Cymraeg Ail Iaith i barhau? Llythyr at Carwyn Jones

Annwyl Brif Weinidog, 

Ysgrifennaf atoch ynghylch ymgynghoriad sydd newydd ei lansio gan Gymwysterau Cymru'r wythnos hon. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig parhau â chymhwyster TGAU 'Cymraeg Ail Iaith'. Credwn fod sail yr ymgynghoriad felly yn gwbl groes i'ch polisi fel Llywodraeth, a'r consensws glir yn y Cynulliad Cenedlaethol, sydd am ddileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith. 

Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud ymgais i guddio'r gwir gan honni bod y newidiadau yn cyd-fynd gyda symud at un continwwm dysgu'r Gymraeg yn yr hir dymor. Maent yn dweud y bydd y cymhwyster TGAU newydd 'Cymraeg Ail Iaith' yn weithredol o fis Medi 2017, ond ni fydd y cwricwlwm newydd yn dod i rym tan 2021. Fel y gwyddoch, mae'r gosodiad hwnnw yn gamarweiniol, gan y bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion o fis Medi 2018 ymlaen - flwyddyn yn unig ar ôl i'r cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith' ddechrau cael ei gyflwyno. Hoffem wybod felly: beth yw diben cyflwyno cymhwyster a fydd yn amherthnasol ymhen blwyddyn? Neu ai'r gwirionedd ydy na fydd Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gan un continwwm Cymraeg i bawb yn y pendraw? 

Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw ond, ar yr un pryd, rhedeg ymgynghoriad ar gyfer cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith'. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. 

Mae'r ymgynghoriad yn groes i'ch polisi, fel y datganoch yn ein cyfarfod ac mewn llythyr. Fel y gwyddoch, dywedoch: 'Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol. Efallai mai’r ffordd orau o ddisgrifio’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yw fel pont neu “gontinwwm” y gall unigolion gael mynediad ato ar wahanol fannau, yn unol â’u gallu.' 

Rydym yn falch iawn o'ch cefnogaeth i'r polisi hwn, ond pryderwn yn fawr bod swyddogion ac asiantaethau eraill yn mynd i'w rhwystro a'i wanhau  - onid yw'n fwy gyfleus o lawer iddynt dwtio gyda'r gyfundrefn gwbl fethiannus bresennol. Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhad o'r cysyniad Cymraeg Ail iaith, oni cheir arweiniad cryf gennych sy'n atal cyrff rhag llesteirio polisi'r Llywodraeth drwy'r amser. 

Gofynnaf i chi felly ymyrryd er mwyn atal y corff rhag parhau â'r ymgynghoriad hwn a mynnu bod un continwwm dysgu'r Gymraeg yn cael ei gyflwyno i bob disgybl sy'n dileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith. 

Nodwn ymhellach bod yr ymgynghoriad yn cyfyngu'r uchelgais ar gyfer pobl ifanc sy'n astudio'r cymhwyster newydd arfaethedig trwy anelu at ddysgu'r Gymraeg hyd at lefel B1 a 'datblygu rhai elfennau o lefel B2' yn unig o dan y fframwaith CEFR. 

Diolch am ystyried y pwyntiau uchod sydd mor allweddol o ran sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. 

Yr eiddoch yn gywir, 

Toni Schiavone, 

Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

cc: Cymwysterau Cymru 

Comisiynydd y Gymraeg 

Simon Thomas AC, Suzy Davies AC, Aled Roberts AC