Ebrill 2018
Annwyl Is-Ganghellor,
Rydym ar ddeall ei bod yn fwriad gan y Brifysgol i ddiddymu swydd y dirprwy is-ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Pe gwneir hyn, ni fydd siaradwr Cymraeg ymhlith uwch swyddogion y Brifysgol. Mae goblygiadau sylweddol i hawliau siaradwyr Cymraeg y Brifysgol, i’r Gymraeg yn nhref Aberystwyth a’r ardal ac i ddelwedd y Brifysgol os nad oes unrhyw Ddirprwy Is-Ganghellor yn medru cefnogi siaradwyr Cymraeg, yn medru cyfathrebu â chyrff allanol, na’r cyhoedd, na’r cyfryngau yn Gymraeg.
O’r hyn a ddeallwn, heb y swydd hon, ni fydd yr un o uwch swyddogion y Brifysgol yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth o safbwynt y Gymraeg, nac am hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y Brifysgol?
Pryderwn yn fawr bod y penderfyniad hwn yn erydu lle’r Gymraeg oddi fewn i’r Brifysgol, gan na fydd llais i gynrychioli’r Gymraeg a’r myfyrwyr a staff Cymraeg ymysg yr uwch swyddogion. Gan fod sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y Brifysgol eisioes mewn sefyllfa fregus, yn enwedig yn sgil cau Pantycelyn dros dro, credwn fod swydd o’r fath yn bwysicach nag erioed o’r blaen.
Pryderwn fod hyn yn rhan o batrwm ehangach o ddiddymu swyddi, yn enwedig swyddi a gaiff effaith uniongyrchol ar y Gymraeg, megis diddymu swyddi darlithwyr yn Adran y Gymraeg, a darlithwyr cyfrwng Cymraeg eraill. Teimlwn fod y penderfyniad hwn yn dangos amarch tuag at siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Fel y gwyddoch, daeth Safonau’r Gymraeg ar gyfer Prifysgolion i rym ar y 1af o Ebrill. Golyga hyn ein bod yn wynebu cyfnod lle y disgwylir i brifysgolion ddechrau gwneud llawer mwy yn Gymraeg, nid llai. Byddwch hefyd yn ymwybodol o darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae gan y system addysg, a’r ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd gan Brifysgol Aberystwyth, rôl allweddol i’w chwarae yn hyn o beth. Hoffem gadarnhad, felly, na fydd y broses o ddileu swyddi yn arwain at ostyngiad yn niferoedd y staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg, er mwyn sicrhau bod modd i’r Brifysgol ddilyn y Safonau.
Deallwn fod y Brifysgol yn wynebu problemau ariannol sylweddol. Fodd bynnag, pryderwn fod y penderfyniad hwn, unwaith eto, yn ymdrech i leihau llais a dylanwad siaradwyr a chefnogwyr y Gymraeg oddi mewn i’r Brifysgol.
Felly, hoffem wybod pa asesiad a wnaed gan y Brifysgol o effaith ad-drefnu swyddi ar y Gymraeg? Hefyd, pa gamau a gymrwyd i sicrhau bod unrhyw newidiadau sydd yn cael eu gwneud yn cryfhau’r Gymraeg oddi fewn i’r Brifysgol?
Yn gywir,
Heledd Gwyndaf,
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ymateb, Ebrill 18fed:
Annwyl Heledd,
Diolch am eich e-bost ynghylch ein cynigion diweddaraf i ail-strwythuro yn y Brifysgol fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd a gyhoeddwyd fis Ebrill y llynedd.
Fel y gwyddoch, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion i ail-strwythuro ar lefel rheolaeth sydd yn cynnwys ein uwch dîm rheoli. O’u derbyn, fe fyddai’r cynigion hyn yn cynnwys lleihau nifer ein Dirprwy Is-Gangellorion o bedwar i ddau ond fe fyddai hyrwyddo’r iaith a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn parhau yn flaenoriaethau allweddol i’r uwch dîm reoli. Ymhellach, fe fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ofynnol ar gyfer o leiaf un o’r swyddi hyn ac fe fyddaf yn parhau i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog ac yn gyfannol i bob agwedd o fywyd a gwaith y Brifysgol.
Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi’u gwneud a byddwn yn parhau i ymgynghori â'n cydweithwyr a’r Undebau Llafur cydnabyddedig dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn cydnabod ei bod yn gyfnod ansicr i gydweithwyr, ac rydym yn darparu'r holl gefnogaeth berthnasol iddynt wrth i ni weithio drwy'r cyfnod anodd
hwn.
Mae hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn rhan annatod a holl bwysig o Brifysgol Aberystwyth, ac rydym yn arwain y sector addysg uwch ym maes darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae ein Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg yn ddogfen bolisi sy’n nodi’n glir ein blaenoriaethau ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hybu’r Gymraeg a’i diwylliant. Mae’r ddarpariaeth honno’n ffynnu ac mae ystod a dyfnder yr hyn a gynigiwn ar draws disgyblaethau yn dyst i hynny.
Rydym yn buddsoddi ac yn manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg. Byddwch yn falch o glywed bod ein uwch dîm reoli newydd fabwysiadu polisi sy’n golygu bod pob un o’n darlithwyr a ariennir gan y CCC yn
symud o gytundebau cyfnod penodol i rai pen agored a fydd yn sicrhau eu dyfodol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Rydym yn defnyddio Safonau’r Iaith Gymraeg i atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i’r iaith, ac yn sicrhau bob amser nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Rydym wedi cynnal dadansoddiad o’r modd y byddwn yn cydymffurfio â’r Safonau ac mae camau gweithredu mewn lle i sicrhau ein bod yn
darparu gwasanaeth Cymraeg i fyfyrwyr, y cyhoedd a’r staff.
Cyn cloi, hoffem eich diweddaru ar ein cynlluniau ar gyfer Pantycelyn. Mae’r caniatâd cynllunio ar gyfer tu mewn yr adeilad wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir ac rydym yn edrych ymlaen at ei ail agor yn llety o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a dysgwyr Cymraeg eu hiaith am genedlaethau i ddod.
Byddem yn hapus i anfon diweddariad atoch pan fydd yr ymgynghoriad presennol wedi dod i ben a’r cynigion terfynol wedi eu cymeradwyo.
Yr eiddoch yn gywir,
Elizabeth Treasure
Is-Ganghellor