Deddf Addysg Gymraeg

Pwyswch yma i lawr-lwytho'r ddeddf mewn dogfen.

Mae fersiwn Saesneg i'w gweld yma | An English version of the Welsh Education Act can be seen here.

Rhagair

Drwy gyfrwng y Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig, mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau fod pob plentyn yn ein gwlad yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r ffaith bod wyth deg y cant o’n plant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg yn warth cenedlaethol, gyda'r anghyfartaledd ar ei waethaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw. Am nad ydyn nhw’n dod yn rhugl yn Gymraeg, mae’n debygol y bydd y bobl ifanc yma'n cael eu hallgáu o gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd am weddill eu bywydau. Ac mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd drwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu.

Mae Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith yn dangos bod modd i’r Llywodraeth ddatgan mewn statud y prif nod mai'r Gymraeg, erbyn 2050, fydd cyfrwng addysg yng Nghymru. Golyga hynny y byddai pob ysgol yn cael ei gosod ar lwybr sy'n symud yn gyson at sicrhau Addysg Gymraeg i Bawb erbyn y flwyddyn honno. Mae hefyd o fewn gallu'r Gweinidog i sicrhau mai Cymraeg fydd cyfrwng pob ysgol newydd ynghyd â chreu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb fydd yn dileu'r arfer cyfeiliornus o gynnig ‘Cymraeg Ail Iaith’ cwbl annigonol i’r mwyafrif tra bod lleiafrif yn cael cyfleoedd ieithyddol cyflawn.

Mae ein diolch yn fawr i Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Keith Bush, am ei gyfraniad allweddol i'r gwaith arbenigol o ddrafftio'r Ddeddf arfaethedig. Mae ei waith wedi galluogi Cymdeithas yr Iaith i drosi ei pholisïau a’i gweledigaeth i iaith y gyfraith gan ddangos y ffordd ymlaen i'r Llywodraeth mewn ffordd hollol ymarferol. Diolch hefyd i’r rhai sydd wedi cyfrannu sylwadau gwerthfawr ers i ni gyhoeddi ein Deddf ddrafft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, gan ein galluogi i wneud newidiadau pwysig cyn cyhoeddi’r fersiwn terfynol hwn.

Pan fydd y Llywodraeth yn pasio ei Deddf Addysg Gymraeg ei hun, dim ond un o ddau ganlyniad all ddeillio o hynny. Un ai bydd y Gweinidog yn dewis taflu'r drysau ar agor i holl blant Cymru, neu fe fydd yn dewis dyfnhau'r anghyfartaledd ieithyddol drwy allgáu cenedlaethau'n rhagor o blant. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb. Byddai’r cynigion yn y Ddeddf hon yn gwireddu’r egwyddor honno o’r diwedd.

Grŵp Addysg
Cymdeithas yr Iaith
Mai 2023

Nodiadau Esboniadol

Cyflwyniad
Pwrpas y nodiadau hyn yw hwyluso dealltwriaeth o’r Bil Addysg Gymraeg hwn a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith ym mis Mai 2023. Mae’r fersiwn hwn yn cynnwys nifer o ddiwygiadau a wnaed i’r fersiwn gwreiddiol, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ym mis Awst 2022, yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad y Gymdeithas ar y fersiwn hwnnw.
Polisi
Nod y Bil yw rhoi effaith i bolisi’r Gymdeithas o drawsffurfio’r gyfundrefn addysg yng Nghymru i fod yn un drwyadl Gymraeg, dros gyfnod dichonadwy – sef erbyn 2050, er mwyn alinio gyda tharged Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn honno. Elfen ganolog i hyn fyddai uno’r system addysg gyhoeddus yng Nghymru, gan droi bob ysgol a choleg, dros gyfnod o amser, yn un sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn ethos Cymraeg. Cred y Gymdeithas mai dyma’r unig ffordd i sicrhau y bydd pob disgybl a myfyriwr yng Nghymru yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn effeithiol ac felly’n medru cyfranogi’n llawn ym mywyd y genedl.
Cred y Gymdeithas hefyd ei bod yn hanfodol bod y Bil yn gosod ar awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddyletswyddau cyfreithiol clir. Dylent ymgorffori targedau mesuradwy, y gall cydymffurfiaeth â hwy, pe byddai angen, gael ei phrofi o flaen y llysoedd.

Nodiadau ar yr adrannau

Adran 1
Ceir yma drosolwg o gynnwys y Bil.

Adran  2
Gosodir nod statudol, sef sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn 1 Medi 2050, fan bellaf. Yn y cyd-destun hwn, mae “addysg” yn cynnwys addysg mewn ysgolion a cholegau cyhoeddus a phreifat, addysg blynyddoedd cynnar ac addysg neu hyfforddiant ffurfiol sy’n rhan o gynllun prentisiaeth. Mae’n cael ei wneud yn glir bod y nod yn gymwys i addysg ar gyfer rhai sydd ag anghenion arbennig yn ogystal â’r rhai sydd heb anghenion felly. Mae darpariaethau eraill y Bil yn esbonio sut y bydd y modd o gyrraedd y nod yn ymateb i ofynion ymarferol pob sector.
Gwneir yn glir bod “addysg” yn cynnwys nid yn unig y cyfrwng dysgu ond hefyd cyflenwi gwasanaethau atodol fel gweinyddiaeth ac arlwyaeth. Bydd yr iaith a ddefnyddir wrth gyflenwi’r gwasanaethau hynny’n effeithio ar “ethos” sefydliad ac felly ar effeithiolrwydd ei allu i addysgu’n effeithiol yn Gymraeg.
Cydnabyddir y bydd dysgu ieithoedd heblaw am y Gymraeg (gan gynnwys Saesneg) yn parhau i gael ei wneud drwy gyfrwng yr ieithoedd hynny. Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer prifysgolion i ganiatáu iddynt ddysgu cyrsiau yn Saesneg os ydynt yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau cyfatebol yn Gymraeg.
Gosodir dyletswydd statudol ar bob awdurdod cyhoeddus ym maes addysg yng Nghymru i weithio tuag at gyrraedd y nod statudol, yn gyffredinol a thrwy gyflawni unrhyw ofynion penodol a osodir arnynt gan fframwaith statudol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 3. Fel rhan o’r ddyletswydd gyffredinol i weithio tuag at gyflawni’r nod statudol, gofynnir i awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’u disgresiwn mewn perthynas â’u pwerau ariannol (er enghraifft wrth ddyfarnu grantiau) mewn modd sy’n unol â’r ddyletswydd honno.

Adran 3
Gosodir ar Weinidogion Cymru ddyletswydd i baratoi Fframwaith Addysg Gymraeg (“y fframwaith statudol”) a fydd yn pennu’r camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) eu cymryd er mwyn cyflawni’r nod statudol. Rhaid i’r fframwaith statudol nodi pryd y bydd disgwyl i’r camau hynny cael eu cymryd. Mae’r adrannau dilynol yn ymwneud â chynnwys y fframwaith statudol a’r drefn a fydd yn rheoli’r prosesau o baratoi, cyhoeddi ac adolygu’r fframwaith.

Adran 4
Rhestrir egwyddorion y seilir y fframwaith arnynt. Un ohonynt yw newid darpariaeth addysg o fod yn un sy’n gwahaniaethu rhwng ysgolion a cholegau ar sail iaith addysg i un sy’n gosod ysgolion a cholegau ar lwybr sy’n arwain at un system Gymraeg unedig. Rhaid i’r fframwaith hefyd wahardd agor ysgolion neu golegau newydd na fyddant yn darparu addysg Gymraeg, yn ogystal â gwneud unrhyw newid yng nghymeriad neu reolaeth ysgolion a cholegau a fyddai’n groes i’r nod statudol.

Adran 5
Gwneir yn glir y bydd yn rhaid i’r fframwaith bennu camau ymarferol pendant, gyda thargedau clir a mesuradwy, a dyddiadau pendant ar gyfer cwblhau cymryd y camau hynny. Rhaid i’r fframwaith bennu darpariaethau ar gyfer gwahanol sectorau addysg a gall wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol awdurdodau, ardaloedd a sectorau.

Adran 6
Rhaid i’r fframwaith hefyd gynnwys darpariaeth benodol mewn perthynas ag addysg blynyddoedd cynnar (a darpariaeth ragarweiniol i addysg felly, fel grwpiau chwarae) gyda golwg ar sicrhau darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob plentyn.

Adran 7
Rhaid i’r fframwaith hefyd gynnwys darpariaethau manwl i sicrhau cynllunio gweithlu effeithiol. Bydd rhaid asesu’r nifer o staff bydd eu hangen i gyflawni’r nod statudol, y sgiliau y bydd arnynt eu hangen, a sut y bydd y staff hynny’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi. Bydd rhaid i’r asesiad hwnnw gael ei seilio ar arolygon digonol, o bryd i’w gilydd, o’r anghenion hynny.

Adran 8
Rhaid i’r fframwaith ddarparu ar gyfer sicrhau bod y drefn arholiadau bresennol, sy’n cynnig cymwysterau gwahanol “Cymraeg” a “Chymraeg Ail Iaith” yn dod i ben, a sicrhau’r un  cymwysterau Cymraeg ar gyfer pawb.

Adran 9
Rhaid i’r fframwaith statudol ddarparu ar gyfer rhwydwaith cynhwysfawr o ganolfannau trochi ar gyfer rhai sy’n ymuno â’r system addysg Gymraeg o’r tu allan er mwyn eu galluogi i ddod yn rhan o’r system honno mor fuan â phosibl.

Adran 10
Derbynnir bod yna rai mathau o ddarpariaeth addysg, er enghraifft ysgolion preifat, lle bydd y gallu i newid iaith addysg, o leiaf yn y tymor byr, yn fwy cyfyngedig. Bydd yn rhaid i’r fframwaith, serch hynny, gynnwys darpariaeth ar gyfer hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hynny.

Adran 11
Dyma’r adran sy’n amlinellu’r broses o baratoi a chyhoeddi’r fframwaith statudol.
Bydd rhaid i ddrafft ohono gael ei baratoi o fewn 12 mis ar ôl i’r Bil ddod yn Ddeddf. Ar ôl cynnal ymgynghoriad ar y drafft, a diwygio’r drafft mewn ymateb i’r sylwadau a wneir arno, bydd rhaid iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i ystyried gan bwyllgor Seneddol. Rhaid i Lywodraeth Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd, gyhoeddi’r drafft terfynol o’r fframwaith. Bydd angen i’r fframwaith gael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru o leiaf unwaith bob pum mlynedd ac, os bydd angen diwygiadau i’r fframwaith, cyhoeddir fersiwn diwygiedig o’r fframwaith, gan ddilyn proses debyg i’r un wreiddiol.

Adran 12
Gofynnir i Lywodraeth Cymru, yn flynyddol, baratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol tuag at gyrraedd y nod statudol.

Adran 13
Newidir swyddogaethau Estyn er mwyn cynnwys asesu i ba raddau y llwyddodd ysgolion ac awdurdodau addysg i gyfrannu at y nod statudol, yn unol â’r fframwaith statudol.

Adran 14
Diddymir y drefn bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ond rhoddir pŵer i Weinidogion i ohirio gwneud hynny nes y bydd darpariaethau’r fframwaith statudol (a fydd yn cymryd eu lle) mewn grym.

Adran 15
Cryfheir hawl disgyblion a myfyrwyr i gael teithio i ysgol neu goleg, gan estyn trefniadau teithio o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i gynnwys pawb sy’n gorfod cael eu cludo er mwyn medru derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru hefyd arfer eu pwerau o dan y Mesur hwnnw i estyn trefniadau teithio i wneud addysg blynyddoedd cynnar yn Gymraeg yn hygyrch i bob plentyn o’r oedran perthnasol.

Adran 16
Estynnir pwerau sydd eisoes gan Weinidogion Cymru i ymyrryd lle bydd awdurdod lleol yn methu â chyflawni swyddogaethau penodol mewn perthynas ag addysg fel y byddant ar gael os bydd awdurdod yn methu â chyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Adran 17
Diffinnir rhai o’r termau a ddefnyddir yn y Bil.

