Bil Cynllunio Drafft Llywodraeth Cymru - Ymateb

Cynllunio Cadarnhaol: Cynigion i ddiwygio’r system gynllunio yng Nghymru

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r Ymgynghoriad

Cyflwyniad
 
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu ymhell dros chwarter ganrif am drefn gynllunio a fyddai’n rhoi buddiannau’r Gymraeg, yr amgylchedd a chymunedau Cymru yn gyntaf. Testun syndod a siom mawr felly yw’r ffaith nad oes yr un cyfeiriad yn eich “Bil Cynllunio (Cymru) drafft” a dogfen ymgynghori “Cynllunio cadarnhaol” at yr iaith Gymraeg.
 
Credwn fod angen i’r Bil Cynllunio drafft felly gael ei ail-lunio yn llwyr i adlewyrchu buddiannau cymunedau Cymru yn hytrach nag efelychu ac atgyfnerthu system sy’n gweithredu yn erbyn lles y Gymraeg, yn erbyn yr amgylchedd, ac yn groes i’r agenda trechu tlodi. Hoffwn felly i chi ystyried y ddogfen atodedig “Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau” fel rhan o’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae wedi ei lunio fel darn o ddeddfwriaeth amgen, sy’n dangos sut gellid creu system gynllunio fyddai’n sicrhau cymunedau cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar yr egwyddorion yn ein Papur Trafod atodedig a’n llawlyfr Deddf Eiddo.
 

Mae cynigion Llywodraeth Cymru’n anwybyddu’n llwyr un o brif gasgliadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - y Gynhadledd Fawr - sef: “Roedd consensws mai symudoledd poblogaeth yw’r her gyfredol fwyaf i hyfywedd y Gymraeg a gwelwyd bod yr atebion i’r her honno ynghlwm â…polisïau tai a chynllunio…” Nid oes ymdrech yn eich Bil drafft i fynd i afael â’r materion hyn. Yn wir, byddai’r hyn sy’n cael ei gynnig yn eich Bil Drafft yn gwaethygu a dwyshau’r patrymau presennol, yn hytrach na’u datrys a’u lliniaru.

Mae’r cynigion hefyd yn annemocrataidd gan iddynt gynnig ffyrdd i rymoedd gael eu tynnu oddi ar gynghorau lleol a’u rhoi yn nwylo Gweinidogion.  

Credwn fod gwir angen trefn gynllunio sy’n gweithredu o blaid pobl leol, ein cymunedau lleol a chael ei seilio ar anghenion lleol. Mae angen system sydd yn cynllunio i’r gymuned yn hytrach nag i’r farchnad rydd, sef y system a fyddai’n parhau o dan y Bil drafft.

Ein Cynigion

Credwn bod angen newid y Bil Cynllunio trwy gynnwys y 7 bwynt canlynol:

1. Sefydlu diben statudol i’r system gynllunio sy’n cyfeirio at nodau datblygu cynaliadwy Cymru

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, adran 1. Diben Statudol y Drefn Gynllunio)

Datganwyd yn glir iawn bod y Bil a’r ddogfen ymgynghori yn seiliedig ar adroddiad y grŵp cynghorol annibynnol a gyhoeddodd ei adroddiad ym Mis Mehefin 2012. Nodwn nad yw’r Bil na’r ddogfen ymgynghori yn cyfeirio at yr argymhelliad canlynol yn yr adroddiad:

“We recommend that a statutory purpose for planning along these lines is included in the Planning Bill:

“The purpose of the town and country planning system is the regulation and management of the development and use of land in a way that contributes to the achievement of sustainable development.” [Saesneg yn unig, gan nad oes copi Cymraeg o’r adroddiad ar gael]

Rydym yn cytuno â’r grŵp y dylai fod pwrpas statudol i’r system gynllunio yn y Bil, er nad ydym yn cytuno â nifer fawr o argymhellion yr adroddiad. Ymddengys bod gwrthod yr argymhelliad hefyd yn groes i ysbryd yr ymrwymiad ym Maniffesto Llafur Cymru yn etholiad 2011, sef:

“Deddfwriaethu i greu cymunedau mwy cynaliadwy trwy’r system gynllunio”

“Sicrhau bod cynlluniau datblygu yn adlewyrchu’r cyfrifoldeb i gyflwyno cymunedau cynaliadwy ar draws Cymru.”

