Annwyl Brif Weinidog,
Ysgrifennom atoch er mwyn mynegi pryder am effaith y toriadau ar y prosiect fydd yn olynu Twf, sef 'Cymraeg i Blant'. Deallwn fod y penderfyniad ynghylch y cwtogiadau ariannol wedi ei wneud, ond, pryderwn am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar wahanol ardaloedd o Gymru.
Fel y gwyddoch, mae'r strategaeth 'Bwrw 'Mlaen' yn pwysleisio pwysigrwydd trosglwyddiad iaith o fewn y teulu ac ati, ac yn nodi wrth gyfeirio at Twf “. . . rydym yn awyddus i adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol a'i ddatblygu'n rhaglen genedlaethol”. Cytunwn ynghylch pwysigrwydd aruthrol trosglwyddiad iaith yn y teulu a'i ddatblygu'n brosiect genedlaethol.
Rydym ar ddeall y bydd y prosiect newydd ddim ond yn gwasanaethu rhai ardaloedd. Deallwn na fydd darpariaeth mewn sawl ardal, gan gynnwys Sir Fynwy, Wrecsam a Sir y Fflint. Hoffwn wybod hefyd pam mai un ardal yn unig yng Ngogledd Cymru a fydd yn elwa o'r ddarpariaeth newydd. Deallwn ymhellach bydd swyddfa yn cau yn Llanelwy.
Hoffem wybod ar ba sail ddewisodd yr ardaloedd uchod ac a fyddai modd ymestyn y prosiect newydd i ardaloedd eraill gan gynnwys rhagor o ardaloedd yn y Gogledd a'r Gogledd-Ddwyrain.
Yn gywir,
Toni Schiavone
Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg