd Amlgyfryngol
Pan fyddwn yn ceisio esbonio’r ymgyrch i sefydlu ‘darparydd’ newydd, mae rhai pobl yn camddeall y syniad. Pan sefydlom, fel mudiad, Sianel 62, gwelwyd enghraifft, ar lefel fach, o’r math o endid y gellid ei greu o’r newydd. Ydy, mae’r darparydd newydd yn creu ac yn dosbarthu cynnwys, ond mae’n fwy na darlledwr gan y byddai’n cael ei sefydlu i ddosbarthu cynnwys ar bob math o lwyfan - o’r radio a’r teledu i’r we a dyfeisiadau symudol - ac yn barod am oes cydgyfeiriant lle mae ffynhonellau adloniant a newyddion yn dechrau dod ynghyd.
Credwn y dylid defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol hwn er mwyn gwella darlledu yn Gymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys S4C a Radio Cymru, ond hefyd er mwyn sefydlu gwasanaeth newydd a fyddai’n ymateb i’r newidiadau mawrion ar y gweill yn y cyfryngau, gan ryddhau Radio Cymru ac S4C o’r baich o orfod darparu ar gyfer yr holl gynulleidfa Gymraeg. Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg ac mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng.
Ni ddylid edrych mewn termau mor gul ag ail orsaf radio neu sianel deledu Gymraeg. Mae potensial i ddarparydd newydd, amlgyfryngol, gyflawni llawer mwy. Byddai strwythur gwahanol yn adlewyrchu’r angen am wasanaeth sy’n amlgyfryngol o’r cychwyn, gan ddefnyddio llwyfannau newydd i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Byddai’n llesol i S4C, Radio Cymru, y BBC ac, yn bwysicach, i’r Gymraeg a’i chymunedau, petai darparydd amlgyfryngol newydd o’r fath yn cael ei sefydlu. Byddai’n ehangu’r gynulleidfa sy’n gwrando, yn gwylio ac yn defnyddio’u Cymraeg. Gallai ddarparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol i gynnig llwyfan i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un-ffordd traddodiadol, ei amcan fyddai cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Nid darlledwr er ei les ei hunan, ond er lles yr iaith, sydd ei angen.
Bwriad y Gymdeithas yw canolbwyntio ar geisio sefydlu darparydd newydd a allai ehangu’r gynulleidfa Gymraeg a rhyddhau S4C, Radio Cymru (a’r BBC yn ehangach) rhag ceisio gwasanaethu’r holl gynulleidfa Gymraeg a phob grŵp oedran, a’r problemau mae hynny’n ei achosi. Byddai hyn yn caniatáu i S4C a Radio Cymru ganolbwyntio ar gynulleidfa darged fwy penodol, ond hefyd yn sbarduno creadigrwydd gyda’r her o gystadleuaeth. O ganlyniad, credwn y byddai creu darparydd newydd annibynnol yn cryfhau darlledu Cymraeg yn ei gyfanrwydd.
Yn anffodus, nid yw’r BBC yn gweld cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau fel rhan o’i swyddogaeth na’i ddiben, ac ni fyddai’r BBC yn gallu gwireddu amcanion angenrheidiol y gwasanaeth newydd, ond dylai fod gan y gorfforaeth ran i’w chwarae wrth gynorthwyo a hwyluso’r gwaith o sefydlu darparydd newydd. Dylai’r BBC gynnig adnoddau a chymorth i sefydlu menter newydd o’r fath, ac annog partneriaid i weithio mewn ffordd debyg. Byddai hynny’n llesol i’r Gymraeg a phlwraliaeth cyfryngau Cymru ond hefyd yn rhyddhau’r gorfforaeth i ddarparu gwasanaeth Cymraeg mwy pwrpasol. Dylai’r BBC gynnig yr opsiynau a gynigwyd ganddynt yn 2008 i ITV ac eraill i’r darparydd Cymraeg newydd yn ogystal â darparwyr bro eraill megis Radio Beca. Yn ei chynigion yn 2008, dywedodd y gorfforaeth y byddai:
“Rhannu gwybodaeth ac arbenigedd y BBC mewn cynhyrchu digidol. … Petai’r BBC yn rhannu’i wybodaeth a’i arbenigedd â chynhyrchwyr, darlledwyr, cyhoeddwyr a gwneuthurwyr offer darlledu a chynhyrchu, gellid datgloi llawer o’r cyfle hwn ledled y diwydiant. Gallai darlledwyr eraill – ac yn arbennig DGCau (Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus) eraill – symud yn haws i’r platfformau digidol newydd, a phetai DGCau eraill yn gallu sicrhau arbedion tebyg i rai’r BBC, yna byddai eu cyllidebau cynnwys llinol yn mynd ymhellach. O ganlyniad, byddai eu gallu i barhau i gefnogi DGC yn cael ei wella’n sylweddol … Archwilio ffyrdd o sicrhau bod peth o ddeunyddiau newyddion rhanbarthol a lleol y BBC ar gael i ddarlledwyr eraill i’w hailbwrpasu a’u hailddarlledu mewn ffyrdd sy’n cefnogi economeg y ddarpariaeth newyddion ranbarthol y tu hwnt i’r BBC.”
Gallai cynigion o’r fath i ddarparydd aml-gyfryngol fod o gymorth mawr wrth ei sefydlu o’r newydd a’i gynnal. Yn ogystal, credwn y dylai’r BBC gynnig adnoddau eraill i’r darparydd newydd a darlledwyr bro Cymraeg, megis gwasanaethau darlledu a throsglwyddyddion.
Prif ddiben y gwasanaeth fyddai hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, gan anelu at gynulleidfa iau. Mae angen darpariaeth a fydd yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl yn eu harddegau ac yn eu hugeiniau cynnar, lle gwelwyd y cwymp mwyaf o ran defnydd o’r Gymraeg yn y cyfrifiad diwethaf. Gallai’r darparydd newydd hwn roi hwb i’r defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc yn enwedig. Nid yw’r darparwyr presennol yn ddigonol er mwyn cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Mae angen sefydlu endid newydd felly a fydd yn rhoi hybu’r Gymraeg wrth galon ei waith.
5. Casgliad
Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar hysbysebwyr, er mwyn cyllido darlledu cyhoeddus yn y Gymraeg ac er mwyn sefydlu gwasanaeth amlgyfryngol newydd. Gellid ystyried codi ardoll ar lefel Gymreig, Brydeinig neu Ewropeaidd, gyda gweithgor yn cael ei sefydlu i osod seiliau i’r darparydd newydd.
Yn amlwg, mae gan system o ardollau botensial i godi symiau sylweddol ychwanegol er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus. Ni fyddai’r Deyrnas Unedig yn torri tir newydd yn hyn o beth. Mae ardollau o’r fath yn bodoli mewn gwledydd ar draws y byd, ac yn fecanwaith sefydledig ar gyfer cyllido cynnwys a gwasanaethau cyfryngol. Ar lefel Brydeinig, gallai cyfuniad o’r trethi neu’r ardollau hyn godi, ar radd gymharol isel, sef 1% neu lai, ymhell dros £200 miliwn y flwyddyn, gan greu incwm o ymhell dros £10 miliwn y flwyddyn ar lefel Gymreig.
Fel y gwelwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddodd newidiadau deddfwriaethol rwydd hynt i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r BBC gwtogi ar ariannu darlledu Cymraeg. Pa ddull bynnag o ariannu a ddewisir er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn gallu ffynnu yn y cyfryngau dros y blynyddoedd i ddod, credwn fod angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth i S4C ac i ddarlledu yn Gymraeg yn gyffredinol.
Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Awst 2014