Cwyn at Gyngor Wrecsam - Gor-ddweud cost hawliau i'r Gymraeg

Annwyl Gyng. Hugh Jones, 

Ysgrifennaf atoch gyda chwyn ynghylch amcangyfrifon y Cyngor o gost gweithredu Safonau'r Gymraeg. Nodwn fod nifer fawr o'r Safonau, hawliau i'r Gymraeg sy'n deillio o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn adlewyrchu'r hyn y dylai'r Cyngor fod wedi cyflawni yn unol â Deddf Iaith 1993 beth bynnag. Felly ni ddylai fod dim cost yn gysylltiedig â chydymffurfio â'r rheiny.  

Byddwch yn ymwybodol bod eich amcangyfrifon ynghylch gweithredu'r Safonau lawer iawn yn uwch na nifer o gynghorau eraill. Yn ôl asesiad effaith rheoleiddio'r Safonau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2015 (http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s38000/CLA4-09-15%20-%20Papur%2014.pdf), dywedodd Cyngor Wrecsam wrth y Llywodraeth y byddai cost gweithredu'r Safonau yn £758,000. Nodwn eich bod wedi dweud y byddai cost gweithredu'r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau oddeutu £500,000, er bod cynghorau eraill megis Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent wedi datgan na fyddai dim cost o gwbl i weithredu'r Safonau hynny. 

Ymhellach, o ran y Safonau Gweithredu, rydych chi wedi cynnwys yn y ffigyrau gost talu am drwydded y rhaglen Cysgliad i rwydwaith cyfrifiaduron Cyngor Wrecsam. 

Mae amcan-ffigwr gwreiddiol y Cyngor yn dweud y byddai'r gost o osod y rhaglen ar bob un o gyfrifiaduron rhwydwaith y Cyngor oddeutu £96,250 (sef trwydded £25 x 3,850 o staff). Mae hyn yn ffigwr cwbl wallus gan fod gostyngiad enfawr i'w gael yn y pris os ydych yn gosod Cysgliad ar rwydwaith, yn hytrach na 3,850 uned unigol. Rydym ar ddeall y byddai cost wirioneddol darparu'r meddalwedd yn llawer llai na hynny, gan gostio £1,925 yn unig. Wrth gwrs, bydd y gost yn fychan iawn iawn wrth gymharu â'r hyn mae'r awdurdod yn gwario ar feddalwedd a ddarperir gan gwmnïau rhyngwladol megis Microsoft  

Nid yw amcangyfrif gwallus yn rheswm teilwng dros beidio â chydymffurfio gyda'r Safonau arfaethedig y mae disgwyl i'r Cyngor eu gweithredu dros y misoedd nesaf. Mae gwall o'r maint yma yn codi cwestiynau ynghylch holl honiadau'r Cyngor am y Safonau. Ymhellach, mae'n peri pryder ymhlith aelodau'r Gymdeithas yn ardal Wrecsam y bydd y Cyngor yn ceisio honni y bydd y Safonau yma yn 'rhy gostus' i'w gweithredu, a hynny ar sail camgyfrifo ac ymchwil gwallus. 

Hoffem bwysleisio ei bod hi'n gwbl hanfodol bod modd i weithwyr deimlo'n hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg pan fynnent yn y gweithle, ac mae cael rhaglen Cysgliad yn rhan bwysig o hynny. Bydd gweithwyr i gynghorau pob sir arall yng Nghymru yn cael mynediad i'r rhaglen hon, pam na ddylai gweithwyr Cyngor Wrecsam gael yr un hawl? 

Mynnwn eich bod yn ymddiheuro am y ffigyrau gwallus a gyhoeddwyd gennych, a'ch bod yn cynnal ymchwiliad i mewn i sut gwnaed y fath gamgymeriadMewn proses gyfreithiol mor bwysig â hon, credwn fod y camgymeriad yn amlygu camweinyddu ar eich rhan fel cyngor, ac, yn ddibynnol ar eich ateb, byddwn ni'n ystyried mynd â'n cwyn ymhellach. 

Yn gywir, 

Manon Elin James 

Cadeirydd, Grŵp Hawl i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

cc: Comisiynydd y Gymraeg 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru