Bil Cynllunio - llythyr at y Gweinidog Carl Sargeant

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Annwyl Weinidog,

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am gwrdd â ni i drafod y Bil Cynllunio, a hefyd am gytuno i'ch swyddogion gwrdd â ni eto cyn diwedd yr ymgynghoriad ar y Bil drafft. Yn wir, byddai'n braf gallu trafod nifer o bwyntiau eraill gyda Rosemary Thomas ac eraill, er mwyn i ni egluro ein safbwynt yn bellach. A fyddai modd i rywun o’ch swyddfa gysylltu yn ôl er mwyn trefnu dyddiadau posibl?

Hefyd, rwy'n falch i chi gydnabod eich cyfrifoldeb dros y Gymraeg a rôl y system gynllunio a thai yng nghyswllt eu heffaith iaith. Hoffwn egluro ymhellach ychydig o faterion y buon ni’n eu trafod, a gosod ein papur trafod yng nghyd-destun y Bil.  

Wrth graidd y pwyntiau hyn yw’r argyhoeddiad sylfaenol bod yn rhaid i’r Bil Cynllunio adlewyrchu anghenion arbennig ein gwlad yn hytrach nag efelychu yn unig yr hyn sydd yn digwydd yng ngwledydd eraill Prydain.

Hoffwn ddefnyddio’r llythyr yma er mwyn ymhelaethu ar rai o’r pwyntiau a godwyd yn ein cyfarfod yn ogystal â rhai yn ein papur trafod.

Pwrpas Statudol y System Gynllunio

Dywedoch yn glir iawn bod y Bil a’r ddogfen ymgynghori yn seiliedig ar adroddiad y grŵp cynghorol annibynnol a gyhoeddodd ei adroddiad ym Mis Mehefin 2012.

Nodwn nad yw’r Bil na’r ddogfen ymgynghori yn cyfeirio at yr argymhelliad canlynol yn yr adroddiad:

“We recommend that a statutory purpose for planning along these lines is included in the Planning Bill:

“The purpose of the town and country planning system is the regulation and management of the development and use of land in a way that contributes to the achievement of sustainable development.”

[Saesneg yn unig, gan nad oes copi Cymraeg o’r adroddiad ar gael]

Rydym yn cytuno â’r grŵp y dylai fod pwrpas statudol i’r system gynllunio yn y Bil, er nad ydym yn cytuno â nifer fawr o argymhellion yr adroddiad. Hoffwn wybod pam rydych chi wedi gwrthod yr argymhelliad hwn i sefydlu pwrpas statudol i’r system yn y Bil.  

Ymddengys bod gwrthod yr argymhelliad hefyd yn groes i ysbryd yr ymrwymiad ym Maniffesto Llafur Cymru yn etholiad 2011, sef:

Deddfwriaethu i greu cymunedau mwy cynaliadwy trwy’r system gynllunio”

“Sicrhau bod cynlluniau datblygu yn adlewyrchu’r cyfrifoldeb i gyflwyno cymunedau cynaliadwy ar draws Cymru.”

Yn y cyhoeddiad “Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned” a gyhoeddwyd yn 2009 gan Lywodraeth Cymru pwysleisiwyd pwysigrwydd y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad datblygu cynaliadwy a lles yng Nghymru.

Ymhellach, credwn y gellid seilio’r pwrpas statudol y ddeddfwriaeth ar brif egwyddorion yn ein cynigion am Ddeddf Eiddo sef:

1. Asesu’r Angen Lleol

2. Sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu;

3. Cymorth i Brynwyr Tro-Cyntaf

4. Blaenoriaeth i Bobl Leol

5. Cynllunio i’r Gymuned

6. Ailasesu Caniatâd Cynllunio

Mae gwir angen i’r eglurhad o sut bydd y system yn gweithredu o blaid pobl leol, ein cymunedau lleol a chael ei seilio ar anghenion lleol. Mae angen system sydd yn cynllunio i’r gymuned yn hytrach nag i’r farchnad rydd, sef y system a fyddai’n parhau o dan y Bil drafft presennol. Credwn fod sefydlu pwrpas statudol i’r system gynllunio yn y Bil yn cynnig cyfle i osod cyfeiriad clir i’r system gynllunio ac un a fyddai er lles y Gymraeg, yn hytrach na’r un presennol sy’n ei thanseilio.

