Cwestiynau am Adolygiad Cwricwlwm Donaldson

Annwyl Weinidog, 

Ysgrifennwn atoch er mwyn codi cwestiynau ynghylch strwythur eich adolygiad o'r cwricwlwm a arweinir gan yr Athro Graham Donaldson 

Mae'n siŵr y bydd yr Athro Donaldson gyda dealltwriaeth dda o le pynciau fel mathemateg mewn cwricwlwm, ond mae'n annheg disgwyl y bydd yn deall lle canolog y Gymraeg yn ein cwricwlwm. Y beryg yw y bydd yn ei gweld fel pwnc ychwanegol yn unig, yn lle sgil hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono.  

Dywedodd y Prif Weinidog iddo benodi'r Athro Donaldson i arwain adolygiad cwricwlwm, ac mae hyn yn rhagdybio fod ganddo dîm i'w harwain ac i'w gefnogi. Gofynnwn i chwi enwi pwy yw'r addysgwyr hyn sydd i fod i gynorthwyo'r Athro Donaldson er mwyn i bobl gael hyder y bydd yr adolygiad ar sail dealltwriaeth o'r gwerthoedd sy'n sylfaenol i addysg yng Nghymru gan gynnwys lle hanfodol yr iaith Gymraeg.  

Yn ogystal, roeddem yn falch o weld datganiad polisi diweddar "Bwrw Ymlaen" gan y Prif Weinidog yn datgan ei fod yn meddwl ei bod yn “...  bwysig bod holl ddisgyblion Cymru ... yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.”. Hoffem wybod sut mae'r Llywodraeth wedi cyfarwyddo'r Athro Donaldson ers i'r Prif Weinidog wneud y datganiad arwyddocaol hwnnw yn ei ddogfen polisi "Bwrw Ymlaen" yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymhellach, a ydych chi'n disgwyl i adolygiad yr Athro Donaldson ddod ag argymhellion gerbron er mwyn gwireddu'r dyhead hwnnw?  

Edrychwn ymlaen at eich ymateb i'r pwyntiau hyn a'r datblygiadau polisi a fydd yn dod o'r Llywodraeth a'r adolygiad cwricwlwm a fydd yn sicrhau bod holl ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol gyda'r gallu a hyder i gyflawni ei waith a byw drwy gyfrwng y Gymraeg.   

Yr eiddoch yn gywir, 

Ffred Ffransis, llefarydd addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg