Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau - Drafft Ymgynghorol

Cyfeiriwch at http://cymdeithas.cymru/cynllunio ar gyfer fersiwn terfynnol ein Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein cymunedau

 

Fersiwn ymgynghorol (Mawrth 2014):

Nodyn Esboniadol: Bil Eiddo a Chynllunio Drafft

  • Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu ers ymhell dros chwarter ganrif am drefn gynllunio newydd, gan ymgyrchu dros statws i’r Gymraeg yn y drefn gynllunio. Cyhoeddwyd llawlyfr Deddf Eiddo cyntaf y mudiad ym 1992 yn seiliedig ar y 6 egwyddor ganlynol:
    1. Asesu’r Angen Lleol
    2. Sicrhau'r hawl i gartref am bris neu rent teg yn y gymuned leol;
    3. Cymorth i Brynwyr Tro-Cyntaf
    4. Blaenoriaeth i Bobl Leol
    5. Cynllunio i’r Gymuned
    6. Ailasesu Caniatâd Cynllunio
  • Ar Ragfyr 4ydd 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bil Cynllunio drafft a dogfen ymgynghori: yn y 174 o dudalennau, nid oedd yr un cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfennaeth. Disgwylir y cyflwynir Bil terfynol y Llywodaeth i’r Cynulliad eleni.

  • Addawodd Maniffesto 2011 y Blaid Lafur y byddant yn “Deddfwriaethu i greu cymunedau mwy cynaliadwy trwy’r system gynllunio”. Yn nogfen 2009 Un Genedl Un Blaned, diffiniodd Llywodraeth Cymru gynaliadwyedd wrth gyfeirio at y Gymraeg.

  • Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd crynodeb o ganlyniadau'r Gynhadledd Fawr gan Gwmni Iaith ar ran y Llywodraeth a oedd yn galw am newidiadau i’r system gynllunio ac yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.

  • Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 gwymp yn nifer y bobl yng Nghymru dros 3 oed sy’n siarad Cymraeg, cwymp o 20.76% o’r boblogaeth yn 2001 i 19% yn 2011. Yn 2011, roedd yna 157 o adrannau etholiadol (18%) lle roedd dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn is na’r 192 o adrannau etholiadol (22%) yn 2001. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol lle roedd dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 54 yn 2001 i 39 yn 2011.

  • Ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi “Maniffesto Byw” sy’n cynnwys 38 o bolisïau gyda’r nod o gryfhau’r Gymraeg, gan gynnwys galw am drefn gynllunio newydd. Mae’r Gymdeithas wedi blaenoriaethu 6 newid polisi - gan gynnwys gweddnewid y drefn gynllunio er budd cymunedau - gan fynnu y dylai’r Llywodraeth eu gweithredu yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011.

Prif Gynigion Bil Eiddo a Chynllunio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

  • Sefydlu Diben Statudol y Drefn Gynllunio (Adran 1): Rydym wedi seilio ein diben statudol ar argymhelliad gan grŵp cynghorol annibynnol Llywodraeth Cymru a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2012, yn ogystal â nodau datblygu cynaliadwy drafft Llywodraeth Cymru a gwaith cynghrair datblygu cynaliadwy y drydedd sector. Byddai’n sicrhau bod cysondeb rhwng Bil Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bil Cynllunio, ac yn cynnig cyfeiriad clir i’r holl system.
  • Gwneud y Gymraeg yn Ystyriaeth Gynllunio Statudol (Adran 2): Byddai’r adran hon yn sicrhau y byddai’r Gymraeg yn gallu bod yn rheswm dros wrthod a chaniatáu ceisiadau cynllunio ym mhob rhan o’r wlad, gyda chyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn cynorthwyo awdurdodau cynllunio wrth ddehongli’r adran.
  • Continiwm Datblygu’r Gymraeg (Adran 3): Byddai’r adran hon yn cynnig llwybr at nod y Gymdeithas ar lefel gymunedol sef cydnabod y potensial i bob cymuned fod yn gymuned Gymraeg, gan weithio tuag at hynny ym mhob cymuned. Yn yr ardaloedd lle mae’r cyngor cymuned yn penderfynu mai diogelu’r Gymraeg yw’r nod, gallai cyngor cymuned benderfynu mai’r Gymraeg yw’r brif ystyriaeth gynllunio yn ei ardal.
  • Statws Swyddogol y Gymraeg yn y Drefn Gynllunio (Rhan 2): Byddai’r adrannau hyn yn gosod asesiadau effaith iaith annibynnol ar sail statudol, a fyddai’n sail tystiolaeth gadarn er mwyn caniatáu neu wrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith iaith. Gyda datblygiadau sylweddol, byddai asesiad effaith iaith yn awtomatig. Byddai pob datblygiad cynllunio hefyd yn gorfod cydymffurfio â’r gofynion sylfaenol yn adran 9 e.e. sicrhau arwyddion Cymraeg.
  • Anghenion Lleol yn Sail i’r Drefn Gynllunio (Rhan 3): Mae’r rhan hon yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o’r angen lleol am dai yn rheolaidd: hwnnw fyddai’r dechreubwynt ar gyfer pennu’r targedau tai, yn hytrach na’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar batrymau mudo hanesyddol. Byddai’n dileu’r ansicrwydd o ran (i) pwy sy’n gyfrifol am bennu’r targedau tai, sef yr awdurdodau lleol o dan y Bil hwn; a (ii) beth yw’r ystyriaethau wrth ffurfio’r targedau hynny.
  • Yr Hawl i Rentu (Rhan 4): Mae’r rhan hon yn creu’r hawl i bobl leol rentu tai am rent rhesymol, drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu’r hawl honno.
  • Cynllunio i’r Gymuned (Rhan 5): Hanfod y rhan hon yw y dylai fod yn anghyfreithlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai newydd oni bai eu bod yn diwallu angen lleol na ellir ei ddiwallu o’r stoc bresennol. Mae adran 13 yn creu llwybr tarw ar gyfer mathau o ddatblygiad a fyddai’n llesol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru yn gyffredinol.
  • Blaenoriaeth i Bobl Leol (Rhan 6): Byddai’r rhan hon yn rhoi’r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai mewn ardaloedd lle penderfynir mai diogelu’r Gymraeg yw’r nod cynllunio yn yr ardal.
  • Tribiwnlys Cynllunio Cymru (Rhan 11): Mae’r adrannau hyn yn sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio, gan greu hawl i drydydd parti apelio a chreu maes chwarae teg ar gyfer ymgeiswyr a gwrthwynebwyr.

Dolenni Defnyddiol