Diffyg Grym i wrthod ceisiadau cynllunio ar sail effaith iaith

Rydym yn falch am y cadarnhad a gafwyd gan Rosemary Thomas yn y cyfarfod am y ffaith nad yw’r system bresennol yn caniatau i bwyllgorau cynllunio neu awdurdodau cynllunio wrthod (neu ganiatau) cais cynllunio ar sail eu heffaith iaith, gan fod cymaint o ystyriaethau i’w cydbwyso.

Mae hynny’n cadarnhau’r hyn mae’n haelodau ni, yn ogystal â chynghorwyr yn dweud wrthom, hynny yw, nad oes amddiffyniad statudol i awdurdodau cynllunio nac awdurdodau pwyllgorau cynllunio os ydyn nhw am wrthod cais, neu’i ganiatau, ar sail ei effaith iaith. Credwn fod hynny’n cryfhau’r achos a amlinellir yn ein papur i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol a fyddai’n rheswm digonol ynddo ei hun er mwyn gwrthod, neu gymeradwyo, cais cynllunio ar sail ei effaith iaith. Dylai’r Llywodraeth ystyried polisi o’r fath.

Gofynnoch am ragor o dystiolaeth am fethiannau’r system gynllunio, gan ddweud nad yw cynghorwyr sir wedi dweud wrthoch chi bod problemau wedi codi oherwydd hyn. Rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau o hyn a gobeithiwn y gallwn ysgrifennu atoch yn y dyfodol agos er mwyn darparu’r dystiolaeth honno.

Anghenion Lleol yn gyntaf, yn hytrach na phatrymau presennol

Diolch hefyd am yr eglurhad mai ‘anghenion lleol’ dylai fod y prif ystyriaeth wrth i awdurdodau lleol lunio Cynlluniau Datblygu Lleol. Credwn fod y Bil felly yn gyfle i gadarnhau eich bwriad mewn statud.

Cyfeiriodd Rosemary Thomas at yr angen i awdurdodau cynllunio gynnal “asesiad o’r farchnad dai leol” a’r “cynlluniau tai fforddiadwy”, a mai hynny yw dechreubwynt awdurdodau cynllunio wrth iddynt lunio Cynlluniau Datblygu Lleol. Fodd bynnag, mae’r hyn y dywedoch yn groes i’r hyn a ddywedir gan Richard Poppleton, Cyfarwyddwr yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru gerbron y Cynulliad:

The Welsh Government informs the local authorities of the [population] projections, which is the starting point. If there is no starting point, everybody would be thrashing around asking where to start. The Welsh Government’s housing projections are the starting point, with a certain variance. Local authorities take that as a starting point and the way in which Planning Policy Wales’s manual is phrased means that the projections are regarded as being robust and should not be deviated from unless there are justifiable reasons.”

Ymhellach, nodwn gasgliad canlynol Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad mewn llythyr at y Gweinidog:

“Os bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol eisiau defnyddio amcanestyniadau sy’n gwyro oddi wrth amcanestyniadau Llywodraeth Cymru, rhaid iddynt brofi bod y gwyriad yn cael ei wneud ar sail ‘tystiolaeth gadarn a chredadwy’, fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. Pan gafodd ei holi ar y pwynt hwn, cydnabu’r Gweinidog ar y pryd gymhlethdod y mater hwn a bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn anghytuno ambell waith. Fodd bynnag, dywedodd y gallai’r rhain gael eu datrys drwy drafodaeth.”

Hoffwn bwysleisio bod y Gymraeg yn dioddef ar hyn o bryd oherwydd y patrymau mudo presennol. Mae’r system gynllunio nid yn unig yn adlewyrchu’r patrymau hyn, ond hefyd yn dylanwadu arnynt, oherwydd fel mae pob economegydd da yn deall, mae cyflenwad yn arwain y galw yn ogystal â vice versa. Mae’n rhaid bod modd i awdurdodau cynllunio ddewis sut y maen nhw am ddylanwadu ar y ffactorau hynny.   

Yr hyn sy’n glir i ni am y broses yw’r canlynol:

  • nid oes eglurder statudol ynghylch o ba ddechreubwynt y dylid llunio cynllun datblygu lleol, gan i’ch swyddogion chi gynnig dadleuon gwahanol i’r Arolygiaeth Gynllunio ac i eraill;

  • mae’r aneglurdeb yn arwain at wrth-daro rhwng barn awdurodau lleol a Llywodraeth Cymru yn ogystal â gor-ddibyniaeth ar farn Arolygwyr Cynllunio nad ydynt yn cael eu hyfforddi yng Nghymru;

  • bod baich ar gynghorau sir i brofi rheswm dros wyro oddi ar amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru;

  • Nid oes mewnbwn na thystiolaeth sy’n ofynnol, megis asesiad effaith neu farn Comisiynydd y Gymraeg, fel rhan o’r broses statudol wrth lunio cynlluniau datblygu lleol ac ystyried ceisiadau unigol.

