Cais i newid fformat Radio Ceredigion
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
2. Crynodeb o’n Safbwynt
2.1. Gwrthwynebwn ymgais arall gan berchnogion Radio Ceredigion i leihau'r nifer o oriau darlledu lleol a chenedlaethol Cymreig ar yr orsaf. Collfarnwn Ofcom am gynnal a chefnogi system sy'n niweidiol iawn i'r Gymraeg a democratiaeth yng Nghymru. Yn wir, mae'r sefyllfa yn gwaethygu yn sgil penderfyniad Ofcom i fabwysiadu canllawiau lleolrwydd newydd.
2.2. Anodd gennym gredu bod corff rheoleiddio wedi gadael Ceredigion a Chymru gyfan mewn sefyllfa mor drychinebus o ran darpariaeth yn y Gymraeg ac o ran cynnal democratiaeth leol a chenedlaethol Gymreig. Mae Ofcom 'Cymru' yn gadael i'r Gymraeg a democratiaeth Cymru 'yn noeth mewn glaw asid' y farchnad rydd profiad a ddylai fod yn perthyn i’r oes cyn datganoli. Mae ymddygiad Ofcom yn gwneud achos diamheuol dros drosglwyddo pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru fel bod ein democratiaeth ac ein hiaith yn cael y parch a’r sylw sydd gwir ei angen arnyn nhw.
3. Sylwadau ar y Cais
3.1. Nodwn fod Ofcom wedi cymryd ‘safbwynt rhagarweiniol’ ac yn bwriadu caniatáu’r cais i ‘newid Fformat’ ar sail maen prawf (b) yn Adran 106(1A):
‘na fyddai’r gwyriad yn cyfyngu ar amrywiaeth y rhaglenni sydd ar gael ar ffurf gwasanaethau radio annibynnol perthnasol i bobl sy’n byw yn yr ardal neu’r gymdogaeth y trwyddedwyd y gwasanaeth i ddarparu ar ei chyfer;’
3.2. Rydyn ni’n siomedig bod Ofcom unwaith eto’n cynnal ymgynghoriad ar ddarpariaeth radio lleol yng Ngheredigion heb grybwyll y Gymraeg mewn sir sydd ag oddeutu hanner y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.
3.3. Ni osodwyd unrhyw rwymedigaeth ar Radio Ceredigion Limited (sydd ym meddiant Nation Radio Limited) wrth ennill yr ail drwydded fis Rhagfyr 2018 i ddarparu cynnwys Cymraeg. Yn y ddogfen ymgynghorol dywedir bod y ‘Cais i newid Fformat’ yn ‘ymestyn – yn hytrach nag yn culhau – yr amrywiaeth o raglenni i wrandawyr yr ardal’. Nid yw darparu newyddion a gwybodaeth leol yng Ngheredigion heb gynnwys darlledu yn y Gymraeg yn cynyddu amrywiaeth y rhaglenni sydd ar gael i’r gynulleidfa yng Ngheredigion.
3.4. Roedd gan Radio Ceredigion Limited, a'i berchnogion Nation Radio Limited, y capasiti llynedd i ddarparu gwasanaeth mwy lleol at chwaeth a diddordeb y gwrandawyr a fyddai wedi bod yn unol â chanllawiau Ofcom:
“3.13: Mae’r Fformat newydd arfaethedig hefyd yn llawer mwy cyson a chanllawiau lleolrwydd cyhoeddedig Ofcom, sy’n nodi’r math o gynnwys (er enghraifft, newyddion lleol) rydym fel arfer yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno gan ddeiliaid trwydded radio lleol.”
3.5. Gellid bod wedi gweithredu cymal lleolrwydd wrth ddyfarnu’r ail drwydded i Radio Ceredigion Limited. Yn yr un modd gellid bod wedi cynnwys rhwymedigaeth gan Radio Ceredigion Limited i ddarlledu yn y Gymraeg. Ond mae cyfle gan Ofcom nawr, cyn caniatáu'r cais i Newid Fformat, i fynnu bod y Gymraeg yn greiddiol i unrhyw newid.
3.6. Gofynnwn felly i Ofcom gael cadarnhad ynghylch yr isod cyn caniatáu cais Radio Ceredigion Limited a sicrhau bod unrhyw benderfyniad i newid fformat yn seiliedig ar ddarpariaeth darlledu yn y Gymraeg mewn sir sydd ag oddeutu hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg:
- Trefniadaeth Radio Ceredigion Limited i ddarlledu yn y Gymraeg - wrth ‘ymestyn yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael i wrandawyr yr ardal’.
