Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Prif Gasgliadau ac Argymhellion
Cyflwyniad
1.1.Nodwyd ar ddechrau'r cyfarfod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:
-
disodli'r cymwysterau 'Cymraeg Ail Iaith' gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021; a
-
creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
1.2. Cafwyd trafodaeth ddofn dwy awr rhwng asiantaethau addysg ac arbenigwyr iaith ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i'r gweithlu addysg yn sgil y datblygiadau polisi uchod. Ceir isod nifer o brif gasgliadau'r drafodaeth.
Casgliadau / Argymhellion
2. Pwyntiau Cyffredinol
2.1. Argymhellwyd bod angen buddsoddi arian sylweddol yn addysgu'r gweithlu addysg er mwyn arbed arian yn y tymor hir.
2.2. Nodwyd bod angen gweithredu ar dair elfen bwysig:
(i) Targedu cyfnodau critigol – blynyddoedd cynnar, trosglwyddiad o'r gynradd i'r uwchradd gan sicrhau dilyniant di-dor, a rhaglenni teulu ar gyfer y cyfnod sylfaen a blynyddoedd 1 a 2.
(ii) Datblygu defnydd o'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu - nodwyd bod awr y dydd o addysg yn y Fasgeg mewn ysgolion dwyieithog ac o leiaf 40% o ddysgu ar draws y cwricwlwm drwy'r Fasgeg yng Ngwlad y Basg.
(iii) Ymestyn y rhaglen datblygu sgiliau athrawon gan arwain at achrediad Tystysgrif Sgiliau. Nodwyd bod angen denu mwy o athrawon, a bod awdurdodau Gwlad y Basg yn rhoi o leiaf blwyddyn ar y tro er mwyn i athrawon gwella eu sgiliau fel rhan o gynllun sabothol.
2.3. Dywedwyd yn hytrach na gwneud mwy o ymchwil, bod angen dilyn 7 cam:
(i) Gwella dealltwriaeth o ddysgu iaith - newid agweddau ac ysbrydoli
(ii) Datblygu rhaglen hyfforddiant mewn swydd gydag athrawon yn gweithio mewn timau ar draws ardal mewn cydweithrediad â thimau athrawon bro
(iii) Rhyddhau Staff ar gyfer hyfforddiant ar gyfer rhaglen cynllun sabothol diwygiedig
(iii) Targedu gweithlu yfory - sicrhau bod pob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn cynnwys paratoad ar gyfer dysgu a/neu cefnogi’r Gymraeg.
(iv) Sefydlu rhwydwaith o ysgolion 'iaith ar waith' - lle mae arolwg mewnol 'teulu'r ysgol' o ran beth sydd ei angen er mwyn darparu cwricwlwm drwy gyfrwng yr iaith, yn ogystal â sicrhau trochi yn y cyfnod sylfaen a 40% o'r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg
(v) Rhannu deunyddiau – er mwyn sicrhau bod modd dysgu drwy'r iaith
(vi) Gwneud Cymhwyster ieithyddol yn hanfodol i athrawon newydd, a chynnig cymhwyster cyffelyb ar gyfer athrawon mewn swydd – er enghraifft y Tystysgrif Sgiliau Cymraeg sydd ar waith mewn Addysg Uwch. Sicrhau bod y Gymraeg yn un o ddangosyddion perfformiad Estyn.
(vii) Codi medrusrwydd iaith a llythrennedd disgyblion – lledaenu’r ddealltwriaeth o ddwyieithrwydd fel ffordd o godi safonau llythrennedd yn gyffredinol.
2.4. Mynegwyd pryder am y ffaith bod swyddogion ac asiantaethau yn oedi ar y broses o weithredu newidiadau angenrheidiol: ai 'oedi' yw ystyr 'pwyll'? Dywedwyd bod angen chwyldroi'r gyfundrefn o ran cynllunio'r gweithlu, nid chwarae ar yr ymylon.
2.5. Nodwyd na ddylai fod angen gradd B mathemateg i fod yn athro Cymraeg. Yn lle, dylid rhoi'r sgil i athrawon wrth iddynt ddechrau gweithio.
2.6. Awgrymwyd y dylid adfer cynllun llythrennedd CILT Cymru a arweiniodd at adrannau iaith sefydliadau addysg yn cydweithio gyda'i gilydd. Argymhellwyd y dylid creu adrannau ieithoedd a fyddai'n golygu cydweithio rhwng athrawon iaith.
2.7. Dywedwyd y dylid adfer yr arfer o hyrwyddo'r iaith ar draws y cwricwlwm ac awgrymwyd bod angen blaenoriaethu dau neu dri maes megis iechyd a gofal cymdeithasol, ABCh – Addysg bersonol a chymdeithasol, technoleg gwybodaeth ac addysg gorfforol.
2.8. Dywedwyd y dylid targedu'r oddeutu 6% o'r gweithlu sy'n medru'r Gymraeg ond ddim yn medru dysgu drwy'r iaith er mwyn sicrhau enillion cyflym.
2.9. Mynegwyd pryder bod pob un athro Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gorfod ceisio dyfeisio cwrs iaith eu hunain, a bod angen mwy o arweiniad cenedlaethol ar gynnwys y cwrs a chydweithio ar draws ardaloedd a rhanbarthau.
2.10. Teimlwyd ei fod yn bwysig bod yr adnoddau ychwanegol a gafodd Cymraeg i Oedolion yn y gyllideb eleni ar gael i'r gweithlu addysg (gan gynnwys y gweithwyr hynny nad ydynt yn ymarferwyr dosbarth), yn ychwanegol at y gyfran o'r £20 miliwn ychwanegol ar gyfer gwella safonau ysgolion a dylai fynd at wella safonau o ran y Gymraeg.
