Llythyr Cyngor Caerdydd at Gymdeithas yr Iaith (1)
Llythyr Cymdeithas yr Iaith at yr Arolygiaeth Gynllunio:
Annwyl swyddogion yr Arolygiaeth Gynllunio,
Rwy'n ysgrifennu ar ran Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sgil derbyn gohebiaeth ddiweddar gan Gyngor Caerdydd sy'n dadlau na ddylai fod unrhyw ystyriaeth i’r Gymraeg ym mholisi cynllunio'r Sir gan nad yw'r Gymraeg yn rhan o 'wead cymdeithasol' y ddinas.
Mae’n rhaid dweud bod yr honiad yn un hurt ac yn gwbl anwybodus, ac yn amlwg yn codi cwestiynau sydd angen eu hateb o ran agwedd a pholisi’r awdurdod a’i swyddogion. Nid ydym o’r farn bod yr honiad yn adlewyrchu cefnogaeth arweinydd presennol y Cyngor i’r iaith, ond yn hytrach anwybodaeth swyddogion yr adran gynllunio. Gofynnwn i chi fynnu bod y Sir yn ei chynllun datblygu yn ystyried y Gymraeg o ran ei statws, y gofynion o ran ysgolion newydd a darpariaeth addysg, a’i lle yn ein cymunedau.
Ceir nifer o ardaloedd yn y ddinas lle mae'r Gymraeg yn gryf, ond credwn y dylid ystyried dyhead pobl y ddinas i’r Gymraeg ddod yn gryfach ar lawr gwlad yn ogystal. Adlewyrchir cefnogaeth pobl ledled y ddinas yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, ac er nad ydym o’r farn y dylai canrannau na niferoedd siaradwyr fod yn penderfynu a ddylid rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn y cynllun ai peidio, mae’n glir, nid yn unig o’r degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg sy’n byw, yn ymweld â, neu’n gweithio yn y ddinas ond hefyd y nifer o ofodau Cymraeg eu hiaith yn y ddinas, o gapeli ac ysgolion i adeiladau cymdeithasol, bod y Gymraeg yn rhan hynod bwysig o wead cymdeithasol y brifddinas.
Rydym fel mudiad lleol wedi gwneud nifer o sylwadau perthnasol mewn dogfen a lansiwyd yng ngŵyl Tafwyl yn ddiweddar - http://cymdeithas.cymru/siartercaerdydd
Byddwch yn ymwybodol bod nifer o ddatblygiadau wedi eu henwi yn uniaith Saesneg yn y ddinas dros y blynyddoedd - o “Assembly Square” i “Central Square”. Mae enwi datblygiadau preifat yn uniaith Saesneg yn tanseilio statws a defnydd yr iaith. Ymhellach, ceir nifer o enwau strydoedd uniaith Saesneg yn cael eu codi o’r newydd ac arwyddion uniaith Saesneg sy’n rhan o ddatblygiadau newydd. Caiff y rheiny effaith negyddol ar ddefnydd a statws yr iaith yn ogystal.
Ymhellach, o ystyried y galw cynyddol am addysg Gymraeg gan drigolion y ddinas, mae angen rhoi ystyriaeth i’r iaith wrth gynllunio datblygiadau tai newydd. Yn benodol, credwn y dylai fod rhagdybiaeth bod unrhyw ddarpariaeth addysg ynghlwm â datblygiad tai newydd yn addysg cyfrwng Cymraeg. Dylid ystyried effaith datblygiadau ar ddefnydd y cenedlaethau i ddod o’r Gymraeg, yn unol â darpariaeth Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Er enghraifft, byddai adeiladu stad o dai heb gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg neu gan godi arwyddion uniaith Saesneg yn amddifadu'r genhedlaeth nesaf rhag gweld, clywed neu ddefnyddio’r Gymraeg.
Credwn yn ogystal y dylid ystyried oblygiadau newidiadau deddfwriaethol diweddar wrth gynghori Cyngor Caerdydd ar ei gynllun datblygu lleol.
Fel y gwyddoch, dros y misoedd nesaf, fe ddaw adrannau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i rym a fydd yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol ym mhob rhan o Gymru. Nid yw’r statws hwnnw yn gyfyngedig i’r diffiniad a roddir gan Nodyn Cyngor Technegol 20: nid yw’n gyfyngedig i ardaloedd penodol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y bydd angen cyhoeddi canllawiau newydd i adlewyrchu hyn. Ymhellach, bydd rhaid i gynghorau, wrth lunio Cynlluniau Datblygu Lleol, gynnal asesiad o’u heffaith ar y Gymraeg.
Wrth ragweld y newidiadau hyn yn dod i rym, credwn fod angen i’r Arolygiaeth Gynllunio sicrhau bod ystyriaeth gynhwysfawr o effaith unrhyw gynllun newydd ar y Gymraeg - gan gynnwys ei effaith ar statws yr iaith, defnydd presennol ohoni, a’i botensial i amddifadu cenedlaethau’r dyfodol rhag defnyddio’r Gymraeg.
Felly, rydym yn galw arnoch chi i wrthod cynnig Cyngor Caerdydd o ran geiriad y Cynllun Datblygu Lleol mewn perthynas â’r Gymraeg. Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i fabwysiadu newidiadau i’r cynllun datblygu ynghyd ag atodlen iddo sy’n amlinellu polisi ynghylch cynllunio a’r iaith sy’n llawer mwy cynhwysfawr ac sydd â’r bwriad o gefnogi twf yr iaith yn ein prifddinas.
Yr eiddoch yn gywir,
Carl Morris
Cadeirydd, Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Prif Weinidog Cymru
Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Y Cyng. Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd