Bil Addysg Gymraeg i Bawb - Ymateb i adolygiad Bwrdd CSGA

Bil Addysg Gymraeg i Bawb 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i adolygiad Bwrdd CSGA 

1.Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgyrchu dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ers dros hanner ganrif.   

1.2. Rydym yn cytuno’n gryf bod angen newid y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Erfyniwn ar y Llywodraeth i beidio â gwanhau Mesur y Gymraeg 2011, ac yn lle, canolbwyntio ar newid y ddeddfwriaeth addysg Gymraeg.   

1.3. Croesawn yn benodol y penderfyniad i gynnull panel o arbenigwyr i ystyried newidiadau i'r gyfraith. Mae'n drueni nad oedd y Llywodraeth wedi dilyn y model yma cyn mynd ati i lunio cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. 

1.4. Nid yw Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi cyflawni ac mae angen creu strwythur fydd yn arwain at normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle euraid i fynd i'r afael â’r diffygion difrifol hynny. Nid yw’n addas, yn sgil yr addewidion pwysig a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaeth iaith ddiweddar, i oddef system mor aneffeithiol ac adweithiol. Rhaid sefydlu cyfundrefn sy’n sicrhau cynllunio rhagweithiol, bwriadus, cadarn a hir dymor, gan fod y drefn bresennol wedi methu.   

2.Prif Argymhellion 

2.1. Gallwn grynhoi ein prif argymhellion fel y canlyn: 

(i) Yn sgil y consensws trawsbleidiol a pholisi cadarn y Llywodraeth o blaid y targed miliwn o siaradwyr, mae angen newid sail ddeddfwriaethol y gyfundrefn addysg Gymraeg. Yn rhesymegol, mae angen dileu ‘mesur y galw’ fel sail ac yn lle sefydlu cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, fel a wneir yng Nghatalwnia lle mae’r gyfraith yn datgan: “Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol”  

(ii) Er mwyn trawsnewid y system o fewn ychydig o ddegawdau i system fel un Catalwnia, dylid disodli’r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd wedi methu gyda system sy’n gosod targedau clir, di-droi'n-ôl. Mae angen targedau tymor byr, pob pum mlynedd, a thargedau tymor hir pob deng mlynedd, gyda cherrig milltir cadarn tuag at nod deddfwriaethol tymor hirach a hynny drwy ddeddfwriaeth gynradd ac is-ddeddfwriaeth.  

(iii) Dylai’r ddeddfwriaeth newydd gynnwys 

  • nod hir dymor sy’n gyrru’r gyfundrefn; 

  • targedau tymor byr a chanolig statudol er mwyn cyflawni’r nod; 

  • cymhellion ariannol clir a fformiwla glir er mwyn sicrhau bod cyflawni ar y targedau hynny nad yw'n ddibynnol ar fympwy cynghorau sir unigol; 

  • targedau ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod tymor hir erbyn dyddiad(au) pendant; 

  • targedau dros gyfnod hirach, e.e. 10 mlynedd, gydag adolygiad bob pum mlynedd o'r llwyddiant i gyflawni; 

(ii) Dylid uwchraddio Uned y Gymraeg i fod yn adran lawn o fewn y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod mwy o rym i'r Gymraeg o fewn y Llywodraeth; 

(iii) Dylai fod cymhellion ariannol clir – refeniw a chyfalaf - i gyflawni ar dargedau addysg Gymraeg a dylai hyn fod o fewn cyllidebau prif-lif yn hytrach na fel bonws; 

(iv) Mae angen dyletswydd ar gynghorau i esbonio manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn eu holl waith a'r rhesymau dros gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i bawb wrth fynd drwy'r broses i drosglwyddo i symud i system fel un Catalwnia; 

(v) Dylid gosod targedau o ran cynyddu'r nifer a chanran o bynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn ysgolion traddodiadol Saesneg (argymhelliad adroddiad Yr Athro Sioned Davies); 

(vi) Ymysg y cymhellion ariannol (gw. adran 9 isod) rydym yn ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod tymor hir a thargedau cenedlaethol: 

  • Dylid clustnodi arian cyfalaf Ysgolion 21ain ganrif ar sail cynnydd yn y ganran o addysg trwy’r Gymraeg  