2.11. Mynegwyd pryder bod cynllun 'Cam-wrth-gam' y Mudiad Meithrin wedi colli arian sylweddol er ei fod yn enghraifft brin o ymdrech benodol i gynllunio'r gweithlu addysg.
2.12. Cytunwyd bod gwir angen gwella dealltwriaeth consortia a gweision sifil o'r Gymraeg, a bod dirfawr angen cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar nifer fawr ohonynt.
2.13. Dywedwyd bod dulliau trochi yn allweddol er mwyn sefydlu'r un continwwm dysgu Cymraeg yn iawn a normaleiddio'r Gymraeg ym mhob sector.
2.14. Awgrymwyd y dylid penodi pencampwyr iaith ar gyfer pob ysgol gynradd yn ogystal â phencampwr ardal/bro.
2.15. Awgrymwyd clustnodi 2 neu 3 o'r diwrnodau hyfforddiant mewn swydd statudol pob blwyddyn o 2017/18 a 2018/19 ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a chefnogi Cymraeg ar draws y cwricwlwm, datblygu cyfleoedd allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Gymraeg fel pwnc.
2.16. Pwysleisiwyd pwysigrwydd adfer ac ymestyn rôl y gwasanaeth athrawon bro i gynnwys elfen gref o hyfforddiant ar gyfer athrawon yn y dosbarth, datblygu rhaglenni teulu a llunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer cymorthyddion dosbarth a staff ategol.
3. Cynllun Sabothol
3.1. Roedd teimlad cryf y dylid diwygio nod a natur y Cynllun Sabothol, er mwyn bod yn glir mai ei rôl yw sicrhau bod gweithwyr addysg ac athrawon yn cyrraedd rhuglder fel modd iddynt ddysgu drwy gyfrwng yr iaith wedi'r cwrs. Mae angen targedu mwy effeithiol ar athrawon yn y blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd er enghraifft.
3.2. Nodwyd, er llwyddiannau'r cynllun sabothol o ran cyflwyno ail iaith, mai nid dyna'r nod sydd ei eisiau. Dywedwyd bod nifer o gynlluniau er mwyn cyrraedd lefelau mynediad a sylfaen yn y Gymraeg, ond nad ydynt yn addas er mwyn gwireddu amcanion a newidiadau polisi'r Llywodraeth. Dywedwyd bod angen anelu at lefel canolradd neu uwch, a bod athrawon sy'n mynd ar y cynlluniau presennol yn mynnu bod angen un cwrs arall arnynt er mwyn bod yn rhugl.
3.3. Nodwyd y buodd Coleg Hyfforddi Athrawon yn y Barri yn rhoi blwyddyn gyfan i'r gweithlu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Buodd cynllun tebyg yng Ngwynedd a ddarparwyd dwy flynedd er mwyn sicrhau sgiliau Cymraeg. Nodwyd gyda phryder y ffaith bod y cynlluniau dwys hyn wedi cael eu disodli, a bod gan y cynllun hwnnw ddisgwyliadau cymharol uchel gan ystyried cyn lleied o fewnbwn a ddarperir. Teimlwyd hefyd ei fod yn bwysig bod mwy o bobl yn cwblhau cyrsiau o'r fath.
4. Blynyddoedd Cynnar
4.1. Nodwyd pwysigrwydd y cyfnod cyn oed ysgol o ran cynllunio twf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Nododd nifer o siaradwyr pa mor allweddol bwysig yw'r Mudiad Meithrin. Nodwyd bod 86% o'r rhai sy'n mynychu cylchoedd meithrin yn mynd ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, dywedwyd ei fod yn allweddol bwysig bod addewid y Llywodraeth o ofal plant 30 awr am ddim yn prif-ffrydio'r Gymraeg.
4.2. Pwysleisiwyd bod angen buddsoddiad yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar a bod angen mwy o gydnabyddiaeth ohono yn strategaeth iaith y Llywodraeth.
5. Addysg Gychwynnol Athrawon
5.1. Argymhellwyd na ddylid achredu canolfan ar gyfer hyfforddi athrawon oni bai bod modd hyfforddi myfyrwyr ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ar lefel eang. Nodwyd bod angen digon o diwtoriaid cyfrwng Cymraeg.
5.2. Roedd pryder mawr nad oedd ddim targedau o ran niferoedd sy'n gadael addysg gychwynnol yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Cytunwyd nad oedd yn dderbyniol nad oes dim targedu o ran pynciau o brinder nac athrawon cyfrwng Cymraeg.
5.3. Nodwyd bod ysgoloriaethau lle bo prinder a'u bod ar gael ar gyfer y Gymraeg, ond mynegwyd pryder nad oes cymhelliant ariannol i aros yn y system addysg yng Nghymru wedi'r hyfforddiant cychwynnol.
5.4. Cytunwyd bod angen targedau statudol clir ac uchelgeisiol i gael canran cynyddol o'r gweithlu sy'n gallu:
(i) dysgu'r Gymraeg fel pwnc; a
(ii) addysgu drwy'r Gymraeg
Cytunwyd bod angen gweithredu ar y targedau hyn ar frys, o fis Medi flwyddyn nesaf: ni ellir fforddio rhagor o oedi.
6. Mesurau Perfformiad
6.1. Cytunwyd ei bod yn hanfodol bwysig cynnwys y Gymraeg fel mesur perfformiad ar gyfer pob ysgol, a hynny ar frys. Dywedwyd yn ogystal bod angen i gynnwys Cymraeg fod yn rhan hanfodol o'r Fagloriaeth.
6.2. Dywedwyd bod angen newid agwedd rhai athrawon; nodwyd gyda phryder bod gwersi Cymraeg mewn nifer o ysgolion yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg.
Rhagfyr 2016
Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cymdeithas.cymru/miliwn