Cartrefi Cymunedol Gwynedd - cwyn am hysbyseb swydd

Annwyl Gomisiynydd y Gymraeg,

Cysylltwn er mwyn gwneud cwyn yn erbyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG). Fel y gwyddoch, mae’r mater hwn wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar oherwydd penderfyniad y sefydliad nad oes angen i’r Dirprwy Brif Weithredwr fedru’r Gymraeg, drwy beidio â gosod y Gymraeg fel sgil hanfodol, na hyd yn oed dymunol, wrth hysbysebu’r swydd.

Mewn gweithle lle y mae 95% o’r staff yn siarad Cymraeg, sy’n gweinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n amlwg na fyddai unigolyn di-Gymraeg yn meddu ar y sgiliau cywir i reoli ac i arwain y sefydliad. Pryderwn nad oes hyd yn oed amod i ddysgu’r Gymraeg ynghlwm wrth y swydd. Ni fyddai’n bosib cynnal y weinyddiaeth fewnol Gymraeg hon gyda dirprwy brif weithredwr di-Gymraeg, ac felly byddai hyn yn gam enfawr yn ôl. Yn ogystal, mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon yn siaradwyr Cymraeg, sy’n pwysleisio’r angen amlwg am benodi siaradwr Cymraeg i’r swydd hon.

Noda Cynllun Iaith CCG a gymeradwywyd yn 2019:

“6.1.1 Gyda mwyafrif llethol y staff yn ddwyieithog, iaith weithredu fewnol CCG yw Cymraeg ac fe’i siaredir fel norm. Anogir i bob memorandwm, e-bost a chofnodion mewnol fod yn ddwyieithog.

7.1 Staffio

7.1.1 Er mwyn cwrdd â’n nod o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal byddwn yn sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at safon sy’n briodol i ddibenion y swydd, ar ôl cynnal asesiad sgiliau iaith ar holl swyddi o fewn y sefydliad.

7.1.2 Bydd asesiad sgiliau iaith yn cael ei gynnal ar swyddi presennol ar sail rhaglen dreigl, gyda swyddi sy’n cael eu hysbysebu yn derbyn blaenoriaeth y tu allan i’r broses honno pryd a phan maent yn codi.

7.13 Bydd holl swyddi â’r Gymraeg yn hanfodol yn parhau felly. Bydd pob swydd arall yn cael ei hasesu i benderfynu a yw’r Gymraeg yn ofyniad hanfodol neu ddymunol a bydd hyn cael ei adlewyrchu yn y swydd ddisgrifiadau a’r manylebau person.

7.2 Recriwtio

7.2.1 Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ofynnol ar gyfer pob swydd o fewn CCG, i safon ddisgwyliedig ar draws pob maes y mae’n gweithredu oddi fewn iddo.”

Mae’n amlwg felly bod y sefydliad yn torri eu cynllun iaith drwy beidio â gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd, gan gynnwys y rhesymau canlynol:

(i) byddai’n atal gweithredu pwynt 6.1.1 y cynllun; a

(ii) bod pwynt 7.13 y cynllun ddim ond yn caniatáu i swyddi gael eu hysbysebu gyda’r Gymraeg yn ofyniad hanfodol neu ddymunol;

Gofynnwn i chi gynnal ymchwiliad felly.

Pryderwn hefyd am ymateb ac ieithwedd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan. Credwn fod cyfle i chi ddweud yn glir wrth y Llywodraeth pa mor bwysig yw cyrff sy’n gweinyddu’n fewnol yn Gymraeg, os ydynt o ddifrif am gyrraedd y targed y miliwn o siaradwyr.

Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn un o’r sefydliadau prin sy’n gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Os yw’r Gymraeg i ffynnu, mae angen mwy o sefydliadau o’r fath, nid llai. Byddai penodi rhywun di-Gymraeg i’r swydd yn tanseilio statws y Gymraeg fel iaith weinyddol y sefydliad yn sylweddol. Yn fwy cyffredinol, mae gan Lywodraeth Cymru record wael iawn pan ddaw hi at gynyddu defnydd mewnol y Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil a chyrff cyhoeddus eraill. Mae creu a chynnal swyddi Cymraeg, a sicrhau bod rhagor o sefydliadau yn gweithio drwy’r iaith, yn hanfodol os yw’r Llywodraeth o ddifrif am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Fel unrhyw sgil angenrheidiol arall ar gyfer swyddi penodol, mae’r Gymraeg yn sgil y gellir ei dysgu. Nid yw’r Gweinidog yn iawn felly i honni bod gofyn am sgil benodol yn “disgrimineiddio” yn erbyn y rhai nad ydynt yn meddu ar y sgil honno eto. Yn yr un modd ag y mae’r gallu i yrru yn sgil ar gyfer rhai swyddi, felly hefyd y mae’r Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer swyddi penodol.

Rydym yn dal i aros i’r Llywodraeth gyhoeddi’r amserlen ar gyfer gosod Safonau Iaith ar gymdeithasau tai, ac yn erfyn arnoch i sicrhau bod y Llywodraeth yn cyhoeddi amserlen cyn gynted â phosibl.

Byddai parhau â’r broses a allai arwain at benodi unigolyn nad yw’n medru cyfathrebu yn iaith fwyafrifol y sir mae’n ei wasanaethu, yn gam enfawr am yn ôl, i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, ac i Wynedd a’r Gymraeg yn gyffredinol.

Yn gywir,

Manon Elin

Is-gadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith