Cwyn: Polisi Iaith Lidl

Annwyl Brif Weithredwr Lidl,

Ysgrifennaf atoch er mwyn cwyno am y diffyg Cymraeg sydd i'w gweld yn eich siopau newydd a'r rhai sydd yn cael eu hadnewyddu gennych yng Nghaerdydd.

Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng nghyfraith Nghymru, a, thrwy eich polisïau, sy'n amharchu'r Gymraeg, rydych yn sathru ar y statws arbennig hwnnw.  Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn gefnogol iawn o hawliau pobl i weld, i glywed ac i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'u bywydau.

Hyd y gwelwn, nid yw mwyafrif yr arwyddion yn Gymraeg yn eich siop ar ei newydd wedd yn Sblot, ac, yn Ystum Taf, mae nifer o'ch arwyddion parhaol a dros dro yn uniaith Saesneg. Hyd y gwn, nid oes staff gennych chi yn y siopau hynny sy'n medru'r Gymraeg ychwaith. 

Ein galwadau sylfaenol felly ydy eich bod yn mabwysiadu polisi iaith cenedlaethol i Gymru sy'n cynnwys ymrwymiad i sicrhau

- bod pob arwydd parhaol a dros dro yn Gymraeg neu yn ddwyieithog  

- pob gennych bolisi cyflogaeth ac ymgyrch recriwtio sy'n sicrhau bod gwasanaeth Cymraeg wyneb yn wyneb cynhwysfawr  

- bod eich holl ddeunydd hyrwyddo a marchnata Cymraeg neu ddwyieithog  

- bod pob un o'ch cyhoeddiadau ar yr uchelseinyddion yn Gymraeg  

- bod labeli Cymraeg ar holl gynnyrch brand yr archfarchnad 

Efallai y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi protestio tu allan i'ch siop yn ardal Sblot yn y brifddinas unwaith yn barod. Byddwn yn parhau â'n hymgyrch nes eich bod wedi: newid yr holl arwyddion uniaith Saesneg yn eich holl siopau ac wedi gosod rhai Cymraeg newydd yn eu lle; a mabwysiadu polisi cynhwysfawr sy'n hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn eich holl siopau. 

Edrychaf ymlaen at dderbyn sicrwydd eich bod wedi gweithredu i newid eich polisïau a'ch arwyddion er mwyn parchu statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru. 

Yn gywir, 

Ar ran Owain Rhys Lewis 

Cadeirydd, Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith 

copi at:

Rheolwyr Siopau Ystum Taf a Sblot Lidl

Manon Elin, Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith 

Comisiynydd y Gymraeg 

Julie Williams AC, Mark Drakeford AC, Vaughan Gethin AC, Jenny Rathbone AC, Neil McEvoy AC, David Melding AC, Andrew RT Davies AC      

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg 

Y Cyng. Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd