Cwyn at yr Ombwdsmon - polisi iaith Cyngor Cymuned Cynwyd

Annwyl Ombwdsmon, 

Ysgrifennwn mewn ymateb i'ch adroddiad ynghylch polisi iaith Cyngor Cymuned Cynwyd a gafodd ei gyhoeddi heddiw. Gofynnwn i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried y llythyr hwn fel cwyn swyddogol yn erbyn yr Ombwdsmon.     
 
Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau mae angen i ragor - nid llai - o gynghorau weithio'n Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cytuno bod angen i ragor o gyrff ddilyn yr arfer gorau hwnnw er mwyn cynyddu defnydd yr iaith. Mae'r rhesymeg y mae eich adroddiad yn ei adlewyrchu yn ddryslyd: nid oes modd cefnogi'r syniad y dylai cynghorau weithio'n fewnol yn Gymraeg mewn egwyddor, heb gefnogi hynny'n ymarferol. Dyna pam ei bod yn ymddangos o'r adroddiad nad yweich safbwynt yn cyd-fynd â safbwynt Comisiynydd y Gymraeg. 
 
Hefyd, mae'n aneglur a ydych chi wedi deall y sefyllfa gyfreithiol yn iawn. Mae'ch adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Iaith 1993, ac yn canolbwyntio ar ddehongli gweithredoedd y cyngor cymuned yn rhinwedd yr hen ddeddfwriaeth honno yn ogystal â hen ganllawiau. Cafodd egwyddorion deddfwriaeth 1993 eu disodli gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Erbyn hyn, mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Rydych chi'n nodi hynny yn eich adroddiad, ond does dim tystiolaeth eich bod wedi rhoi sylw i hynny wrth ystyried eich argymhellion.  
 
Ymhellach, mae'r gyfraith a basiwyd yn 2011 yn sefydlu'r egwyddor newydd na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'n destun syndod nad oes yr uncyfeiriad at yr egwyddor honno yn eich adroddiad, ac mae hynny'n codi cwestiynau am ddilysrwydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Mae'r egwyddor honno, ynghyd ag egwyddorion eraill Mesur y Gymraeg, yn disodli egwyddor o 'drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal' yn Neddf Iaith 1993, a bellach yn caniatáu i gyrff trin y Gymraeg yn fwy ffafriol na'r Saesneg. Nodwn eich bod yn cyfeirio at nifer o ganllawiau'r Llywodraeth ynghylch ymddygiad cynghorau cymuned. Fodd bynnag, gan fod Mesur y Gymraegyn ddeddfwriaeth gynradd, mae egwyddorion y Mesur hwnnw yn cymryd blaenoriaeth dros y canllawiau hynny. 
 
Felly, nid yw'n ymddangos bod eich adroddiad yn gywir. Galwn felly arnoch chi i ail-ystyried eich safbwynt cyfreithiol gan ei fod yn gosod cynsail peryglus ac anghywir o ran polisïau iaith cyrff eraill. Gwyddom fod gorfodi defnydd y Saesneg ar gynghorau cymuned, sef effaith argymhellion eich adroddiad, yn fater sy'n pryderu nifer ohonynt. 
 
Hoffem dderbyn gopi o'r cyngor cyfreithiol rydych chi wedi derbyn ynghylch effaith Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yng nghyswllt â'r achos hwn. Os nad ydych chi'n fodlon rhyddhau'r cyngor cyfreithiol, hoffem wybod sawl darn o gyngor cyfreithiol ysgrifenedig yr ydych wedi eu derbyn (i) ynghylch effaith newidiadau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar yr achos hwn am gyngor cymuned Cynwyd; a (ii) ynghylch effaith newidiadau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar eich dehongliad o bolisïau iaith cyrff yn fwy cyffredinol ers i'r Mesur gael ei basio.   
 
Ymhellach, gwnaed honiad difrifol ar BBC Radio Cymru heddiw gan glerc y cyngor cymuned eich bod chi wedi cyfathrebu â'r cyngor yn Saesneg wrth ymdrin â'r achos. Os yw'n wir eich bod wedi cyfathrebu'n Saesneg â'r Cyngor (boed yn rhannol neu drwy gydol yr achos), mae'n tanseilio eich hygrededd fel Ombwdsmon yn ogystal â hygrededd eich adroddiad.   
 
Yn olaf, hoffem ofyn am gyfarfod gyda chi i drafod y materion hyn gan fod perygl mawr eich bod wedi gosod cynsail a gallai fod yn niweidiol i ddefnydd cyrff eraill o'r Gymraeg.  
 
Yn gywir, 
 
Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 
 
cc: Comisiynydd y Gymraeg 
 
Cyngor Cymuned Cynwyd 
 
Cyng. Craig ab Iago, Cadeirydd, Cynghrair Cymunedau Cymraeg 
 
Aled Powell, Cadeirydd, Rhanbarth Glyndŵr, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
 
24/11/15