RHYBUDD: Nid yw'r ddogfen hon yn golygu dim heb ddeddfwriaeth gref o blaid y Gymraeg
Cyngor y Gymraeg - Corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg
Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Chwefror 2017
1. CYFLWYNIAD – DEDDFU YW'R ATEB
Mae’r papur hwn yn ddogfen drafod ar ran Cymdeithas yr Iaith. Yn amlwg mi fydd y sefyllfa’n esblygu ond mae’n cyflwyno ein gweledigaeth o’r math o gorff y dymunwn ei weld.
Rydym yn cydnabod mai drwy newid ymddygiad a newidir agweddau; deddfau sy'n newid ymddygiad. Cefnogi'r ddeddf iaith newydd mae'r Llywodraeth yn ei pharatoi ar hyn o bryd ddylai'r corff hyrwyddo ei wneud. Ni fydd modd i'r corff weithio'n effeithiol heb ddeddf gref.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu Asiantaeth hyd-braich i'r Gymraeg yn gyfle i osod sylfaen newydd a chadarnach i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywio’r iaith, gan gynnwys y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Wrth argymell y math o gorff sy'n cael ei ddisgrifio isod, nodir yr egwyddorion canlynol:
-
Ni ddylai’r corff hyrwyddo newydd ddod ar draul annibyniaeth na gwaith Comisiynydd y Gymraeg
-
Credwn bod angen cadw materion rheoleiddio a hyrwyddo fel dau fater sy’n eistedd fel cyfrifoldeb dau gorff ar wahân
-
Yr angen am strwythur parhaol a statws statudol i’r corff drwy Fesur y Gymraeg. O dan y drefn bresennol gall newid gwleidyddol, er enghraifft newid gweinidog a newid ymysg gweision sifil, beryglu'r parhad hwnnw
-
Yr angen am strategaeth gydlynol gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar ddealltwriaeth drwyadl o egwyddorion Cynllunio Ieithyddol
-
Yr angen i ffiniau cyfrifoldeb rhwng y gwahanol endidau sydd â chyfrifoldeb dros gynnydd y Gymraeg fod yn glir a diamwys.
2. SWYDDOGAETH:
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorff rheoleiddio annibynnol pwysig iawn a dadleuwn fod angen corff hyrwyddo ar wahân i swyddfa'r Comisiynydd a'r Llywodraeth. Ni ddylai'r corff hyrwyddo newydd ddod ar draul annibyniaeth na gwaith Comisiynydd y Gymraeg.
Ein gweledigaeth ni yw corff hyrwyddo a elwir yn Cyngor y Gymraeg, a fydd yn arwain polisi, yn gyfrifol am orolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymysg adrannau Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill.
Cyngor y Gymraeg fydd yn gyfrifol am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygiad y Gymraeg. Er mwyn gwneud hyn bydd angen iddo feddu ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, y gwyddorau sy'n sylfaen i gynllunio felly, a dealltwriaeth fanwl o sefyllfa'r Gymraeg a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ei hynt.
Bydd yn tynnu ar waith Sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau eraill perthnasol, gan gynnwys esiamplau rhyngwladol megis Gwlad y Basg a Chatalwnia. Yn y lle cyntaf bydd Cyngor y Gymraeg yn etifeddu ac yn gweithredu Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddir fis Mawrth 2017, ond dichon y bydd angen iddi ei hailwampio a'i haddasu.
Rhan allweddol yn hyn fydd maes addysg. Bydd Cyngor y Gymraeg yn cydweithio ag Adran Addysg Llywodraeth Cymru ar gyfer twf addysg a hyfforddiant Cymraeg ar bob lefel, gan sicrhau ei bod yn unol â'r strategaeth gyffredinol sy’n cael ei ddatblygu. Cyfrifoldeb Adran Addysg Llywodraeth Cymru fydd gweithredu’r strategaeth addysg mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol drwy gyfrwng Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg.
Bydd y corff yn:
-
Cynorthwyo sefydliadau a chyrff gyda gwelliant yn eu polisïau ac ymarferion iaith gan fynd ymhellach na'i ddyletswyddau statudol;
-
Rhedeg prosiectau marchnata a hyrwyddo penodol i hyrwyddo'r Gymraeg, gan ddosrannu a chomisiynu gwaith gan eraill lle bo'n briodol;
-
Cynnig cyngor a chymorth i sefydliadau ac asiantaethau cyhoeddus ac i gymdeithas sifig, yn enwedig y sector gwirfoddol, ynghylch cynyddu defnydd o'r Gymraeg wrth wasanaethu'r cyhoedd ac yn eu gweinyddiad mewnol. Bydd yn gweithredu'n rhagweithiol i gryfhau'r Gymraeg yn y sector breifat ac yn arbennig yn annog ac yn helpu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg;
-
Datblygu prosiectau blaengar i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg mewn amrywiol beuoedd, gyda phwyslais ar rai allweddol, yn enwedig y cartref, y teulu a'r gymdogaeth. Bydd hefyd yn ystyried ac yn comisiynu cynigion am brosiectau gan gyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat lle byddai hynny'n addas;
-
Targedu adnoddau ar 6-10 o ardaloedd fel Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg a llunio cynlluniau iaith cynhwysfawr i gynnal ac i ddatblygu twf ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd gan gefnogi symud cymunedau i fyny'r continwwm ieithyddol;
-
Rhoi Cyngor i Weinidogion Cymru o ran sut i hyrwyddo'r Gymraeg;
-
Gweithredu dyletswyddau presennol Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a sefydlwyd drwy adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
-
Gweithredu dyletswyddau presennol Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg a sefydlwyd drwy adran 23 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
-
Dwyn ynghyd cynrychiolwyr o'r holl sectorau sydd eisoes yn gweithredu polisïau o blaid y Gymraeg;
-
Darparu cyngor i bob adran o Lywodraeth Cymru ynghylch llunio a gweithredu polisiau;
-
Ymgorffori'r gwybodaeth a'r ymarfer gorau parthed datblygu gwasanaethau Cymraeg;
-
Gweithredu uned Canolfan Safoni Termau Genedlaethol a Chorff Cynllunio Ieithyddol, gyda staff arbenigol i fod yn gyfrifol am lunio map sosio-ieithyddol o Gymru;
-
Rhedeg prosiectau er mwyn gwella mynediad lleiafrifoedd at y Gymraeg
-
Paratoi cyngor am hybu a gwarchod y Gymraeg, a chynlluniau tymor hir ar gyfer yr iaith fyddai â mewnbwn i holl bwyllgorau a holl adrannau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
-
Drwy gymryd gorolwg strategol ar y maes bydd modd i’r corff hyrwyddo sicrhau bod yr holl ymdrechion o blaid y Gymraeg yn atgyfnerthu'i gilydd ac nad yw egni creadigol nac adnoddau yn cael eu gwastraffu drwy ddyblygu dianghenraid.
-
Bydd paratoi rhaglen gynhwysfawr o wybodaeth am bwysigrwydd y Gymraeg, dwyieithrwydd ac ymwybyddiaeth ieithyddol yn sylfaenol i'r agwedd hon o waith y corff.
-
Rhan bwysig o waith Cyngor y Gymraeg fydd diffinio maes cyfrifoldeb y Mentrau Iaith, eu cynghori ynghylch eu gorchwylion a'u cyfleoedd a'u helpu i ddatblygu ym mhob dull a modd.
-
Bydd angen i’r corff greu dulliau o ymgynghori â'r cyhoedd a thynnu ar arbenigedd yr holl ystod o gyrff sydd eisoes yn weithgar ym maes hyrwyddo'r Gymraeg.
