Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd – ymateb i gynigion y Papur Gwyn

[agor fel PDF]

 

Cenhadaeth ein cenedl: cwricwlwm gweddnewidiol – cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.      Cyflwyniad

1.1.  Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

2. Crynodeb

2.1. Gallwn grynhoi’r prif bwyntiau yn ein hymateb i’r Papur Gwyn fel a ganlyn:

 

  • Cefnogwn gynnig y papur gwyn i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm ar gyfer dysgu'r Gymraeg. Mae hawl gan bob un disgybl yn y wlad i adael yr ysgol yn gallu siarad, ysgrifennu, darllen a deall yr iaith, felly rydym yn hynod falch o weld y Llywodraeth yn ymrwymo i’r egwyddor o addysg Gymraeg i bawb.

  • Cytunwn yn ogystal gyda'r cynnig i barhau gyda'r Gymraeg fel pwnc gorfodol yn y cwricwlwm.

  • Credwn fod angen mynd ati cyn gynted â phosibl i beilota un cymhwyster Cymraeg i bawb er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu ar ei hymrwymiad i ddileu Cymraeg Ail Iaith.

  • Galwn ar Lywodraeth Cymru i ariannu prosiect peilot rhwng CBAC a Chymwysterau Cymru er mwyn gallu treialu’r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd mewn rhai ysgolion ddim hwyrach nag o fis Medi 2020 ymlaen, fel cam blaengar tuag at baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

  • Nid ydym yn cytuno â’r cynnig yn y Papur Gwyn i ddeddfu i wneud y Saesneg yn orfodol yn y cwricwlwm. Nid yw'r papur gwyn yn cynnig tystiolaeth i gyfiawnhau'r cynnig nac yn esbonio pwy sydd wedi argymell hyn na gofyn amdano. Mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny yn y maes profiad a dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol am y Saesneg.

  • Pryderwn y byddai gwneud y Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu'n ehangach. Soniwyd am y posibilrwydd o gadw Saesneg yn y ddeddf fel gofyniad cyffredinol ond gwneud eithriad ar gyfer y sector ‘Cymraeg’. O ystyried y dymuniad i ysgolion symud i fyny’r continwwm ieithyddol, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion yw’r ateb - yr hyn sydd ei angen yw tynnu Saesneg yn llwyr o’r ddeddfwriaeth.

  • Credwn y dylai ieithoedd rhyngwladol fod yn bwnc gorfodol yn ein hysgolion, yn groes i'r cynnig yn y papur gwyn. Mae sail dystiolaeth gadarn a chynyddol bod angen sicrhau bod yr ieithoedd eraill hyn yn cael eu haddysgu yn hytrach na pharhau i fod yn ddewisol.

  • O ran categorïau ysgolion, credwn fod angen cyfundrefn sy'n gweithredu fel continwwm sy'n hwyluso a chymell sefydliadau addysg i ddarparu mwy a mwy o'u haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae perygl bod categoreiddio yn annog ysgolion i aros o fewn y categori yn hytrach na symud i fyny continwwm o ddarpariaeth gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n hanfodol er mwyn gwireddu amcanion y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr.

  • Dylai’r Llywodraeth gyhoeddi cynllun erbyn mis Medi 2019 yn amlinellu’n glir y camau y bydd yn eu cymryd i sicrhau’r gweithlu sydd ei angen er mwyn gwireddu’r weledigaeth o un continwwm addysg Gymraeg i bawb. Bydd angen i’r cynllun hwn gynnwys targedau, amserlen a mesuriadau llwyddiant clir.

 

3.      Addysg Gymraeg i bawb

3.1.   Cefnogwn yn gryf y cynnig yn y papur gwyn i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm ar gyfer dysgu'r Gymraeg. Mae hawl gan bob un disgybl yn y wlad i adael yr ysgol yn gallu siarad, ysgrifennu, darllen a deall yr iaith, felly rydym yn hynod falch o weld y Llywodraeth yn ymrwymo i’r egwyddor o addysg Gymraeg i bawb.

3.2. Cytunwn hefyd gyda'r cynnig i barhau gyda'r Gymraeg fel pwnc gorfodol yn y  cwricwlwm.

3.3. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nodai’r adroddiad: ‘Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.’

3.4. Un o argymhellion allweddol yr Athro Davies oedd disodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm, ac rydym yn croesawu bwriad y Llywodraeth i weithredu ar yr argymhelliad, er ei bod yn llawer hwyrach nag yr oedd yr adroddiad yn ei argymell.

3.5. Mae’r cynnig yn adlewyrchu consensws ymysg mudiadau iaith o blaid y cynnig o ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwn o ddysgu’r Gymraeg er mwyn gwella’r ffordd a’r gyfundrefn o ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl. Yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau Cymru yn 2016, dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg:

“Mae adroddiad Sioned Davies (2012) wedi nodi bod ysgolion Saesneg ar y cyfan yn aneffeithiol wrth ddysgu’r Gymraeg. Bydd dysgu’r Gymraeg ar un continwwm, gan ddatblygu o’r sector cynradd i’r uwchradd a hefyd defnyddio’r Gymraeg ar gyfer gweithgareddau, yn fodd o gyflwyno’r Gymraeg yn effeithiol fel iaith fyw yn yr ysgolion hyn.”

3.6. Mae’r undeb athrawon UCAC wedi cefnogi’r argymhellion yr Athro Sioned Davies i ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm o ddysgu’r iaith yn ogystal.

4. Un cymhwyster Cymraeg

4.1. Er mwyn cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm, rhaid cyflwyno un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl 16 oed, a hynny fel mater o frys.

4.2. Croesawn yn fawr ddatganiad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ym mis Mawrth 2018 y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol.

4.3. Fodd bynnag, ni all y Gymraeg aros tan i ddisgyblion ddechrau astudio’r cymhwyster cyfunol yn 2025 a sefyll ei arholiadau yn 2027, sef amserlen hynod araf y Llywodraeth ar gyfer newid cymwysterau yn gyffredinol. Oherwydd y system bresennol, mae tua 26,000 o bobl ifanc yn colli allan ar ruglder yn y Gymraeg bob blwyddyn. Er gwaethaf dros ddegawd o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc, felly, cânt eu hamddifadu o allu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ni all y Gymraeg, Cymru na’r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc fforddio parhau â’r system yma am flynyddoedd lawer i ddod.

4.4. Tra bod tua 22% o blant 7 mlwydd oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond tua 17%2 o bobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy'n dilyn llwybr Cymraeg iaith gyntaf. Mae canran sylweddol o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg3, gan ddilyn llwybr Cymraeg Ail Iaith fel arfer a cholli'r arferiad o ddefnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu o ddydd i ddydd. O blith y plant a asesir fel disgyblion iaith gyntaf ym mlwyddyn 6 yng Ngwynedd, dydy 15% ddim yn cael eu hasesu felly ym mlwyddyn 9. Mae ffigwr tebyg, sef 14%, yn Sir Gaerfyrddin. Ar lefel Cymru gyfan, mae 11% o blant yn colli rhuglder yn y Gymraeg o achos diffyg dilyniant rhwng y sector gynradd ac uwchradd.

4.5. Ymhellach, mae’r Llywodraeth wedi gosod nod uchelgeisiol o sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Heb weddnewid y system, gan gynnwys creu un cymhwyster Cymraeg i bawb, ni fydd modd i'r Llywodraeth gyrraedd ei tharged ei hunan.  

4.6. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweithio gydag arbenigwyr ym maes addysg a mudiadau addysg eraill i baratoi manyleb ddrafft ar gyfer un cymhwyster Cymraeg TGAU i bob disgybl yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi’r cynigion terfynol ym mis Ebrill 2019, a byddwn yn falch o allu trafod y rhain gyda Llywodraeth Cymru.

4.7. Mae’n glir bod angen osgoi oedi pellach wrth gyflwyno un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Galwn felly ar Lywodraeth Cymru i ariannu prosiect peilot rhwng CBAC a Chymwysterau Cymru er mwyn gallu treialu’r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd mewn rhai ysgolion ddim hwyrach nag o fis Medi 2020 ymlaen, fel cam blaengar tuag at baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.  Er mwyn i'r peilot gael ei weithredu’n iawn, bydd angen adnoddau a chymorth ychwanegol ar yr ysgolion sy’n rhan ohono. Yn fuan wedi ei gwblhau, dylid asesu ei lwyddiant a chyflwyno’r cymhwyster newydd i bob ysgol ar y cyfle cynharaf posibl.