  • Dylid ymestyn a chynyddu'r cynllun presennol ar gyfer prosiectau penodedig Cymraeg; 

(vi) O ran atebolrwydd a monitro cyflawni ar y targedau, credwn y dylid ystyried rhoi'r pwerau a chyfrifoldeb ymchwilio naill ai i Estyn er mwyn iddo blethu gyda'r gyfundrefn atebolrwydd ehangach neu i Gomisiynydd y Gymraeg  

(vii) bydd angen addasu ieithwedd unrhyw system gan gydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl 

3. Cyd-destunau Deddfwriaethol Rhyngwladol 

3.1 Credwn ei bod yn bwysig wrth gloriannu'r gyfundrefn bresennol yng Nghymru ystyried yr enghreifftiau gorau o gwmpas y byd. O edrych ar dair tiriogaeth sy’n berthnasol i sefyllfa ieithyddol Cymru, mae’n glir bod y ddeddfwriaeth yn llawer iawn mwy cadarn ynghylch addysgu yn eu hieithoedd brodorol. Er bod gwahaniaethau rhwng deddfwriaeth yr ardaloedd hyn, mae’n glir mai nod y system yw gwneud yr iaith frodorol yn norm cyfrwng yr addysgu.  

3.2. Dywed Erthygl 20 – deddf addysg Catalonia1: 

"1.Mae’r Gatalaneg, fel priod iaith Catalonia, hefyd yn iaith addysg, ar bob lefel ac ym mhob math o addysgu.  

2.Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol." 

3.3. Dywed Erthygl 15 y gyfraith yng Ngwlad y Basg 

"Cydnabyddir hawl yr holl fyfyrwyr i gael eu haddysgu... yn y Fasgeg...ar y lefelau addysgol gwahanol  

I’r perwyl hwn bydd y Senedd a’r Llywodraeth yn mabwysiadu’r mesurau angenrheidiol hynny a fydd yn gogwyddo tuag at ehangu cynyddol yn nwyieithrwydd system addysg Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg." 

3.4. Dywed Siarter yr Iaith Ffrangeg - Quebec2 

"PENNOD II 

HAWLIAU IAITH SYLFAENOL 

... 6. Mae gan bob person sy’n gymwys i dderbyn addysg yn Québec yr hawl i dderbyn yr addysg honno yn y Ffrangeg. 

PENNOD VIII 

IAITH YR ADDYSGU 

72. Trwy gyfrwng y Ffrangeg y bydd yr addysgu yn yr ysgolion meithrin, ac yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda’r eithriadau a nodir yn y bennod hon. 

4. Y System Bresennol yng Nghymru 

4.1. Yn y bôn, mae’r gyfundrefn ddeddfwriaethol yng Nghymru ddim ond yn gosod dyletswydd ar gynghorau i fabwysiadu cynllun a 'mesur y galw' mewn rhai amgylchiadau.  Diben y cynlluniau yw: "gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal"; a "gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal". Yn ogystal mae gan Weinidogion y grym i fynnu bod cynghorau yn asesu'r galw am addysg Gymraeg. O ran y cynlluniau, mae gan Weinidogion y grym i wrthod neu addasu cynllun nad ydyn nhw'n fodlon ag ef.    

4.2. O gymharu'r gyfundrefn â'r enghreifftiau rhyngwladol uchod, ymddengys bod nifer o ddiffygion amlwg gan gynnwys y canlynol:  

  • Nid oes hawl statudol i addysg cyfrwng Cymraeg; 

  • Nid oes nod neu amcan hir dymor yn y ddeddfwriaeth gynradd;  

  • Nid oes dull o sicrhau cynllunio tymor canol na cherrig milltir ar amserlen 5-10 mlynedd o fewn y system;  

  • Nid oes unrhyw ddisgwyliad o gynnydd;  

  • Mae cynlluniau yn ddulliau clogyrnaidd a chymhleth o gymharu â theclynnau deddfwriaethol eraill, megis Safonau'r Gymraeg, sy'n gosod templed er mwyn sicrhau bod cynghorau yn gweithredu'n unol â nhw;  

  • Nid oes cymhelliant i gynghorau – boed yn ariannol neu fel arall – i gyflawni ar ymrwymiadau'r cynlluniau 

5. Perfformiad Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ers 2010 

5.1. Mae'r cynlluniau wedi methu â chyflawni ar dargedau cenedlaethol y Llywodraeth ers 2010. Nid oes angen edrych yn bellach nag adroddiadau'r Llywodraeth o ran y 'twf' mewn addysg cyfrwng Cymraeg

5.2. Twf o 1% dros 7 mlynedd yn unig. Yn wir, ar y graddfeydd twf presennol, byddai'n cymryd sawl canrif i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Nid yw'r gyfundrefn yn addas i unrhyw ddiben positif, heb sôn am darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg nag ychwaith y nod o wneud y Gymraeg yn norm fel cyfrwng addysgu'r system.           

