Cwyn at Brif Weithredwr Morrisons

Annwyl Dalton Philips,

Ysgrifennwn atoch am y digwyddiadau diweddar ym Morrisons Bangor a gwrthodiad aelod o'ch staff i dderbyn presgripsiwn Cymraeg, digwyddiad a berodd loes i'r teulu gan iddo achosi oedi rhag derbyn y feddyginiaeth. Mynnwn eich bod yn ymddiheuro'n syth am y digwyddiad a newid eich polisïau er mwyn sicrhau nad yw'r fath beth yn digwydd eto.

Mae’r Bwrdd Iechyd lleol, yn ei gynllun iaith, yn ymrwymo i gynnwys amodau iaith wrth adnewyddu unrhyw gontractau gyda darparwyr Gofal Cychwynnol, megis fferyllfeydd. Hoffwn eich atgoffa chi, fel cwmni sy’n darparu gwasanaeth i bobol Cymru ar ran y Byrddau Iechyd, bod gyda chi ddyletswydd i weithredu o fewn ysbryd cynllun iaith y bwrdd lleol.

Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ers 2011 (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011). Mae hynny'n golygu nad oes modd i awdurdod gwestiynu, herio na gwrthod dilysrwydd gweithredoedd uniaith Gymraeg. Deallwn fod rhai fferyllfeydd yn dilyn rheolau anstatudol i beidio â derbyn presgripsiynau uniaith Gymraeg, ond credwn fod y rhain yn groes i gyfraith Cymru.

Yn ogystal â gofynion statudol, onid oes hefyd ddyletswydd moesol ar gwmni mawr fel Morrisons i ddarparu gwasanaeth cyflawn i’w cwsmerïaid? Credwn ei bod yn gam gwag i’r cwmni geisio amddiffyn sefyllfa hurt lle na all cwsmeriaid yng Nghymru drafod presgripsiwn Cymraeg. Wedi’r cyfan, os na allwn fyw trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, ble felly gallwn ni fyw yn Gymraeg?

Hoffwn dderbyn eich ymateb i sawl cwestiwn:

  • Ydy Morrisons yn cydnabod bod ei fethiant, yn yr achos yma, yn gwbl annerbyniol?

  • Os felly, sut yn fanwl, mae cwmni Morrisons yn bwriadu cyflwyno newidiadau fel na fydd hyn yn digwydd eto, ym Morrisons Bangor nac yn unrhyw siop arall o’i eiddo ledled Cymru?

Hoffwn gynnig atebion i’r ail gwestiwn trwy osod allan yr hyn rydym am weld Morrisons yn ei gyflawni mewn perthynas â’r achos penodol yma, a hynny ar frys:

  • datganiad cyhoeddus y bydd eich fferyllfeydd yn derbyn presgripsiynnau yn y Gymraeg o hyn ymlaen;

  • ymddiheuriad cyhoeddus i’r teulu;

  • canllawiau a gweithdrefnau clir i staff ar sut i ymdrin â cheisiadau cyfrwng Gymraeg er enghraifft rhestr amlwg o’r staff sydd ar gael i ymdrin ag ymholiadau yn y Gymraeg

  • strategaeth cyflogaeth i ymateb i unrhyw ddiffyg sgiliau Cymraeg gweithluoedd eich siopau ledled Cymru;

Yn bellach, o ran eich gwasanaethau’n gyffredinol, galwn arnoch i:

  • sicrhau bod pob arwydd yn eich siopau yng Nghymru yn ddwyieithog. (Nodwn gyda chryn bryder, fod arwyddion uniaith Saesneg wedi cael eu gosod yn siop Bangor ers ei hadnewyddu, a rheini yn lle'r rhai dwyieithog fel yr oeddent cynt)

  • tiliau hunan wasanaeth dwyieithog

  • digon o staff sy’n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru

  • labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand Morrisons

  • deunydd hyrwyddo a marchnata (e.e. taflenni, hysbysebion, arwyddion dros dro) dwyieithog

  • cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru

Rydym ar hyn o bryd yn cymryd cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r digwyddiadau diweddar ym Mangor, ac fe fyddwn yn ystyried y camau nesaf yn seiliedig ar y cyngor hwnnw yn ogystal â’ch ymateb i’r sefyllfa.

Byddem yn barod iawn i gwrdd â’ch uwch swyddogion er mwyn trafod y materion uchod.

Yn gywir

Jamie Bevan

Is-Gadeirydd, Grŵp Hawliau, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd

Comisiynydd y Gymraeg