3. LLYWODRAETH CYMRU
Llywodraeth Cymru fydd yn pennu ac yn dosbarthu cyllidebau i Gyngor y Gymraeg, Canolfan Dysgu Cymraeg, Mentrau Iaith ac i'r amrywiol fudiadau a sefydliadau sydd â chyfrifoldeb i hyrwyddo'r Gymraeg. Bydd cyllido’r Comisiynydd Iaith yn dod o’r grant bloc.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd penderfynu polisi sylfaenol, er enghraifft y dylid hyrwyddo'r Gymraeg a phennu amcanion penodol o dro i dro, megis miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â Chyngor y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar y Gymraeg, gan sicrhau bod ei holl adrannau yn cyfranogi yn y gwaith o gryfhau'r iaith, yn unol â'r strategaeth a luniwyd gan y corff hyrwyddo gan barchu ei chyngor.
4. SEILIAU STATUDOL
Dylai'r corff gael ei osod ar seiliau statudol drwy gryfhau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cyn i'r Mesur gael ei gryfhau, gallai'r corff hyrwyddo gael ei sefydlu fel endid cysgodol.
Credwn fod angen troi Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a sefydlwyd drwy adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gorff sy'n annibynnol o'r Llywodraeth. Er enghraifft, drwy ddileu y gofyniad i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg gadeirio ei gyfarfodydd.
Credwn ymhellach y dylid dileu Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg a sefydlwyd drwy adran 23 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rhoi'r cyfrifoldebau i Gyngor y Gymraeg.
Dylai fod dyletswydd ar bob adran o Lywodraeth Cymru i ymgynghori â'r Cyngor wrth lunio a gweithredu polisiau.
Dylai penodiadau cyhoeddus i'r Cyngor fod ar sail enwebiadau o lawr gwlad i'r Cynulliad Cenedlaethol a benodir yr aelodaeth. Serch hynny, er mwyn sicrhau hygrededd y corff hyrwyddo, perchnogaeth rhan-ddeiliaid, sgiliau a phrofiad ymarferol, ynghyd â democratiaeth newydd dylai o leiaf traean o’r aelodau fod yn cynrychioli mudiadau neu gyrff sydd â phrofiad uniongyrchol yn y maes.
Byddai staff Cyngor y Gymraeg yn cael eu penodi gan ac yn atebol i Fwrdd a fyddai yn ei dro yn cael ei benodi ac yn atebol i’r Cynulliad. Byddai Cyngor y Gymraeg yn y pen draw yn atebol i’r Cynulliad a byddai ei waith yn cael ei archwilio gan Bwyllgor priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dylai’r corff hyrwyddo gyfrannu yn ymarferol tuag at gynaliadwyedd ein cymunedau ac felly dylid lleoli’r prif swyddfa y tu allan i Gaerdydd, er enghraifft yn y Canolbarth - yn bont rhwng Gwynedd a’r hen Ddyfed. Gellir wedyn adeiladu ar arbenigedd, sgiliau ac adnoddau agos megis Prifysgol Aberystwyth a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Mi fyddai hyn yn medru datblygu yn ganolfan arbenigedd ar cynaliadwyedd ieithyddol cymdeithasol yn unol â’r un modd yr adnabyddir yr ardal am arbenigedd cynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi cynnig adeilad pwrpasol newydd i’r diben fel un posibilrwydd.
5. AMSERLEN:
Gellir dechrau’r broses o sefydlu’r corff yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd ar sail cysgodol ond dylai'r corff maes o law gael ei osod ar seiliau statudol drwy gryfhau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Ni chredwn y dylai Llywodraeth Cymru geisio rhuthro i sefydlu'r corff heb ystyried y fframwaith statudol yn ei gyfanrwydd, ac felly dylid defnyddio rhan o'r £2 filiwn o bunnau sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer prosiectau eraill.
Felly, oherwydd yr oedi yn y gwariant tebygol yn ystod y flwyddyn gyntaf, awgrymwn y dylid gweithredu pecyn o brosiectau dechreuol i ddefnyddio unrhyw tanwariant. Gweler atodiad 1 am restr o brosiectau ar gyfer y corff ar gyfer ei flwyddyn gyntaf.
Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Chwefror 2017
ATODIAD 1: PROSIECTAU POSIB 2017
Mae’r canlynol wedi’u seilio ar y rhagdybiaeth bo tanwariant yng nghyllideb corff hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod 2017. Felly cyflwynir pecyn o gynlluniau ymarferol fydd yn atgyfnerthu y strateaeth ehangach o gael Miliwn o siaradwyr Cymraeg.
TROSGLWYDDIAD IAITH:
Cytunwn ynghylch pwysigrwydd aruthrol trosglwyddiad iaith yn y teulu a'i ddatblygu'n brosiect genedlaethol.
CANOLFANNAU HWYRDDYFODIAID:
Sefydlu 3 Canolfan newydd i atgyfnerthu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CySGA) a chynorthwyo cynyddu nifer siaradwyr Seilir y gyllideb ar gost sefydlu un gan Gyngor Sir Ceredigion yn Nhregaron. 3 x 150k = 450k
GORWELION:
Dylid datblygu cynllun i ehangu gorwelion y gwasanaeth gyrfaoedd a chydweddu sgiliau pobl ifanc efo anghenion a chyfleoedd lleol. Mae angen darparu addysg am yr economi mewn ysgolion. Yn benodol, dylai ysgolion wneud ein pobl ifanc yn ymwybodol o’r economi leol a chenedlaethol a sut i fod yn rhan o hynny. 60k
LLWYBRO:
Cynllun i dracio a denu ein pobl ifanc yn ôl, yn seiliedig ar gynlluniau cyffelyb sydd wedi rhedeg yn yr Alban a Chymru o’r blaen. Y nod fydd tracio myfyrwyr ar ôl gadael yr ysgol efo’r bwriad o’u denu yn ôl i swyddi penodol neu fel entrepreneuriaid, gan gynnwys denu athrawon sy’n siarad Cymraeg yn ôl i Gymru. 100k
CYNLLUN MARCHNAD LAFUR:
Credwn fod modd cynorthwyo i ddatblygu’r economi drwy edrych ar y Gymraeg fel sgil sydd yn creu cyfleoedd gwaith gan gyflogwr, ac yn galluogi pobol i gael swyddi a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Y dymuniad yw gweld datblygu’r economi yn digwydd law yn llaw â’r nod o greu Cymru ddwyieithog ond mae angen cynllunio ar gyfer y dyfodol dwyieithog hwn. Credwn hefyd fod modd creu swyddi newydd i siaradwyr Cymraeg mewn meysydd sydd heb eu datblygu yn llawn.
Bydd y cynllun yma yn cynorthwyo cyrraedd y nod o gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chael mwy o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Mae rhai enghreifftiau yn bodoli yn barod o farchnadoedd llafur cyfrwng Cymraeg sy’n gweithredu yn naturiol, ynghyd â chynlluniau sydd yn llwyddo i greu gweithlu ar gyfer sectorau penodol. Bydd hyn yn broses hir dymor, ac yn cynnwys sawl lefel o weithgaredd a chydweithio gyda phartneriaid o sectorau amrywiol. 100k
IAITH ECONOMI:
Byddai hyn yn gyfle i ddatblygu Deorfa cyntaf. 250k
NORMALEIDDIO A PHRIF-FFRYDIO ADDYSG GYMRAEG:
Mae angen gweithredu ymgyrch marchnata ac hyrwyddo manteision addysg Gymraeg ledled Cymru. 200k
GWELLA MYNEDIAD LLEIAFRIFOEDD AT Y GYMRAEG:
Mae angen ymgyrch i wella mynediad at y Gymraeg ymysg lleiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill gan ddysgu gwersi o lefydd fel Catalonia. 200k
SEFYDLU CYNLLUN "CYMRAEG AR GYFER SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL" (CSIE neu WSOL):
Byddai'r cynllun yn darparu gwersi dwys Cymraeg ar gyfer mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid – (yr un gwariant ag ESOL)
HYRWYDDO A MARCHNATA HAWLIAU IAITH:
Mae angen cynllun i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hawliau iaith sy'n deillio o Safonau'r Gymraeg, yn enwedig hawliau newydd megis yr hawl i wersi nofio Cymraeg - 250k