Yn y cyhoeddiad “Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned” a gyhoeddwyd yn 2009 gan Lywodraeth Cymru pwysleisiwyd pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad datblygu cynaliadwy a lles yng Nghymru.

Ymhellach, credwn y gellid seilio’r pwrpas ar nodau drafft datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru fel y’u cyhoeddwyd ar Chwefror 18fed 2014. Mae ein Mesur Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau yn addasu’r nodau drafft a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar y dyddiad hynny, er mwyn adeiladu arnynt, yn ogystal â’u cryfhau a’u gwella.  

Credwn fod sefydlu pwrpas statudol i’r system gynllunio yn y Bil yn cynnig cyfle i osod cyfeiriad clir i’r system gynllunio ac un a fyddai er lles y Gymraeg, yn hytrach na’r un presennol sy’n ei thanseilio.

2. Sicrhau ar wyneb y Bil bod y Gymraeg yn cael ei wneud yn ystyriaeth gynllunio berthnasol statudol ym mhob rhan o Gymru

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, adran 2. Ystyriaethau Perthnasol ym mhob rhan o Gymru)

Rydym yn falch am y cadarnhad a gafwyd gan Rosemary Thomas yn ein cyfarfod ar ddechrau mis Rhagfyr 2013 am y ffaith nad yw’r system bresennol yn caniatau i bwyllgorau cynllunio neu awdurdodau cynllunio wrthod, neu ganiatáu, cais cynllunio ar sail eu heffaith iaith, gan fod cymaint o ystyriaethau i’w cydbwyso.

Mae hynny’n cadarnhau’r hyn mae’n haelodau ni, yn ogystal â chynghorwyr yn dweud wrthom, hynny yw, nad oes amddiffyniad statudol i awdurdodau cynllunio nac awdurdodau pwyllgorau cynllunio os ydyn nhw am wrthod cais, neu’i ganiatau, ar sail ei effaith iaith. Credwn fod hynny’n cryfhau’r achos a amlinellir yn ein papur i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol a fyddai’n rheswm digonol ynddo ei hun er mwyn gwrthod, neu gymeradwyo, cais cynllunio ar sail ei effaith iaith. Dylai’r Llywodraeth ystyried polisi o’r fath.

Bellach, mae dwsinau o gynghorwyr sir wedi ysgrifennu atoch chi gan nodi’r un pryder. Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn sicrhau bod eich Bil Cynllunio yn ymateb i’r pryderon hyn.

3. Gwneud asesiadau effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob datblygiad sydd yn 10 uned o dai neu’n fwy

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, adran 6. Asesiadau effaith datblygiadau sylweddol ar ffyniant y Gymraeg)

Ceir nifer o enghreifftiau yn y Bil o asesiadau sy’n ofyniad statudol megis arfarniad cynaliadwyedd o’r Cynlluniau Datblygu Lleol ac asesiadau amgylcheddol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio ac eraill yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw dderbyn tystiolaeth gadarn wrth iddyn nhw edrych ar effaith unrhyw gynlluniau unigol neu gynlluniau datblygu lleol.

Credwn fod y Bil drafft yn creu cyfle amlwg, gan iddo wahaniaethu rhwng gwahanol feintiau o ddatblygiad, i wneud Asesiad Effaith Iaith (AEI) yn ofynnol ar ‘ddatblygiadau sylweddol’ fel y’u diffinir yn y Bil drafft, sef 10 uned o dai neu fwy.

Credwn fod angen y sail tystiolaeth a gynigir gan AEI annibynnol, er mwyn galluogi cynghorwyr i wrthod, neu i ganiatau cais cynllunio ar sail ei effaith iaith. Mae hynny’n golygu byddai gwneud AEI yn ofyniad statudol ar ddatblygiadau ‘sylweddol’ yn mynd law yn llaw â sefydlu’r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol.

Credwn y gellid ystyried cynnwys AEI o fewn asesiad ehangach ar gynaliadwyedd, yr amgylchedd neu asesiad effaith gymdeithasol. Mae cynsail Ewropeaidd dros wneud asesiadau effaith amgylcheddol/gymdeithasol a fyddai’n cynnwys effeithiau datblygiadau ar yr iaith Gymraeg. Dylai hynny gael ei atgyfnerthu mewn deddfwriaeth fel y gellir sicrhau bod prosesau a strwythurau ar gyfer cynnal asesiadau iaith yn cael eu gosod ar sail statudol. Oni bai bod hyn yn digwydd bydd Awdurdodau Lleol ac eraill yn anwybyddu'r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol.

4. Datganoli grymoedd ystyrlon dros geisiadau cynllunio i gymunedau, yn hytrach na chanoli grym yn nwylo gweinidog

Rydym yn gwrthod y duedd beryglus yn eich Bil drafft i ganoli grym yn nwylo Gweinidogion yng Nghaerdydd, yn ogystal â bygwth diddymu neu uno awdurdodau cynllunio lleol. Yn lle, dylai’r Bil ddatganoli grymoedd i gynghorau cymuned er mwyn grymuso pobl ar lawr gwlad.

Credwn fod nifer o elfennau o’ch Bil drafft a dogfen ymgynghori yn codi pryderon mawrion am ddiffyg democratiaeth yn y system gynllunio. Credwn fod eich cynlluniau ar gyfer cynlluniau Datblygu Strategol yn annemocrataidd, a’u bod yn rhoi grym dros gynlluniau datblygu mewn dwylo unigolion anetholedig.

Ymhellach, pryderwn yn fawr am y syniad y byddai modd cosbi neu dynnu pwerau oddi ar awdurdodau cynllunio nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau gweinidogol, gan gynnwys un cyfarwyddyd i beidio â chymryd mwy na 2% o benderfyniadau cynllunio sy’n mynd yn groes i argymhellion gan swyddogion (Atodlen 1, Cynllunio Cadarnhaol, Llywodraeth Cymru). Mae’n codi’r cwestiwn: beth yw diben democratiaeth os nad oes hawl gan y rhai etholedig i wneud penderfyniadau sy’n groes i farn swyddogion anetholedig?

Ymhellach, credwn fod eich argymhellion ynghylch grymoedd cynghorau cymuned yn wan. Dylai cynghorau cymuned fod yn gwbl ganolog i’r broses o greu, ganiatáu neu wrthod cynlluniau datblygu lleol a cheisiadau ar gyfer datblygiadau unigol.

Rydym wedi cynnwys nifer o ffyrdd y gellid gwneud hynny yn ein Bil Eiddo a Chynllunio drafft. Un ohonyn nhw yw cysyniad “Datblygiadau o fudd sylweddol i’r gymuned ac i ffyniant y Gymraeg,” sef creu llwybr tarw i gynghorau cymuned rhoi caniatâd ar gyfer dosbarth o geisiadau sy’n bodloni meini prawf sy’n eu gwneud yn llesol i’r Gymraeg a’r gymuned yn ehangach.

5. Gosod ar wyneb y Bil cymal a fyddai’n sicrhau mai anghenion lleol fydd sail i’r drefn gynllunio, fel mai dyna yw’r dechreubwynt wrth i awdurdodau lleol bennu eu targedau tai yn hytrach nag amcanestyniadau poblogaeth

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau, adran 10. Asesiadau Angen Lleol)

Cafwyd eglurhad mai ‘anghenion lleol’ dylai fod y prif ystyriaeth wrth i awdurdodau lleol lunio Cynlluniau Datblygu Lleol yn ein cyfarfod gyda’r Gweinidog ar ddechrau mis Rhagfyr 2013. Credwn fod y Bil felly yn gyfle i gadarnhau eich bwriad mewn statud.

Yn y cyfarfod hwnnw, cyfeiriodd eich prif swyddog at yr angen i awdurdodau cynllunio gynnal “asesiad o’r farchnad dai leol” a’r “cynlluniau tai fforddiadwy”, ac mai hynny yw dechreubwynt awdurdodau cynllunio wrth iddynt lunio Cynlluniau Datblygu Lleol. Fodd bynnag, mae’r hyn y dywedoch yn groes i’r hyn a ddywedir gan Richard Poppleton, Cyfarwyddwr yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru gerbron y Cynulliad:

“The Welsh Government informs the local authorities of the [population] projections, which is the starting point. If there is no starting point, everybody would be thrashing around asking where to start. The Welsh Government’s housing projections are the starting point, with a certain variance. Local authorities take that as a starting point and the way in which Planning Policy Wales’s manual is phrased means that the projections are regarded as being robust and should not be deviated from unless there are justifiable reasons.”

Ymhellach, nodwn gasgliad canlynol Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad mewn llythyr at y Gweinidog:

“Os bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol eisiau defnyddio amcanestyniadau sy’n gwyro oddi wrth amcanestyniadau Llywodraeth Cymru, rhaid iddynt brofi bod y gwyriad yn cael ei wneud ar sail ‘tystiolaeth gadarn a chredadwy’, fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. Pan gafodd ei holi ar y pwynt hwn, cydnabu’r Gweinidog ar y pryd gymhlethdod y mater hwn a bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn anghytuno ambell waith. Fodd bynnag, dywedodd y gallai’r rhain gael eu datrys drwy drafodaeth.”

Hoffwn bwysleisio bod y Gymraeg yn dioddef ar hyn o bryd oherwydd y patrymau mudo presennol. Mae’r system gynllunio nid yn unig yn adlewyrchu’r patrymau hyn, ond hefyd yn dylanwadu arnynt, oherwydd fel mae pob economegydd da yn deall, mae cyflenwad yn arwain y galw yn ogystal â vice versa. Mae’n rhaid bod modd i awdurdodau cynllunio ddewis sut y maen nhw am ddylanwadu ar y ffactorau hynny.

Yr hyn sy’n glir i ni am y broses yw’r canlynol:

  • nid oes eglurder statudol ynghylch o ba ddechreubwynt y dylid llunio cynllun datblygu lleol, gan i’ch swyddogion chi gynnig dadleuon gwahanol i’r Arolygiaeth Gynllunio ac i eraill;

  • mae’r aneglurdeb yn arwain at wrth-daro rhwng barn awdurodau lleol a Llywodraeth Cymru yn ogystal â gor-ddibyniaeth ar farn Arolygwyr Cynllunio nad ydynt yn cael eu hyfforddi yng Nghymru;

  • bod baich ar gynghorau sir i brofi rheswm dros wyro oddi ar amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru;

  • Nid oes mewnbwn na thystiolaeth sy’n ofynnol, megis asesiad effaith neu farn Comisiynydd y Gymraeg, fel rhan o’r broses statudol wrth lunio cynlluniau datblygu lleol ac ystyried ceisiadau unigol.

Credwn felly, y dylech ystyried y cynigion canlynol fel y’u hamlinellir yn ein papur trafod:

  • nodi yn y Bil nad yw amcanestyniadau poblogaeth yn ffactor y dylid ei ystyried wrth lunio cynllun datblygu lleol;

  • gosod ar wyneb y Bil yr hawl i gynghorau sir osod targedau tai yn annibynnol o Lywodraeth Cymru, gan seilio eu hamcanestyniadau ar anghenion lleol a thwf naturiol y boblogaeth;

  • gwneud Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghorai statudol ynglŷn â chynlluniau datblygu lleol a datblygiadau sylweddol fel y’u diffinir gan y Bil drafft, sef 10 uned o dai neu fwy;

Ymhellach, credwn fod nifer o wendidau eraill yn y system bresennol sef bod:

  • rhagdybiaeth y bydd y rhan fwyaf o’r stoc tai yn anfforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol;

  • tai fforddiadwy yn ychwanegiad at system sydd yn ei hanfod yn un anfforddiadwy i bobl leol;

  • diffyg cydnabyddiaeth o effaith bodolaeth tai anfforddiadwy ar y Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau;

  • diffyg gofyniad statudol i ddefnyddio’r stoc bresennol, cyn adeiladu datblygiadau ‘sylweddol’ fel y’u diffinir yn y Mesur drafft;

  • amcanestyniadau poblogaeth sy’n cynnal a dwysau problemau’r patrymau mudo presennol;

  • diffyg grym statudol tu ôl i ganllawiau Nodyn Cyngor Technegol 20

Mae’n Bil Eiddo a Chynllunio drafft yn ymdrechu i ddatrys nifer o’r broblemau hyn, yn bennaf, drwy osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o’r angen lleol am dai. Yr asesiad hwnnw fyddai’r dechreubwynt ar gyfer pennu’r targedau tai, yn hytrach na’r amcanestyniadau poblogaeth. Felly, byddai’n ffordd o ddileu’r ansicrwydd o ran (i) pwy sy’n gyfrifol am bennu’r targedau tai, sef yr awdurdodau lleol ac (ii) beth yw’r ystyriaethau wrth ffurfio’r targedau hynny.

6. Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio Cymru, gyda hawl i bobl a chymunedau apelio ato, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau, adran  21. Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio Cymru & adran 22. Yr Hawl i Apelio i’r Tribiwnlys)

Credwn y dylid sefydlu Tribiwnlys ar wahân i Gymru yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru. Byddai hwn yn gorff a fyddai’n hyfforddi pobl yng Nghymru, gyda chanran uchel ohonynt wedi eu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau bod y rhai sy’n gweithio i’r corff yng Nghymru gyda dealltwriaeth ddofn a thrwyadl o bolisïau cynllunio Cymru ag anghenion ieithyddol ac amgylcheddol Cymru.

Wrth i’r drefn gynllunio Gymreig wahanu o’r sefyllfa yng ngwledydd eraill Prydain, credwn fod creu sefyliad annibynnol yng Nghymru’n anochel.

Wrth sefydlu Tribiwnlys ar wahan, dylid edrych i ddatrys nifer o broblemau gyda’r sefyllfa bresennol, gan gynnwys y canlynol:

(i) Diffyg hawliau gan bobl ar lawr gwlad a’n cymunedau i apelio yn erbyn penderfyniadau - rydym yn ymwybodol o grwpiau gwyrdd a chymunedau sydd eisiau hawl i apelio ar lefel gyfartal â datblygwyr mawrion. Ymhellach, mae datblygwyr bychain yn mynegi pryder nad oes modd iddyn nhw ymwneud â’r broses apêl.

(ii) Anghyfartaledd mynediad at y broses gynllunio - mae nifer o gynghorwyr a chynghorau yn dweud eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau oherwydd eu bod yn pryderu y byddai penderfyniad yr hoffen nhw ei wneud yn cael ei wrthdroi ar apêl. Datganir hefyd nad oes modd i gynghorau, ac i raddau helaethach chymunedau a phobl eraill, fforddio mynd i apêl yn wyneb grym datblygwyr mawrion.  Yn wir, dyna oedd y profiad yn achosion megis Penybanc yn Sir Gaerfyrddin a Land & Lakes yn Ynys Môn, lle gwelwyd cynghorwyr yn newid eu meddyliau o’u penderfyniadau cyntaf oherwydd pwysau gan swyddogion a datblygwyr.

7. Sicrhau nad yw awdurdodau cynllunio yn cael caniatáu datblygiadau pan fo modd diwallu’r anghenion o'r stoc tai presennol

(Gweler Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau, adran 12. Diwallu’r angen lleol cyn datblygu)

Hanfod y pwynt polisi hwn yw y dylai fod yn anghyfreithlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai newydd oni bai eu bod yn diwallu angen lleol na ellir ei ddiwallu o’r stoc bresennol. Golyga hyn na chaniateir datblygiadau hapfasnachol na thai unigol yn groes i gynlluniau lleol lle mae tai ar gael o’r stoc bresennol.

Byddai nifer o fanteision economaidd ac amgylcheddol i bolisi o’r fath gan y byddai’n rhoi hwb enfawr i’r gwaith o uwchraddio’r stoc dai bresennol a lleihau allyriadau a gwastraff o’r stoc bresennol yn ogystal â rheoli’n well y nifer o ddatblygiadau tai newydd.

Cynigion Eraill:

Ymhellach, dylai fod angen mesurau sy’n rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y system tai er mwyn dod â phrisiau o fewn cyrraedd pobl leol, sefydlu’r hawl i bobl leol rentu ar rent rhesymol, ailasesu caniatâd cynllunio presennol, a sicrhau bod rhaglen i gynnig helpu prynwyr tro cyntaf lleol.

Mae’r cynigion hyn yn rhan o becyn o gynigion i’r drefn dai a chynllunio a fyddai’n sicrhau bod buddiannau’r Gymraeg a chymunedau Cymru yw’r flaenoriaeth yn hytrach na’r farchnad rydd.

Yn ogystal â’n Bil atodedig, mae gwybodaeth pellach ynghylch y polisïau uchod yn y dogfennau hyn:

http://cymdeithas.org/deddfeiddo;

http://cymdeithas.org/dogfen/y-llawlyfr-deddf-eiddo-mai-2005

http://cymdeithas.org/dogfen/papur-trafod-y-mesur-cynllunio-r-mesur-tai

 

Cwestiynau Penodol y Ddogfen Ymgynghori

Gan fod y newidiadau rydym yn galw amdanynt yn rhai sylfaenol, nid ydym am ymateb yn unigol i bob un o’r 43 cwestiwn yn eich ffurflen ymgynghori. Ond hoffwn i chi nodi’n safbwynt ar y cwestiynau canlynol:

Cwestiwn 7

Nid ydym yn cytuno “y bydd yr hierarchaeth datblygu arfaethedig yn helpu i sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio mewn ffordd gymesur, gan ddibynnu ar eu manteision a'u heffeithiau tebygol” (Cwestiwn 7) - gan y byddai eich cynigion yn ddiystyru’n llwyr manteision ac effeithiau tebygol ar y Gymraeg ac ar gymunedau Cymraeg.

Cwestiwn 29

Nid ydym yn cytuno gyda’r elfennau “hanfodol” a nodwyd yn Atodiad A ar gyfer gwasanaeth cynllunio da. Pryderwn yn fawr am y syniad y byddai modd cosbi neu dynnu pwerau oddi ar awdurdodau cynllunio nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau gweinidogol, gan gynnwys un cyfarwyddyd i beidio â chymryd mwy na 2% o benderfyniadau cynllunio sy’n mynd yn groes i argymhellion gan swyddogion. Credwn mai’r elfennau hanfodol ar gyfer gwasanaeth cynllunio da yw’r 6 egwyddor a amlinellwn yn ein Papur Trafod a’n Llawlyfr Deddf Eiddo, sef:

  • Asesu’r angen lleol

  • Tai ac Eiddo i’w Rhentu a’i Brynu ar bris rhesymol

  • Cymorth i Brynwyr Tro Cyntaf

  • Blaenoriaeth i Bobl Leol

  • Cynllunio i’r Gymuned

  • Ailasesu Caniatâd Cynllunio blaenorol

Cwestiwn 31

“Os ystyrir bod awdurdod cynllunio lleol yn perfformio'n wael, a ydych yn cytuno y dylai fod opsiwn i gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau sylweddol i Weinidogion Cymru?”

Nac ydym. Rydym yn ystyried y cynnig yma’n un wrth-ddemocrataidd.

Cwestiwn 32

“A ydych yn cytuno y dylai Gweinidogion Cymru allu ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd?”

Nac ydym

Cwestiwn 34

“A ydych yn cytuno y dylai awdurdodau cynllunio lleol weithio gyda chynghorau tref a chymuned i lunio cynlluniau lleoedd y gellir eu mabwysiadu fel canllawiau cynllunio ategol?”

Credwn y dylai cynghorau tref a chymuned gael rôl statudol yn y system gynllunio, fel mae’n Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau drafft yn nodi. Byddai’r cynigion hyn yn mynd llawer ymhellach na chanllawiau ategol, gan sicrhau mai anghenion lleol yw’r man cychwyn ar gyfer y drefn cynllunio.

Cwestiwn 35

“Os yw cynnig datblygu yn cyd-fynd â dyraniad mewn cynllun datblygu a fabwysiadwyd, a ydych yn cytuno y dylid cyflwyno proses ceisiadau cynllunio newydd, er mwyn sicrhau mai dim ond manylion megis dyluniad a chynllun y datblygiad a gaiff eu hystyried?”

Nid ydym yn cytuno - dylai effaith ceisiadau unigol ar ffactorau gan gynnwys ffyniaint y Gymraeg parhau i gael eu hystyried, yn wir, dylai’r agwedd hon gael ei chryfhau.

Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Chwefror 2014