Credwn felly, y dylech ystyried y cynigion canlynol fel y’u hamlinellir yn ein papur trafod:

  • nodi yn y Bil nad yw amcanestyniadau poblogaeth yn ffactor y dylid ei ystyried wrth lunio cynllun datblygu lleol

  • gosod ar wyneb y Bil yr hawl i gynghorau sir osod targedau tai yn annibynnol o Lywodraeth Cymru, gan seilio eu hamcanestyniadau ar anghenion lleol a thwf naturiol y boblogaeth;

  • gwneud Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghorai statudol ynglŷn â chynlluniau datblygu lleol a datblygiadau sylweddol fel y’u diffinir gan y Bil drafft, sef 10 uned o dai neu fwy;

  • sefydlu Tribiwnlys ar wahân i Gymru yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru. Byddai hwn yn gorff a fyddai’n hyfforddi pobl yng Nghymru,  gyda chanran uchel ohonynt wedi eu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau bod y rhai sy’n gweithio i’r corff yng Nghymru gyda dealltwriaeth ddofn a thrwyadl o bolisïau cynllunio Cymru ag anghenion ieithyddol ac amgylcheddol Cymru.

Ymhellach, credwn fod nifer o wendidau eraill yn y system bresennol sef bod:

  • rhagdybiaeth y bydd y rhan fwyaf o’r stoc tai yn anfforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol;

  • tai fforddiadwy yn ychwanegiad at system sydd yn ei hanfod yn un anfforddiadwy i bobl leol;

  • diffyg cydnabyddiaeth o effaith bodolaeth tai anfforddiadwy ar y Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau;

  • diffyg gofyniad statudol i ddefnyddio’r stoc bresennol, cyn adeiladu datblygiadau ‘sylweddol’ fel y’u diffinir yn y Mesur drafft;

  • amcanestyniadau poblogaeth sy’n cynnal a dwysau problemau’r patrymau mudo presennol;

  • diffyg grym statudol tu ôl i ganllawiau Nodyn Cyngor Technegol 20

Asesiadau Effaith Iaith

Ceir nifer o enghreifftiau yn y Bil o asesiadau sy’n ofyniad statudol megis arfarniad cynaliadwyedd o’r Cynlluniau Datblygu Lleol ac asesiadau amgylcheddol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio ac eraill yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw dderbyn tystiolaeth gadarn wrth iddyn nhw edrych ar effaith unrhyw gynlluniau unigol neu gynlluniau datblygu lleol.

Credwn fod y Bil drafft yn creu cyfle amlwg, gan iddo wahaniaethu rhwng gwahanol feintiau o ddatblygiad, i wneud Asesiad Effaith Iaith (AEI) yn ofynnol ar ‘ddatblygiadau sylweddol’ fel y’u diffinir yn y Bil drafft, sef 10 uned o dai neu fwy.

Credwn fod angen y sail tystiolaeth a gynigir gan AEI annibynnol, er mwyn galluogi cynghorwyr i wrthod, neu i ganiatau cais cynllunio ar sail ei effaith iaith. Mae hynny’n golygu byddai gwneud AEI yn ofyniad statudol ar ddatblygiadau ‘sylweddol’ yn mynd law yn llaw â sefydlu’r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol.

Credwn y gellid ystyried cynnwys AEI o fewn asesiad ehangach ar gynaliadwyedd, yr amgylchedd neu asesiad effaith gymdeithasol. Yn hynny o beth, rydym yn falch y byddwch yn edrych ar sut y gellir diffinio'r amgylchedd yn eich deddfwriaeth i weld a fyddai modd ystyried y Gymraeg yn y cyd-destun hynny.

O sefydlu pwrpas statudol i’r system gynllunio fel yr argymhellwn uchod, byddai angen diffiniad clir o beth yw cynaliadwyedd neu ddatblygu cynaliadwy yn nhermau yr amgylchedd a chymunedau. Dylid nodi bod ystyried y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad hynny yn hollol gyson â Gorchymyn/Directive 85/337/EEC:

“All European states have a requirement in European EIA legislation to implement the wording of the directive as amended:

"A description of the environment likely to be significantly affected  by the proposed project including, in particular population, fauna, flora ect...... and the interrelationship between the above factors."

Mae geiriad y gorchymyn SEA (Strategic Environment Assessment) Ewropeaidd yn nodi y dylid asesu:

"the likely significant effects on the environment including on issues such as biodiversity, population, human health, fauna, flora, soil, water air, climatic factors material assets, cultural heritage etc...."

Felly mae cynsail Ewropeaidd dros wneud asesiadau effaith amgylcheddol/gymdeithasol a fyddai’n cynnwys effeithiau datblygiadau ar yr iaith Gymraeg. Dylai hynny gael ei atgyfnerthu mewn deddfwriaeth fel y gellir sicrhau bod prosesau a strwythurau ar gyfer cynnal asesiadau iaith yn cael eu gosod ar sail statudol. Oni bai bod hyn yn digwydd bydd Awdurdodau Lleol ac eraill yn anwybyddu'r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol.

Dyma gyfle i Gymru ddangos arweiniad yn y maes yma a datblygu Bil Cynllunio unigryw i Gymru. Yn ogystal, gallech edrych ar enghreifftiau megis y Ffindir lle mae deddfwriaeth yn ystyried effeithiau cymdeithasol fel rhan o’r amgylchedd dynol ehangach.

Blaenoriaeth i Bobl Leol

Rydym yn galw am flaenoriaeth i bobl leol oddi fewn i’r system fel modd i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol y farchnad rydd ar anghyfartaledd incwm, yn ogystal â’r broblem enbyd o dai sy’n anfforddiadwy i bobl leol.

Mae’n polisi Deddf Eiddo a ddiweddarwyd yn 2005 yn amlinellu ein polisi yn glir iawn yn hynny o beth, gweler tudalen 22 i 27 o’r ddogfen hon: http://cymdeithas.org/dogfen/y-llawlyfr-deddf-eiddo-mai-2005

Dim Tai Anfforddiadwy

Credwn y dylid gwahardd datblygiadau tai nad ydynt yn gwbl fforddiadwy i’r boblogaeth leol. Yn ogystal, dylid gwahardd awdurdodau cynllunio ac awdurdodau tai rhag darparu na chaniatáu datblygiadau nad ydynt yn fforddiadwy i’r boblogaeth leol.

Cynllunio i’r Gymuned

Hanfod y pwynt polisi hwn yw y dylai fod yn anghyfreithlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai newydd oni bai eu bod yn diwallu angen lleol na ellir ei ddiwallu o’r stoc bresennol. Golyga hyn na chaniateir datblygiadau hapfasnachol na thai unigol yn groes i gynlluniau lleol lle mae tai ar gael o’r stoc bresennol.

Diffyg Democratiaeth

Credwn fod nifer o elfennau o’ch Bil drafft a dogfen ymgynghori sy’n codi pryderon mawrion am ddiffyg democratiaeth yn y system gynllunio.

Credwn felly bod eich cynlluniau ar gyfer cynlluniau Datblygu Strategol yn annemocrataidd, a’u bod yn rhoi grym dros gynlluniau datblygu mewn dwylo unigolion anetholedig.

Ymhellach, pryderwn yn fawr am y syniad y byddai modd cosbi neu dynnu pwerau oddi ar awdurdodau cynllunio nad ydynt yn dilyn cyfarwyddiadau gweinidogol, gan gynnwys un cyfarwyddyd i beidio â chymryd mwy na 2% o benderfyniadau cynllunio sy’n mynd yn groes i argymhellion gan swyddogion (Atodlen 1, Cynllunio Cadarnhaol, Llywodraeth Cymru). Mae’n codi’r cwestiwn: beth yw diben democratiaeth os nad oes hawl gan y rhai etholedig i wneud penderfyniadau sy’n groes i farn swyddogion anetholedig?

Ymhellach, credwn fod eich argymhellion ynghylch grymoedd cynghorau cymuned yn wan. Dylai cynghorau cymuned fod yn gwbl ganolog i’r broses o greu, ganiatau neu wrthod cynlluniau datblygu lleol a datblygiadau unigol.

Os hoffech wybod rhagor am ein polisïau, gallwch weld copïau dwyieithog o’n dogfennau polisi am ein Deddf Eiddo: http://cymdeithas.org/deddfeiddo; a http://cymdeithas.org/dogfen/y-llawlyfr-deddf-eiddo-mai-2005 yn ogystal â’n papur trafod diweddaraf sydd ar gael yma: http://cymdeithas.org/dogfen/papur-trafod-y-mesur-cynllunio-r-mesur-tai  

Yr eiddoch yn gywir,

Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Carwyn Jones, Prif Weinidog