Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - ymateb

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

1.2. O edrych ar y Bil, mae tri mater sy’n effeithio ar y Gymraeg mae Comisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw atynt, ond nid yw’n ymddangos eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn y Bil arfaethedig.

2. Sylwadau ar ddarpariaethau’r Bil

Gwella Gwasanaethau Etholiadol yn Gymraeg

2.1. Mae nifer o’r materion etholiadol yn weithgareddau a wneir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddogion Canlyniadau. Fodd bynnag, ac yn wahanol i gynghorau sir, nid ydynt yn ddarostyngedig i ddyletswyddau ieithyddol statudol. Mae hynny’n fan gwan anfwriadol sydd wedi arwain at broblemau megis cyhoeddiadau etholiadol sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau1 gan dynnu sylw at y problemau hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd:

‘Ni ellir datgan eto bod profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â phrofiad siaradwr di-Gymraeg gan fod rhaid i’r unigolyn sydd yn dymuno derbyn gwybodaeth a ffurflenni trwy gyfrwng y Gymraeg, yn aml fynd gam ymhellach a gwneud mwy o ymdrech na phe bai’n cyrchu’r wybodaeth trwy gyfrwng y Saesneg.’

2.2. Nid yw’n ymddangos bod y Bil arfaethedig yn ymateb i bryderon nag argymhellion y Comisiynydd.

2.3. Argymhellwn felly y dylid ychwanegu cymal i’r Bil hwn sy’n gwneud Swyddogion Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddogion Canlyniadau yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg. Fel arall, dylai fod darpariaeth benodol sy’n sicrhau bod prif egwyddorion a darpariaethau Mesur y Gymraeg 2011 yn gymwys i’r swyddogion hyn, gan gynnwys peidio â chaniatáu i’r Gymraeg gael ei drin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol.

Gwasanaethau Cymraeg Cynghorau Cymuned

2.4. Nid yw cynghorau cymuned yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, yn lle, mae amrywiaeth o bolisïau a chynlluniau sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio, sef Deddf Iaith 1993. O ganlyniad, mae cynlluniau a pholisïau iaith nifer fawr o gynghorau cymuned yn anfoddhaol, anghyson a gwan. Mewn rhai achosion mae diffygion yr hen ddeddfwriaeth o ran gwarchod statws y Gymraeg wedi bygwth defnydd mewnol cynghorau o’r iaith.

2.5. Argymhellwn felly y dylai fod darpariaeth yn y Bil i hwyluso’r broses o osod Safonau’r Gymraeg ar gynghorau cymuned fel bod eu polisïau yn adlewyrchu darpariaethau ac egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011. Fel arall, dylai fod darpariaeth i gymhwyso prif egwyddorion a darpariaethau Mesur y Gymraeg 2011 i gynghorau cymuned.

Treuliau Etholiadol Ymgeiswyr

2.6. Mae ymgeiswyr etholiadol wedi datgan bod y rheolau presennol ynghylch terfynau gwariant pleidiau gwleidyddol wedi rhwystro defnydd o’r Gymraeg mewn etholiadau blaenorol oherwydd bod costau cyfieithu yn cyfrif at wariant.

2.7. Argymhellwn felly dylid eithrio costau cyfieithu o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ar ddeunydd etholiadol ymgeiswyr a phleidiau.

Grŵp Hawl

Cymdeithas yr Iaith

Ionawr 2020