5.3. Ac mae perfformiad y gyfundrefn ar y deilliannau eraill hyd yn oed yn waeth, gyda'r sefyllfa yn gwaethygu ar oedrannau ar fesurau eraill.  

6. Strategaeth Iaith y Llywodraeth a’i oblygiadau  

6.1. Mae strategaeth iaith 'miliwn o siaradwyr'4 a'r targedau addysg yn "Cymraeg mewn addysg: cynllun gweithredu 2017 i 2021" yn newid y cyd-destun yn llwyr, ac yn amlygu anaddasrwydd y system bresennol. 

6.2. Yn gryno, mae'r Llywodraeth am i: 

  • 70% o blant i adael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050 

  • Erbyn 2050, maent am 40% o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig.  

6.3. Mae'r targedau hynny yn golygu bod rhaid cael system sy'n cynllunio'n rhagweithiol dros gyfnod hir i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, nid un sy'n dibynnu ar 'fesur y galw' neu gynlluniau di-gyfeiriad.         

7. Gweithredu ar argymhellion Adroddiad Yr Athro Sioned Davies 

7.1. Cred y Gymdeithas ei bod yn hanfodol bwysig bod y gyfundrefn newydd yn gweithredu ar rai argymhellion allweddol adroddiad Yr Athro Sioned a gyhoeddwyd yn 2013 ynghylch Cymraeg Ail Iaith5. Yn benodol, credwn y dylai'r gyfundrefn gyfreithiol sicrhau bod: 

(i) dileu 'Cymraeg Ail Iaith' a'i ddisodli gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl (argymhelliad 6) 

(ii) gosod targedau  gosod "targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg." (argymhelliad 15) 

7.2. Mae'n holl bwysig bod y gyfundrefn newydd, yn ogystal â sicrhau twf addysg benodedig cyfrwng Cymraeg, yn symud ysgolion unigol ar hyd y continwwm ieithyddol. Credwn fod gweithredu ar argymhelliad 15 adroddiad Yr Athro Sioned Davies o fewn  y gyfundrefn statudol newydd yn ffordd i wireddu hyn.  

8. Cynllunio'r Gweithlu 

8.1. Mae cynllunio’r gweithlu addysg yn gwbl greiddiol i gyflawni pob targed o ran ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n hollol bosib cynllunio ar gyfer twf sylweddol os cymerir y camau priodol nawr i sicrhau llwyddiant ac os oes mesurau digon cadarn yn eu lle. Cynhaliodd y Gymdeithas seminar gydag arbenigwyr i drafod sut i wneud hyn, ac mae argymhellion y sesiwn i’w gweld yma. Fodd bynnag, mae’n glir bod potensial i wneud cynnydd sylweddol gan gofio bod oddeutu 6% o’r holl weithlu sy’n medru’r Gymraeg ond nid ydynt yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a bod 80% o’r myfyrwyr sydd ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon o’r newydd wedi bod yn ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru.  

8.2. Mae adolygiad brys Aled Roberts, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn llygaid ei le ac yn ddamniol am y sefyllfa bresennol gan ddweud: 

“Prin iawn oedd yr awdurdodau hynny oedd yn cynllunio’n strategol anghenion eu gweithlu yn seiliedig ar asesiad cyfredol o fedrau iaith. Dylai asesiadau iaith fod yn hanfodol ac yna sicrhau bod disgwyliadau pendant mesuradwy ar bolisïau recriwtio a hyfforddiant. Oni bai fod hynny'n digwydd nid wyf o'r farn bod unrhyw bwynt parhau efo'r deilliant yma yn seiliedig ar faint o weithredu sydd wedi bod o fewn y cynlluniau blaenorol.  

“… Prin iawn yw unrhyw drafodaeth ar sut bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu a diwallu’r anghenion hynny yn arbennig o ran y defnydd a wneir o Gynllun Sabothol yr Iaith Gymraeg. Disgrifiad o’r anawsterau i recriwtio staff a geir yn hytrach nac unrhyw gynllunio strategol i fynd i’r afael â’r broblem. … Rhaid holi pa bwrpas sydd i gynllunio ar gyfer twf sylweddol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod y tair mlynedd nesaf heb bod penderfyniadau brys yn cael eu cymryd ar hyfforddi rhagor o athrawon newydd sydd yn medru’r Gymraeg, yn arbennig yn y sector uwchradd.”  

8.2. Credwn y dylai fod mesurau pendant o fewn y gyfundrefn statudol newydd i wneud y canlynol: 

(i) Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canrannau'r bobol sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; 

(ii) Sicrhau bod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yn anelu i sicrhau bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant 

(iii) Rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle, gan gynnwys: 

a) cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer y newydd-ddyfodiaid i Gymru;  

b) rhaglen hyfforddiant gloywi Iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;  

c) rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r mwyafrif i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd; 

ch) atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid, grwpiau cefnogi ysgol/ardal. 

(iv) Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith; 

9. Cymhellion Ariannol ac Eraill 

9.1. Credwn fod yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd fod yna gymhellion cryf, cadarn a hirhoedlog i sicrhau bod awdurdodau yn cyflawni ar y nod hir dymor a/neu dargedau cenedlaethol.  

9.2. Rydym yn croesawu llwyddiant y gronfa newydd i ddarparu 100% o arian cyfalaf ar gyfer prosiectau addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cytuno â RhAG y dylid ehangu'r gronfa ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, nid oes modd seilio trefn gyfreithiol wedi ei dylunio i weithio dros gyfnod o ddegawdau ar ddewisol, fympwyol. 

9.3. Ymysg y cymhellion ariannol rydym yn ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod tymor hir a thargedau cenedlaethol: 

  • Dylid clustnodi arian cyfalaf Ysgolion 21ain ganrif ar gyfer adeiladau newydd i hyrwyddo addysg Gyfrwng Cymraeg. 

  • Ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r sefydliadau addysg yn y dalgylchoedd perthnasol, na gyda llai na 50% o’r addysg drwy’r Gymraeg. 

  • Cyn mabwysiadu'r polisi uchod, dylid ymestyn a chynyddu'r cynllun presennol i gynnig 100% o'r arian cyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau penodedig Cymraeg. 

9.4. Credwn ymhellach bod modd ystyried yn ogystal neu'n lle'r uchod: 

  • Lle nad yw awdurdod lleol yn cyrraedd eu targedau statudol i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylid trosglwyddo’r arian refeniw i gonsortia neu ysgolion unigol sy'n dangos cynnydd ar sail cynllun strategol 

  • Parhau â chronfa cyfalaf ar wahân sydd â maint digonol er mwyn cyrraedd targedau/nod hir dymor y ddeddfwriaeth 

  • Mabwysiadu rheol genedlaethol fel yr un a ffafrir gan gyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd y dylid ond ariannu drwy gyfalaf ysgolion newydd sy'n ysgolion penodedig Cymraeg neu 'ddwyieithog' (sef 50%+ cyfrwng Cymraeg) 

10. System Amgen ar gyfer 2050 – Casgliadau  

Felly, credwn fod angen system newydd sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion canlynol: 

(i) Nod a threfn cynllunio addysg Gymraeg uchelgeisiol a chyraeddadwy yn Genedlaethol ac, rhanbarthol a lleol 

(ii) Mesurau pendant o ran cynllunio'r gweithlu (gweler atodiad) 

(iii) Cymhelliant Ariannol Clir a Pharhaol 

(iv) Cynlluniau strategol cenedlaethol a lleol cynaliadwy 

(v) Cefnogaeth statudol er mwyn sicrhau cynllunio manwl 

(vi) Fframwaith strategol tymor hir, a chynlluniau manwl tymor byr a thymor ganol 

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith 

Awst 2018  

 

Atodlenni

I. Dogfennau Perthnasol

II. Ymchwil Cymdeithas yr Iaith – Targedau Addysg