- Trefniadaeth Radio Ceredigion Limited i ddarlledu yn y Gymraeg yn eu ‘Cymeriad Gwasanaeth’ diwygiedig -wrth ehangu’r ‘dewis i wrandawyr’.
3.7 Nodwn sylwadau camarweiniol Ofcom. Nodwn fod bwletinau newyddion lleol yn mynd i newid o ‘Newyddion cenedlaethol Cymru bob awr o leiaf yn ystod oriau brig’ i ‘o leiaf bob awr yn ystod oriau brig yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn’. Mae hyn yn amlwg yn lleihad yn y ddarpariaeth. Er hyn nodir mai safbwynt rhagarweiniol Ofcom ydy ‘y byddai’r newid arfaethedig i gymeriad y gwasanaeth a’r ymrwymiad i ddarparu bwletinau newyddion yn lleol yn ymestyn - yn hytrach nag yn culhau’.
3.8 Nodwn fod Ofcom yn honni fod y newid yn y drwydded yn ‘bodloni maen prawf (b)’, ond nodwn fod, o ran oriau wedi eu gwneud yn lleol yn newid o ‘o leiaf 21 awr y diwrnod (rhaid cynnwys amser brecwast ac amser brecwast ar benwythnosau)’ yn mynd i newid i ‘o leiaf 7 awr y diwrnod yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. O leiaf 4 awr yn ystod y dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul’. Nodwn fod hyn yn lleihad o 147 awr yr wythnos wedi ei wneud yn lleol i 43 awr yr wythnos wedi ei wneud yn lleol. Nid yw hyn yn bodloni'r amodau a welir yn 2.11.
3.9 Cyfeirir yn yr ymgynghoriad at Radio Aber fel rhan o’r ‘gymysgedd’ o wasanaethau yn yr ardal. Mae hyn yn gamarweiniol gan nad yw’r orsaf ar yr awyr eto na’r drwydded wedi cael ei rhoi.
4. Adran 106(1A) Deddf Darlledu 1990
4.1. Gofynnir yn yr ymgynghoriad i ymatebwyr gyfyngu unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i'r newidiadau yn seiliedig ar adran 106(1A) Deddf Darlledu 1990.
4.2. Credwn y byddai’r gwyriad yn cyfyngu ar amrywiaeth y rhaglenni sydd ar gael ar ffurf gwasanaethau radio annibynnol perthnasol i bobl sy’n byw yn yr ardal y trwyddedwyd y gwasanaeth i ddarparu ar ei chyfer drwy ymysg pethau eraill:
(i) lleihau’r amrywiaeth ar drwydded Radio Ceredigion o 21 awr y dydd o Gymru i 7 yn unig o Gymru;
(ii) dileu’r gofyniad i gael newyddion cenedlaethol o Gymru;
(iii) ganiatau llai o gynnwys Cymreig ar y penwythnos;
(iv) peidio â gofyn am unrhyw gynnwys Cymraeg ar yr orsaf
4.3. Nodwn fod yr adroddiad yn cyfeirio sawl gwaith at Radio Aber, a hynny yng nghyd-destun amrywiaeth darlledu'r ardal. Credwn ei bod yn gamarweiniol i gyfeirio at yr orsaf honno gan nad yw hi'n darlledu eto. Mae'r adroddiad yn rhoi’r argraff bod mwy o amrywiaeth darlledu nag y mae mewn gwirionedd.
5. Casgliad
5.1. Galwn eto i ddatganoli darlledu i Gymru gan ddefnyddio’r ymgynghoriad hwn fel tystiolaeth bellach ar sut nad yw rheolau Ofcom yn ‘hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr’ Cymru.
5.2. Nodir yn yr ymgynghoriad hwn mai ‘hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr’ yw un o brif ddyletswyddau Ofcom. Amhosibl ydy gwneud hyn heb ddiddordeb ym muddiannau dinasyddion a defnyddwyr Ceredigion na Chymru, na dealltwriaeth ohonynt. Nid oes unrhyw dystiolaeth yma o sut mae Ofcom wedi dod i ganlyniad am y buddiannau yna.
Grŵp Digidol
Cymdeithas yr Iaith
Mai 2019