Carchardai yng Nghymru a thriniaeth troseddwyr
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan
1. Cyflwyniad
1.1 Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod ymgyrchu’n heddychlon ers 50 mlynedd dros hawliau i bawb gael byw eu bywydau yn Gymraeg.
1.2 Dros y blynyddoedd, mae nifer fawr o’n haelodau wedi treulio amser mewn carchdai yng ngwledydd Prydain yn sgil protestiadau. Yn yr achosion hyn mae diffygion enbyd wedi eu hamlygu yn y gwasanaethau a’r driniaeth o garcharorion ynghyd ag ymwelwyr i garchardai. Yn wir, mae carchardai, yng Nghymru a thu hwnt, yn rhemp gyda gwahaniaethu’n erbyn y Gymraeg.
1.3 Mae llawer o’r problemau yn gysylltiedig â’r diffyg llefydd ar gyfer carcharorion yng Nghymru, ond nid ydynt yn gyfyngedig i hynny gan y bu nifer o broblemau gyda’r driniaeth o’r Gymraeg o fewn carchardai yng Nghymru yn ogystal.
1.4 Yn ddiweddar, bum yn codi nifer o’n pryderon gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ac rydym ar ddeall ei bod wedi comisiynu gwaith ymchwil ynghylch y materion hyn.
2. Problemau Cyffredinol
2.1 Mae’n pryderon am y sefyllfa bresennol yn cynnwys y materion canlynol:
-
diffyg gwasanaethau Cymraeg sylfaenol ar gyfer carcharorion ac ymwelwyr megis:
-
diffyg ffurflenni Cymraeg
-
diffyg arwyddion Cymraeg
-
diffyg gwasanaethau ffôn Cymraeg
-
-
ymyrraeth â rhyddid pobl i siarad Cymraeg o fewn carchdai
-
gwahaniaethu yn erbyn carcharorion sy’n dewis siarad yn Gymraeg yn y carchar
-
diffyg hawl i gael mynediad at S4C, er bod sianeli cyhoeddus eraill ar gael
-
diffyg llyfrau Cymraeg mewn llyfrgelloedd carchardai
-
diffyg darpariaeth dosbarthiadau trwy gyfrwng y Gymraeg neu hyd yn oed i astudio'r 'Gymraeg' fel pwnc
-
diffyg staff o fewn carchardai sy’n siarad Cymraeg
-
diffyg ymwybyddiaeth staff carchardai o’r Gymraeg
3. Sylwadau Eraill
3.1 Bu un o’n haelodau, Jamie Bevan, mewn carchardai yn Ne Cymru ychydig o flynyddoedd yn ôl. Cafodd e nifer o fygythiadau am iddo geisio defnyddio’r Gymraeg a sicrhau gwasanaethau Cymraeg o fewn y carchar. Ar un ymweliad teulu i HMP Prescoed, gofynnwyd am ffurflenni Cymraeg i ymwelwyr ond dywedwyd nad oedd ffurflenni ar gael, gan adael i’r teulu orfod dewis rhwng ymweld â Jamie neu orfod llenwi ffurflen Saesneg. Wrth i ni geisio gael gwybodaeth ynghylch sefyllfa Jamie yn y carchar, ni chafwyd dim gwasanaeth Cymraeg dros y ffôn ychwaith.
3.2 Ymhellach, rydym yn ymwybodol o adroddiadau gan eraill bod swyddogion y carchar yn atal carcharorion rhag siarad Cymraeg ymysg ei gilydd. Bu adroddiadau cyhoeddus am nifer o broblemau tebyg wrth i garcharorion geisio siarad Cymraeg â’u teuluoedd.
4. Carchar Wrecsam
4.1 Oherwydd lleoliad a maint y carchar, rhaid cwestiynu felly i ba raddai mae’r carchar yn cael ei godi ar gyfer gogledd Cymru. Adlewyrchir hyn hefyd yn y diffiniad o “lleol” a ddefnyddir wrth rhoi contractau i gwmnïau yn yr ardal i chyfrannu at codi’r carchar. Yn anffodus, bydd carchar Wrecsam bron yr un mor bell i deuluoedd o ogledd-orllewin Cymru drafeilio i weld carcharorion a’r rhai presennol dros y ffin. Mae hyn yn achos pryder.
4.2 Nid yw rhain yn dadleuon yn erbyn lleoli carchar newydd o ryw fath yn Wrecsam, ond yn hytrach dadleuon dros ddarparu carchardai llai ar gyfer y bobl leol, yn hytrach nag adeiladu un carchar enfawr fel y’i gynllunir gan y Llywodraeth. Credwn y dylai’r Llywodraeth edrych ar fodelau ar gyfer darpariaeth llai a llawer mwy lleol ar draws Cymru gyfan. Mae angen yn parhau i gael llefydd yng Nghymru ar gyfer menywod a throseddwyr ifanc. Ymhellach, credwn y dylai’r carchar fod yn nwylo cyhoeddus a chael ei redeg gan y wladwriaeth, yn hytrach na chwmni preifat er mwyn elw.
5. Awgrymiadau
5.1 Credwn fod nifer o gamau y dylid eu cymryd er mwyn gwella’r sefyllfa drychinebus bresennol yn ein carchardai, gan gynnwys:
-
sicrhau bod carchardai yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth a nid gan gwmni preifat
-
gosod targedau clir ar gyfer cyflogi rhagor o siaradwyr Cymraeg o fewn carchardai
-
sicrhau bod carchardai a’r gwasanaethau cysylltiedig yn dod o dan safonau iaith cynhwysfawr cyn gynted â phosibl
-
cyrsiau dysgu Cymraeg a chyrsiau ymwybyddiaeth iaith i staff
-
ail-sefydlu mynediad at sianel S4C mewn carchardai
-
darparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg i garcharorion yn ogystal â chhyrsiau i addysgu’r Gymraeg i garcharorion
-
sicrhau gwellhad sylweddol i wasanaethau Cymraeg carchardai, gan gynnwys cynnig rhagweithiol o’r gwasanaethau hynny
5.2 Credwn y dylid datganoli’r gyfundrefn gyfiawnder yn ei gyfanrwydd i Gymru. Credwn y byddai datganoli’r gyfundrefn i Gymru yn ffordd o wella hawliau carcharorion i’r Gymraeg a’r gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Gorffennaf 2014