5. Cynigion ar gyfer dysgu’r Saesneg

5.1.   Anghytunwn yn gryf â’r cynnig yn y papur gwyn i wneud y Saesneg yn orfodol yn y ddeddfwriaeth fydd yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd, ac nid yw’n glir i ni pam mae’r Llywodraeth yn cynnig hyn.

5.2.   Nid yw'r papur gwyn yn cynnig tystiolaeth i gyfiawnhau'r cynnig nac yn esbonio pwy sydd wedi argymell hyn na gofyn amdano. Yn benodol, nid oedd adroddiad Donaldson, y derbyniwyd ei argymhellion yn llawn gan y Llywodraeth, yn argymell gwneud y Saesneg yn orfodol yn y cwricwlwm. Nid yw ychwaith yn darparu tystiolaeth i gyfiawnhau’r honiad yn y Papur Gwyn bod gan y Llywodraeth ‘ymrwymiad cyfreithiol’ sy’n golygu bod yn rhaid gwneud dysgu’r Saesneg yn orfodaeth statudol.

5.3.   Mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny yn y maes profiad a dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol am Saesneg.

5.4.   Pryderwn y bydd gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu'n ehangach.

5.5.  Mae Llywodraeth Cymru wedi crybwyll y posibilrwydd o gadw Saesneg yn y ddeddf fel gofyniad cyffredinol ond gwneud eithriad ar gyfer y sector ‘Cymraeg’. O ystyried y dymuniad i ysgolion symud i fyny’r continwwm ieithyddol, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion yw’r ateb - yr hyn sydd ei angen yw tynnu Saesneg yn llwyr o’r ddeddfwriaeth.

5.6 Wrth baratoi cwricwlwm fydd yn addas i anghenion Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain ac yn rhoi cyfle teg i bob un o blant Cymru, rhaid ystyried y gwahanol gyd-destunau mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn bodoli ynddynt. Mae holl blant Cymru’n rhwym o ddod yn rhugl yn y Saesneg yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, ond mae hynny’n bell iawn o fod yn wir ar gyfer y Gymraeg, fel iaith sydd wedi’i lleiafrifoli.

5.7 Gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith yw gwlad lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng addysg. Catalaneg yw’r cyfrwng addysg statudol yng Nghatalwnia. Credwn fod angen symud tuag at system debyg yng Nghymru, er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Byddai cynnwys y Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm ar wyneb y ddeddfwriaeth hon yn tanseilio’r nod hwnnw.  

5.8 Credwn fod angen i’r Llywodraeth ddangos cyfiawnhad clir dros ei chynnig o wneud y Saesneg yn orfodaeth statudol yn y cwricwlwm. Mae wedi methu â dangos unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau ei hargymhellion na chyfeirio at unrhyw arbenigwr sydd wedi cynnig hynny. Mae hynny’n wahanol iawn i gynigion eraill yn y Papur Gwyn sy’n seiliedig ar drafodaethau hir a dwys gan arbenigwyr.

5.7. Ymhellach, credwn y dylai ymyraethau polisi cyhoeddus fod yn ymateb i broblemau clir sydd angen eu hunioni. Yn achos y Saesneg, nid oes tystiolaeth bod perygl o gwbl na fydd yn cael ei haddysgu, ac felly nid oes angen y cynnig deddfwriaethol yn y Papur Gwyn.  

 

6.   Ieithoedd rhyngwladol

6.1.   Credwn y dylai ieithoedd rhyngwladol fod yn elfen orfodol o’r cwricwlwm, yn groes i’r cynnig yn y papur gwyn i’w gwneud yn ddewisol.

6.2.   Mae sail dystiolaeth gadarn a chynyddol bod angen sicrhau bod yr ieithoedd eraill hyn yn cael eu haddysgu yn hytrach na pharhau i fod yn ddewisol.  

6.3.  Yn sgil y cwymp mawr rydym wedi’i weld yn niferoedd y disgyblion sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol ar gyfer TGAU a safon uwch, gyda gostyngiad o 29% yn nifer yr arholiadau TGAU ieithoedd gafodd eu sefyll yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd credwn ei bod yn bwysig rhoi mwy o le i ddysgu’r ieithoedd hyn cyn bod pobl ifanc yn 16 oed.

6.4.  Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol i blant yn cynnig buddion addysgol, gwybyddol a chymdeithasol sylweddol, a byddai sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru’n dysgu o leiaf un iaith ryngwladol yn cyd-fynd ag arferion a safonau rhyngwladol mewn addysg.

6.5 Os ydym am sicrhau bod pobl ifanc Cymru’n mwynhau holl fuddion dysgu ieithoedd rhyngwladol, rhaid rhoi statws gorfodol i’r ieithoedd hyn yn y cwricwlwm. Fel arall, pryderwn y bydd nifer fawr o ysgolion yn dad-flaenoriaethu neu’n gollwng ieithoedd rhyngwladol yn eu cwricwlwm, gan greu system ‘dwy haen’.

6.6. Credwn y dylai ysgolion fanteisio ar yr amrywiaeth gyfoethog o ieithoedd sy’n bodoli eisoes yn ein cymunedau, a dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r potensial o ariannu rhaglenni cyfnewid ieithoedd rhwng disgyblion ysgol, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Bydd hyn yn rhoi cyfle i blant ddysgu ieithoedd cymunedol eraill megis Pwyleg, Wrdw ac Arabeg, ac i rieni a theuluoedd ddysgu’r Gymraeg gyda’u plant.

 

7. Categoreiddio ysgolion

7.1.   Nodwn y cynnig i roi grymoedd i Weinidogion Cymru ‘a fydd yn caniatáu iddynt ragnodi'r diffiniadau ar gyfer y categorïau iaith ysgolion drwy is-ddeddfwriaeth’.

7.2. Credwn fod angen cyfundrefn sy'n gweithredu fel continwwm sy'n hwyluso a chymell sefydliadau addysg i ddarparu mwy a mwy o'u haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

7.3. Mae perygl bod categoreiddio yn annog ysgolion i aros o fewn y categori yn hytrach na symud i fyny continwwm o ddarpariaeth gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n hanfodol er mwyn gwireddu amcanion y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

7.4. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Addysg Gymraeg i sefydlu cyfundrefn newydd o gynllunio addysg ar lefel leol a chenedlaethol, fydd yn symud, dros amser, at gyfundrefn sy’n addysgu pawb drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

8. Cynllunio a hyfforddi’r gweithlu

8.1.   Er mwyn gwireddu’r newidiadau yn y cwricwlwm o ran y Gymraeg, credwn fod angen cynllun llawer mwy cynhwysfawr ac uchelgeisiol i hyfforddi gweithlu addysg fydd yn barod i gyflawni’r hyn sydd ei angen yn y cwricwlwm newydd.

8.2.   Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer y gweithlu oedd yn ffrwyth gwaith sawl mudiad ac arbenigwr addysg. Credwn y dylai’r Llywodraeth fabwysiadau cynllun newydd fydd yn cynnwys y polisïau canlynol:

  • Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canran y bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg o’r newydd neu i ddilyn cwrs gloywi iaith;

  • Sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant

  • Rhaglenni dwys o hyfforddiant mewn swydd yn y gweithle, sydd wedi’u teilwra i anghenion gwahanol y gweithlu, gan gynnwys:

    • cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i Gymru;

    • rhaglen hyfforddiant gloywi iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;

    • rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r staff nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl ar hyn o bryd i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys, yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd;

    • atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid a grwpiau cefnogi ysgol/ardal.

8.3.   Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun erbyn mis Medi 2019 fydd yn amlinellu’n glir y camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn sicrhau’r gweithlu sydd ei angen er mwyn gwireddu’r weledigaeth o un continwwm addysg Gymraeg i bawb. Bydd angen i’r cynllun hwn gynnwys targedau, amserlen a mesuriadau llwyddiant clir.

 

9.      Gwybodaeth bellach

9.1.   Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi sawl papur polisi allweddol ynglyn ag addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’r agenda miliwn o siaradwyr Cymraeg, sydd i’w gweld drwy fynd i cymdeithas.cymru/miliwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Miliwn o Siaradwyr Cymraeg – Gweledigaeth 2016 Ymlaen (2015)

  • Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr (2016)

  • Bil Addysg Gymraeg i Bawb – Ymateb i adolygiad Bwrdd Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (2018)

  • Un Cymhwyster Cymraeg Iaith i Bawb (2019)

9.2.   Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn, a’r materion sy’n codi, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 01970 624501.

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mawrth 2019