Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

[agor fel PDF]

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.      Cyflwyniad

1.1.  Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

1.2. Croesawn y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad, cyfyngwn ein sylwadau i’r cynigion i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol.

1.3. Pryderwn nad yw’r pwyllgor wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth lafar gan arbenigwyr iaith fyddai'n gallu rhoi eu barn ynghylch y cwestiwn ieithyddol sy'n codi wrth ailenwi'r sefydliad.

2. Crynodeb

Mae modd crynhoi ein prif sylwadau fel a ganlyn:

  • Credwn y dylai fod enw uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol, sef y ‘Senedd’;

  • Dylid dileu cymal 2(2) y Bil, gan y byddai dilysu enw Saesneg yn tanseilio’r gwaith o normaleiddio defnydd o’r Gymraeg ac yn creu dryswch cyfreithiol ac ymarferol;

  • Nodwn y trafodaethau cyfreithiol ynghylch newidiadau i’r geiriau cychwynnol yn adran 1 Deddf Llywodraeth Cymru 2016. Pe bai’r pwyllgor yn dod i gonsensws ei bod yn gyfreithlon newid y geiriau cychwynnol hynny, yr opsiwn a ffefrir gennym ar hyn o bryd fyddai cyflwyno’r gwelliant canlynol:

“Bydd deddfwrfa genedlaethol i Gymru i’w galw’n ‘Senedd’.”

“There is to be a national legislature for Wales to be known as the ‘Senedd’.”

  • Cytunwn â’r cynigion i ail-enwi Deddfau, Aelodau, Clercod, y Comiswn, y Bwrdd Taliadau a’r Comisiynydd Safonau fel yr amlinellir yng nghymalau 3 i 7 y Bil arfaethedig gan eu bod yn cynnig defnyddio’r enw uniaith ‘Senedd’

  • Os na cheir sicrwydd gan y Llywodraeth y byddant yn gweithredu drwy is-ddeddfwriaeth i eithrio costau cyfieithu o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddiol ac ymgeiswyr, gofynnwn i’r pwyllgor gynnwys y darpariaethau priodol yn y Bil hwn.  

3. Safbwynt y Gymdeithas ar yr ail-enwi

2.1. Credwn mai’r enw sy’n disgrifio swyddogaeth a chyfrifoldebau’r sefydliad orau yw’r enw uniaith Gymraeg ‘Senedd.’

2.2. Anghytunwn gyda chymal 2(2) y Bil drafft sy’n sefydlu, de facto, enw dwyieithog. Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'Senedd' eisoes, yn y ddwy iaith. Prin fod y term “Welsh Parliament” yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd, a byddai ei gyflwyno nawr fel rhyw enw 'lled-swyddogol' yn gam yn ôl ac yn creu dryswch. Credwn y daw pawb i ddeall ‘Senedd’ yn well ac yn gyflymach os mai dyma fydd yr unig enw.

2.3. Mae lle gan y sefydliad i anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i’r genedl, o ran ei bolisïau a’i ddeddfwriaeth flaengar, ond hefyd ei ddefnydd o’r iaith genedlaethol unigryw. Mae’r gair 'Senedd' yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad, a dylid manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg.

2.4. Nodwn fod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn nodi nifer o enwau uniaith Gymraeg a ddefnyddir yn barod nad ydynt yn creu trafferth na phroblem i neb, sef: y Llywydd, y Senedd, Neuadd, Cwrt, Oriel, Siambr, Tŷ Hywel a Siambr Hywel.

2.5. Mae ein llywodraeth ddatganoledig eisoes yn cefnogi llu o sefydliadau sydd ag enwau uniaith Gymraeg: ‘Chwarae Teg’, ‘yr Urdd’, ‘Merched y Wawr’ a’r ‘Mudiad Meithrin’ i enwi rhai yn unig. Mae geiriau ein hanthem genedlaethol yn uniaith Gymraeg yn ogystal.

2.6. Gwyddom fod rhai wedi dadlau mai enw’r adeilad yw’r Senedd ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ail-enwi’r adeilad yn ‘Senedd-dy’ pe dymunir.

2.7. Dadleuir bod angen enw dwyieithog er mwyn cynnwys siaradwyr Saesneg. Fodd bynnag, mae’r enw ‘Senedd’ yn ffordd o dynnu pobl o bob cefndir ac iaith ynghyd, gan gofio hefyd nad y Gymraeg a’r Saesneg yw'r unig ieithoedd a siaredir yng Nghymru. Credwn fod gan ein corff democrataidd cenedlaethol gyfle euraid i fabwysiadu’r arfer gorau o ran hybu a hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddewis enw uniaith Gymraeg a fydd yn eiddo i bawb.

3. Ymateb i ddarpariaethau penodol y Bil a’r Memorandwm Esboniadol     

Cymal 2 - Enwi’r Senedd

3.1. Nodwn y negeseuon a’r rhesymeg cymysg o du’r Comisiwn a’r Llywodraeth ar hyn o bryd ynghylch yr enw. Nodwn ymhellach fod y Prif Weinidog wedi datgan ei gefnogaeth glir i enw uniaith Gymraeg ar 12fed Tachwedd 2018. Dywedodd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones ar 10fed Rhagfyr 2018 fod y Llywodraeth yn ffafrio enw uniaith ‘Senedd’.

3.2. Cytunwn gyda dadl Keith Bush CF y byddai cynnwys cymal 2(2) y Bil yn creu dryswch cyfreithiol. Mae’r Llywydd yn dadlau mai nod y Bil yw creu enw uniaith Gymraeg; os felly dylid cadw at y penderfyniad hwnnw a pheidio â chynnwys cymal 2(2) a fydd yn arwain at ddryswch cyfreithiol ac ymarferol.

3.3. Anghytunwn yn gryf gyda’r honiad ym mharagraff 114 bod angen cynnwys “Welsh Parliament” er mwyn ‘cynorthwyo’ pobl ddi-Gymraeg. Mae nifer fawr o bobl ddi-Gymraeg wedi dweud eu bod yn teimlo bod y dadleuon dros gyflwyno ail enw yn Saesneg yn nawddoglyd tuag at bobl ddi-Gymraeg. Mae rhesymeg y Comisiwn yn beryglus iawn o safbwynt ieithyddol - mae’n awgrymu bod angen cyfieithu enwau Cymraeg fel rheol er mwyn i’r cyhoedd eu deall. O fynd â’r ddadl honno i’w phen, byddai’n awgrymu bod angen cyfieithu pob enw lle uniaith Gymraeg sydd gennym ledled y wlad ynghyd â geiriau ein hanthem genedlaethol.

3.4. Mae’r memorandwm esboniadol yn pwysleisio drosodd a throsodd mai un o’r prif resymau dros y newid yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o waith ein Senedd genedlaethol. Wrth reswm, mae ceisio fframio ymgynghoriad y Comisiwn a’r ddadl gyhoeddus yn y fath fodd yn siŵr o ragfarnu yn erbyn y Gymraeg oherwydd ei statws fel iaith leiafrifoledig. Os mai dyna yw’r meddylfryd, byddai hynny’n codi cwestiynau mawr am le’r Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn fwy cyffredinol. Ymhellach, mae’r ddadl honno ynghylch sicrhau bod yr enw yn codi ymwybyddiaeth o waith y Senedd yn anwybyddu’r ffactorau pwysicach megis strwythur y cyfryngau sy’n cyfrannu’n sylweddol at y diffyg dealltwriaeth presennol.

3.5. Nid oes gennym yr arbenigedd cyfreithiol i gynnig sylwadau penodol ar y trafodaethau cyfreithiol rhwng y Llywodraeth a’r Comisiwn ynghylch newidiadau i’r geiriau cychwynnol yn adran 1 Deddf Llywodraeth Cymru 2016. Fodd bynnag, pe bai’r pwyllgor yn dod i gonsensws ei bod yn gyfreithlon newid y geiriau cychwynnol hynny, yr opsiwn a ffefrir gennym ar hyn o bryd fyddai cyflwyno’r gwelliant canlynol:

“Bydd deddfwrfa genedlaethol i Gymru i’w galw’n ‘Senedd’.”

“There is to be a national legislature for Wales to be known as the ‘Senedd’.”]

Cynigion presennol yn creu enw ‘de facto’ dwyieithog

3.6. Credwn fod cynnwys y memorandwm o ran y logo yn amlygu dryswch ac aneglurder safbwynt presennol y Llywydd a’r Comisiwn ynghylch y materion hyn. Er bod y Llywydd yn dadlau y bydd yr enw yn uniaith Gymraeg, mae’r logo arfaethedig ym mharagraff 121 y memorandwm yn ddwyieithog. Dyna sy’n dangos nad enw uniaith Gymraeg a gynigir yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ond un de facto dwyieithog. Mae hynny’n groes i farn mwyafrif Aelodau’r Cynulliad fel y’i datgenir ym mharagraff 111 y memorandwm.

3.7. Mae’r cynigion ym mharagraff 121 a pharagraffau 499 a 500 y bydd yr enw yn ddwyieithog ar arwyddion y sefydliad ac y bydd enwau parth yn ddwyieithog hefyd yn tanlinellu gwirionedd bwriad y Comisiwn a’r Llywydd. Mae parhau i roi enw Saesneg ar arwyddion ac enwau parth yn dangos mai enw dwyieithog fydd hwn yn hytach na’r enw uniaith Gymraeg a addawyd. Erbyn hyn, gellid dadlau bod defnydd o’r enw parth uniaith ‘senedd.cymru’ cyn bwysiced ag unrhyw gyfrwng arall o ran normaleiddio’r enw uniaith Gymraeg. Nodwn gyda chryn bryder felly yr awgrym y bydd defnydd o ‘parliament.wales’ o dan y cynigion arfaethedig, a galwn am sicrwydd drwy’r ddeddfwriaeth na fydd hyn yn digwydd, ac mai un enw, sef ‘Senedd’, a fydd yn cael ei ddefnyddio drwyddi draw.

Treuliau Etholiadol

3.8. Cytunwn y dylid eithrio costau cyfieithu o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddiol ac ymgeiswyr, gan fod ymgeiswyr wedi datgan bod y rheolau presennol wedi rhwystro defnydd o’r iaith mewn etholidau blaenorol.

3.9. Gofynnwn i’r pwyllgor geisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddant yn mynd i’r afael â’r mater hwn drwy reoliadau mewn pryd ar gyfer yr etholiadau nesaf. Cydnabyddwn resymeg y Comisiwn dros argymell delio â’r mater drwy is-ddeddfwriaeth; fodd bynnag, os nad oes sicrwydd gan y Llywodraeth y byddant yn gweithredu, gofynnwn i’r pwyllgor sicrhau y caiff darpariaeth ei chynnwys yn y Bil hwn.

Ymatebion i Ymgynghoriad y Comisiwn - Camargraff

3.10. Yn adran 5 y memorandwm esboniadol, adroddir ar ganlyniadau honedig yr ymgynghoriad. Credwn fod yr ymgynghoriad wedi rhagfarnu yn erbyn defnyddio enw uniaith Gymraeg drwy:

(i) fframio holl naratif yr ymgynghoriad ynghylch newid yr enw o gwmpas ‘dealltwriaeth’ o’r sefydliad yn hytrach nag unrhyw ffactorau neu ystyriaethau eraill. Er enghraifft, drwy ofyn cwestiwn am beth fyddai’n disgrifio rôl a chyfrifoldebau’r Cynulliad orau (“Pa mor dda, yn eich barn chi, y mae'r enwau isod yn disgrifio swyddogaeth a chyfrifoldebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru”) yn hytrach na chynnwys sôn am ystyriaethau eraill;

(ii) cynnig un opsiwn uniaith Gymraeg o gymharu â sawl opsiwn dwyieithog yn y cwestiwn am yr enw yn yr ymgynghoriad;

(iii) diystyru 227 ymateb dros ebost yn y ffigyrau a adroddir yng nghanfyddiadau’r ymgynghoriad.

4.      Casgliadau

4.1. Os yw'r Gymraeg yn perthyn i bawb, fel y dywedir yn aml, dyma gyfle gwych i'n corff democrataidd cenedlaethol ddangos hynny, drwy roi'r gair yma i bawb ei ddefnyddio. Dyma gyfle i gael hyn yn iawn ac i wneud penderfyniad y gall pobl edrych yn ôl arno gyda balchder. Dylai enw ein corff democrataidd cenedlaethol, ein Senedd, atseinio cystal â’n hanthem genedlaethol. Rydym yn mawr obeithio y bydd y pwyllgor yn cytuno i ddiwygio’r Bil felly er mwyn sicrhau bod enw a logo uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol.

4.2.   Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn, a’r materion sy’n codi, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 01970 624501.

Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Ebrill 2019