Adran 18
Rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fydd yn cynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed i ddeddfwriaeth arall os bydd angen gwneud hynny o ganlyniad i’r Ddeddf.

Adran 19
Yn gyffredinol, bydd darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym drannoeth y diwrnod ar ôl iddi dderbyn y Cydsyniad Brenhinol. Yr eithriadau yw adran 14 a’r rhan o adran 15 sy’n ymwneud â threfniadau estynedig ar gyfer teithio i ysgol neu goleg, a ddaw i rym yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 20
Datgenir mai “Deddf Addysg Gymraeg (Cymru)” yw enw byr y Ddeddf.

 

Deddf Addysg Gymraeg (Cymru) 202-

Deddf Senedd Cymru i osod nod statudol o sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn 1 Medi 2050, gan osod dyletswyddau cyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau cyflawni’r nod hwnnw, ac at ddibenion cysylltiedig.

1 Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon-

(a) yn gosod nod statudol ar gyfer y system addysg yng Nghymru, sef sicrhau mai’r Gymraeg, erbyn 1 Medi 2050 fan bellaf, fydd iaith addysg yng Nghymru (adran 2),

(b) yn gosod ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ddyletswydd gyfreithiol gyffredinol i sicrhau cyflawni’r nod statudol trwy arfer eu pwerau mewn perthynas ag addysg mewn ffordd

(i) sy’n gyson â’r nod hwnnw (adran 2(4)(a)(i)) ac
(ii) sy’n unol â gofynion fframwaith statudol (“Fframwaith Addysg Gymraeg”) (adran 2(4)(a)(ii)),

(c) yn gosod ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ddyletswydd gyfreithiol i hybu’r nod statudol trwy esbonio i rieni, disgyblion a myfyrwyr fanteision addysg Gymraeg (adran 2(4)(b)),

(ch) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi’r fframwaith statudol (adran 3),

(d) yn rhagnodi’r egwyddorion y seilir y fframwaith statudol arnynt (adran 4) a’r materion y bydd yn rhaid iddo’u cynnwys (adrannau 5 i 10),

(dd) yn rhagnodi’r weithdrefn o baratoi, cyhoeddi ac adolygu’r fframwaith statudol (adran 11),

(e) yn darparu ar gyfer adroddiadau blynyddol a fydd yn mesur y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nod statudol, y bydd yn rhaid eu gosod o flaen Senedd Cymru (adran 12),

(f) yn ychwanegu at swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant (“Estyn”) y swyddogaeth o adrodd ar gyfraniad ysgolion (ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill) at gyflawni’r nod statudol (adran 13),

(ff) yn diddymu’r system bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (system a fydd yn cael ei disodli gan y drefn o dan y Ddeddf hon) (adran 14),

(g) yn cryfhau hawliau disgyblion ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach mewn perthynas â threfniadau teithio i ysgol neu goleg sy’n darparu addysg (neu addysg mewn pynciau penodol) trwy gyfrwng y Gymraeg (adran 15(1)),

(ng) yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddefnyddio eu pwerau deddfwriaethol i sicrhau trefniadau teithio ar gyfer plant sy’n mynychu addysg blynyddoedd cynnar Gymraeg er mwyn hyrwyddo cyflawni’r nod statudol,

(h) yn cymhwyso’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ymyrryd mewn awdurdod lleol ar sail methiannau ar ran yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau addysg, fel bod y pwerau hynny ar gael (yn unol â’r amodau a ragnodir gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013) mewn achos o fethiant gan yr awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon.

(i) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dehongli, darpariaeth atodol a dod â’r Ddeddf i rym a’i henw (adrannau 16, 17, 18 ac 19).

2 Y nod statudol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg

(1) Yn y Ddeddf hon,

(a) ystyr y “nod statudol” (“the statutory aim”) yw sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, a hynny

(i) erbyn 1 Medi 2050,
(ii) cyn hynny os yw’n ymarferol bosibl,

(b) mae “addysg” (“education”) yn cynnwys (oni bai fod y cyd-destun yn awgrymu’n wahanol),

(i) addysg mewn ysgolion a cholegau cyhoeddus,
(ii) addysg mewn ysgolion a cholegau preifat,
(iii) addysg blynyddoedd cynnar,
(iv) addysg neu hyfforddiant ffurfiol sy’n rhan o gynllun prentisiaeth,
(v) addysg ar gyfer rhai sydd ag anghenion addysg arbennig neu ychwanegol yn ogystal ag addysg ar gyfer rhai sydd heb anghenion felly

(2) Mae ystyr “iaith addysg” (“the language of education”) yn y nod statudol yn cynnwys (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) nid yn unig cyfrwng addysgu ond hefyd, i’r graddau eu bod yn berthnasol i effeithiolrwydd addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg,

(a) gweinyddu sefydliadau sy’n cyflenwi addysg, a
(b) darparu gwasanaethau ar gyfer y sefydliadau hynny.

(3) Nid yw’r nod statudol yn gymwys i’r iaith a ddefnyddir,

(a) wrth ddysgu iaith a llenyddiaeth unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg,
(b) mewn perthynas ag unrhyw gwrs mewn prifysgol a ddysgir trwy gyfrwng y Saesneg os bydd darpariaeth gyfwerth hefyd yn cael ei gwneud gan y brifysgol honno i ddysgu cynnwys y cwrs hwnnw trwy gyfrwng y Gymraeg.

(4) Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau yng Nghymru mewn perthynas ag addysg sicrhau cyflawni’r nod statudol, gan

(a) arfer y swyddogaethau hynny

(i) yn gyffredinol, mewn ffordd sy’n gyson â’r nod statudol, ac
(ii) yn unol ag unrhyw ofynion penodol y fframwaith statudol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 3, a

(b) cymryd camau ymarferol i hyrwyddo’r nod statudol trwy (ymhlith pethau eraill) esbonio i rieni, disgyblion a myfyrwyr fanteision addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

(5) Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at swyddogaethau mewn perthynas ag addysg yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, pwerau ariannol, fel y pŵer i roi grantiau neu gymorth ariannol arall i awdurdodau a sefydliadau sy’n darparu addysg.

(6) Wrth arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â’r pwerau ariannol y cyfeirir atynt yn is-adran (5) ynglŷn ag addysg, rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, wneud hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r graddau y mae’r sawl a fyddai’n elwa o’r grant neu gymorth ariannol arall wedi gweithredu, ac yn debygol o weithredu, yn unol a’i ddyletswydd i sicrhau cyflawni’r nod statudol a gofynion y fframwaith statudol.

3 Fframwaith Addysg Gymraeg

Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Fframwaith Addysg Gymraeg (“y fframwaith statudol”) (“the statutory framework”) a fydd yn pennu—

(a) y camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd, wrth arfer eu pwerau statudol mewn perthynas ag addysg, er mwyn cyflawni’r nod statudol, a
(b) erbyn pryd y disgwylir iddynt gychwyn a chwblhau’r camau hynny.

4 Egwyddorion y fframwaith statudol

Rhaid i’r fframwaith statudol ymgorffori’r egwyddorion canlynol, sef

(a) sicrhau cyflawni’r nod statudol,
(b) newid y system addysg gyhoeddus o fod yn un sy’n gwahaniaethu rhwng ysgolion ar sail iaith addysg i un lle bydd ysgolion a cholegau, tra na fydd y nod statudol eto wedi ei gyrraedd mewn perthynas â hwy, yn cael eu lleoli ar lwybr sy’n arwain yn barhaus at gyflawni’r nod statudol,
(c) na chaniateir defnyddio swyddogaethau mewn perthynas ag addysg er mwyn

(i) sefydlu unrhyw ysgol neu goleg newydd oni bai bod yr ysgol honno neu’r coleg hwnnw (yn ddarostyngedig i adran 2(3)(a)) yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig
(ii) newid cymeriad na threfniadau rheolaeth unrhyw ysgol neu goleg sydd eisoes yn bodoli os bydd hynny’n golygu pellhau oddi wrth gyflawni’r nod statudol.

5 Cynnwys y fframwaith statudol

(1) Yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn adrannau 6, 7, 8, 9 a 10, rhaid i’r fframwaith statudol bennu, ymhlith pethau eraill,

(a) targedau clir a mesuradwy ar gyfer cyrraedd y nod statudol,
(b) camau ymarferol y disgwylir i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd, gan arfer eu pwerau statudol, i sicrhau cyflawni’r targedau hynny, a
(c) dyddiadau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r targedau a’r camau hynny gael eu cyflawni.

(2) Mae’r cyfeiriad at “pwerau statudol” awdurdodau yn is-adran (1)(b) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill y pwerau ariannol y cyfeirir atynt yn adran 2(6).

(3) Rhaid i’r fframwaith gynnwys darpariaethau penodol ar gyfer y sectorau addysg canlynol –

(a) addysg blynyddoedd cynnar,
(b) addysg gynradd,
(c) addysg uwchradd,
(ch) addysg anghenion dysgu ychwanegol,
(d) addysg bellach,
(dd) addysg uwch.

(4) Caiff y fframwaith wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â

(a) mathau gwahanol o awdurdod;
(b) mathau gwahanol o addysg;
(c) ardaloedd gwahanol;
(ch) unrhyw ffactor perthnasol arall.

6 Addysg blynyddoedd cynnar

(1) Rhaid i’r fframwaith ragnodi camau, gan gynnwys unrhyw rai deddfwriaethol angenrheidiol, sydd i’w cymryd gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau y bydd pob plentyn sydd heb gyrraedd oedran addysg gynradd yn medru derbyn addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
(2) Rhaid i’r camau hynny gynnwys unrhyw rai sy’n angenrheidiol er mwyn hybu a chynnal darpariaeth ragarweiniol i’r addysg honno, er enghraifft grwpiau chwarae Cymraeg ar gyfer babanod a phlant bach.

7 Cynllunio gweithlu

(1) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys

(a) asesiad o

(i) nifer y staff, gan gynnwys athrawon, hyfforddwyr, darlithwyr, gweithwyr cymorth addysgu, darparwyr addysg blynyddoedd cynnar ac eraill,
(ii) y sgiliau angenrheidiol, gan gynnwys gallu yn y Gymraeg
y bydd eu hangen i sicrhau cyflawni’r nod statudol, yn unol â gofynion y fframwaith statudol,

(b) datganiad o’r camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd nifer y staff fydd ar gael i’w cyflogi gan ysgolion a cholegau, a sgiliau’r staff hynny, yn ddigon i ateb gofynion y fframwaith statudol.

(2) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) gynnwys (ymhlith pethau eraill) trefniadau ar gyfer

(a) sicrhau y bydd hyfforddiant athrawon, hyfforddwyr, darlithwyr, gweithwyr cymorth addysgu a darparwyr addysg blynyddoedd cynnar, yn eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a
(b) galluogi’r rhai sydd eisoes mewn swyddi sy’n ymwneud â darparu addysg, neu sy’n gymwys ar gyfer swyddi felly, i ddatblygu a gwella eu gallu i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru

(a) cyn llunio’r darpariaethau yn y fframwaith statudol sy’n ymwneud â’r adran hon, wneud arolwg digonol o alluoedd yn y Gymraeg y rhai sydd eisoes mewn swyddi sy’n ymwneud â darparu addysg,
(b) er mwyn ystyried priodoldeb unrhyw addasiadau i’r fframwaith statudol yn unol ag adran 11(3), adolygu, o bryd i’w gilydd, gasgliadau’r arolwg hwnnw, gan wneud arolygon tebyg pellach os oes angen.

8 Cymwysterau cynhwysol

(1) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau er mwyn cyrraedd y nod o ddiddymu unrhyw gymwysterau addysgol sy’n gwahaniaethu rhwng ymgeiswyr “iaith gyntaf” ac “ail iaith” (er enghraifft arholiadau TGAU “Cymraeg” a “Cymraeg Ail Iaith”) a disodli’r cymwysterau hynny gan rai sy’n gymwys i bob ymgeisydd yn ddi-wahân.
(2) Rhaid i’r camau hynny sicrhau y bydd y nod hwnnw’n cael ei gyrraedd erbyn 1 Awst 2030 fan bellaf.

9 Cyfundrefn trochi

Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau i sefydlu ac i gynnal rhwydwaith o ganolfannau trochi iaith ar gyfer darpar ddisgyblion a myfyrwyr, gan gynnwys rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol, na fyddai eu gallu yn y Gymraeg, fel arall, yn ddigonol i gyfranogi’n effeithiol mewn addysg yn yr iaith honno, a fydd yn eu galluogi i wneud hynny, ac a fydd yn hygyrch i ddisgyblion a myfyrwyr ysgol ym mhob ran o Gymru.

10 Addysg y tu allan i’r system gyhoeddus

(1) Yn yr adran hon, ystyr addysg sydd y tu allan i’r system addysg gyhoeddus yw

(a) addysg mewn ysgolion neu golegau preifat, a
(b) addysg neu hyfforddiant ffurfiol

(i) sy’n rhan o gynllun prentisiaeth, ac
(ii) nad yw’n cael ei darparu mewn sefydliad addysg bellach neu addysg uwch.

(2) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau er mwyn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn addysg sydd y tu allan i’r system addysg gyhoeddus.

11 Paratoi a chyhoeddi’r fframwaith statudol

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru

(a) baratoi a chyhoeddi drafft o’r fframwaith statudol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl i’r Ddeddf hon ddod i rym,

(b) ymgynghori ynglŷn â’r drafft hwnnw gyda

(i) awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys cyrff llywodraethol ysgolion a cholegau) sy’n arfer swyddogaethau yng Nghymru mewn perthynas ag addysg,
(ii) Comisiynydd y Gymraeg;
(iii) Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol;
(iv) Comisiynydd Plant Cymru;
(v) y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant,
(vi) cyrff sy’n cynrychioli staff
(vii) unrhyw rai eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol,

(c) mor fuan â phosibl ar ôl diwedd yr ymgynghoriad, osod y drafft (gyda pha bynnag addasiadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol yn sgil yr ymgynghoriad) gerbron Senedd Cymru.

(ch) ystyried unrhyw argymhellion a wneir ar y drafft gan Senedd Cymru neu un o’i phwyllgorau.

(d) osod, os dymunent, ddrafft pellach o’r fframwaith statudol, gydag unrhyw addasiadau sy’n ymddangos yn briodol yn sgil yr argymhellion hynny.

(dd) gyhoeddi’r fframwaith statudol, yn unol â drafft a gymeradwywyd gan Senedd Cymru.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o leiaf unwaith bob pum mlynedd,

(a) adolygu’r fframwaith statudol, a
(b) cyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad hwnnw, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill,

(i) eu hasesiad o’r cynnydd a gafwyd, yn unol â’r fframwaith statudol, tuag at gyrraedd y nod statudol,
(ii) datganiad o’r dystiolaeth y seiliwyd yr asesiad hwnnw arno, a
(iii) sut y bwriadant i’r fframwaith statudol gael ei addasu, os o gwbl, er mwyn cyrraedd y nod statudol.

(3) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ei bod yn briodol addasu’r fframwaith statudol, rhaid iddynt baratoi a chyhoeddi drafft o’r addasiadau arfaethedig a’i gyhoeddi. Bydd is-adran (1) a (2) yn gymwys i’r drafft hwnnw.

(4) Bydd cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y fframwaith statudol yn cynnwys y fframwaith fel mae’n sefyll o bryd i’w gilydd gan gynnwys unrhyw addasiadau a wnaed yn unol ag is-adran (3).

12 Adroddiadau blynyddol

Rhaid i Weinidogion Cymru, mor fuan â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn academaidd,

(a) baratoi adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd honno tuag at gyflawni’r nod statudol,
(b) gyhoeddi’r adroddiad hwnnw,
(c) ei osod gerbron Senedd Cymru.

13 Swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant

Mewnosoder yn adran 20(1) o Ddeddf Addysg 2005 (c18)-

“(h) the extent to which those schools, the management of those schools and the exercise by public authorities of their functions in relation to those schools are contributing to the statutory aim set by the Welsh Language Education (Wales) Act 202- and in accordance with such steps as they are required to take under the Welsh Language Education Framework published under that Act.”

14 Diddymu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

(1) Diddymir Rhan 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg).

(2) Rhaid i unrhyw orchymyn a ddaw â’r adran hon i rym (o dan adran 18(1)) gynnwys, yn unol ag adran 18(2), ddarpariaeth drosiannol a fydd yn sicrhau y bydd darpariaethau unrhyw Gynllun Strategol sydd mewn grym yn parhau mewn grym nes bod darpariaeth gyfatebol a fydd yn cael ei chynnwys yn y fframwaith statudol yn weithredol.

15 Trefniadau teithio gan ddysgwyr

(1) Yn adran 3 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mewnosoder:

“(6A) At ddibenion paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, nid yw’r ysgol, yr uned neu’r sefydliad yn addas i’r plentyn, disgybl neu fyfyriwr

(a) os nad yw’r ysgol, uned neu sefydliad yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, naill ai’n gyffredinol neu ar gyfer pwnc penodol, a
(b) os yw’r rhiant neu berson arall sydd â gofal dros y plentyn, disgybl neu fyfyriwr (neu’r disgybl neu fyfyriwr os yw’r disgybl neu fyfyriwr wedi cyrraedd 18 oed) yn dymuno i’r plentyn, disgybl neu fyfyriwr fanteisio ar drefniadau teithio er mwyn medru derbyn addysg mewn ysgol, uned neu sefydliad sy’n darparu addysg, naill ai’n gyffredinol neu ar gyfer pwnc penodol, trwy gyfrwng y Gymraeg.”

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn blwyddyn i’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, wneud rheoliadau o dan adran 8 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau teithio a fydd yn sicrhau bod addysg blynyddoedd cynnar Gymraeg yn hygyrch i bob plentyn o’r oedran perthnasol.

16 Gorfodi

Rhaid dehongli’r cyfeiriadau at “swyddogaeth addysg” yn Rhan 2 Pennod 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Ymyrryd mewn awdurdodau lleol”)
fel eu bod yn gymwys i unrhyw ddyletswydd a roddir ar awdurdod lleol o dan adran 2(4) uchod.

17 Dehongli

Yn y Ddeddf hon –

(a) mae “awdurdodau cyhoeddus” (“public authorities”) yn cynnwys unrhyw berson neu gorff sy’n arfer swyddogaethau statudol ac yn cynnwys, ymhlith awdurdodau eraill, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chyrff llywodraethol ysgolion a cholegau,
(b) dehonglir “addysg gynradd” (“primary education”), “addysg uwchradd” (“secondary education”), ac “addysg bellach” (“further education”) yn unol â Deddf Addysg 1996
(c) mae i “addysg blynyddoedd cynnar” (“early years education”) yr un ystyr â “nursery education” yn Neddf Addysg 1998,
(ch) dehonglir “addysg anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs education”) yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,
(d) dehonglir “addysg uwch” (“higher education”) yn unol â Deddf Diwygio Addysg 1988.

18 Darpariaeth atodol

(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a) unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;
(b) unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(2) Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3) Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol neu wedi ei wneud o dan un ohonynt⁠—

(a) Deddf Seneddol,
(b) Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
(c) Deddf Senedd Cymru.

(4) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon —

(a) yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(5) Ni chaniateir i offeryn statudol a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf Senedd Cymru gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo gan Senedd Cymru drwy benderfyniad.

(6) Caiff unrhyw offeryn statudol arall a wneir o dan yr adran hon ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

19 Dod i rym

(1) Daw adrannau 14 ac 15(a) i rym ar y diwrnod neu’r diwrnodau a bennir gan Weinidogion Cymru gan orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2) Caiff gorchymyn o dan is-adran (1)—

(a) gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(b) pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

(3) Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

20 Enw byr

Enw byr y ddeddf hon yw Deddf Addysg Gymraeg (Cymru) 202-.