Diffyg Buddsoddi yn y Gymraeg ac ar y Gymraeg: Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1.Cyflwyniad - Toriadau, Tanfuddsoddi a Diffyg Strategaeth
Mae'r ganran o wariant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n ymwneud yn benodol â'r Gymraeg yn bitw iawn - dim ond 0.16% o holl wariant y Llywodraeth. Mae hynny'n cymharu'n anffafriol iawn gyda gwlad fel Gwlad Basg lle buddsoddir cyfran bron saith gwaith yn fwy o'u cyllideb yn benodol ar yr iaith o'i gymharu â'r sefyllfa yma (£84 miliwn o gyllideb rhanbarthol 2014).
Ar ben hynny, dangosodd ein hymchwil y tanfuddsoddi difrifol sy’n digwydd o fewn gwariant prif-ffrwd y Llywodraeth - gyda llai nag 1% o wariant ar raglenni megis addysg i oedolion yn y gymuned yn cael ei wario ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl cyllideb 2014-15, cafodd y gwariant ar ‘yr iaith Gymraeg’ ei dorri o £25,076,000 y flwyddyn gynt i £24,376,000 yn 2014-15. Cynlluniwyd iddo gwympo ymhellach i £23,511,000 yn 2015-16. Dyna doriad o £700,000 y flwyddyn hon a £856,000 yn 2015-16.
Cafwyd nifer o newidiad o fewn y flwyddyn ariannol hefyd, er enghraifft y toriadau o £700,000 gofynnwyd i'r canolfannau Cymraeg i Oedolion ei wneud o fewn pedair wythnos, ar ben toriadau eraill oeddent eisoes yn gorfod ymdopi â nhw. Oherwydd y newidiadau hyn, nid yw'n glir p'un ai ydynt yn doriadau 'net' ai peidio - mae diffyg tryloywder a chynllunio ar gyfer y penderfyniadau hynny yn peri pryder am absenoldeb strategaeth ariannol gall ar gyfer y Gymraeg. Mae nifer o enghreifftiau lle gall cynyddu'r canran o weithgareddau Cymraeg sy'n dod o raglenni yng ngwariant prif-ffrwd y Llywodraeth.
Credwn fod y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth, hyd yn oed mewn cyfnod o lymder, yn fyrbwyll ac yn amlygu diffyg strategaeth trawsbortffolio ynghylch effaith y gyllideb ar y Gymraeg. Credwn y gellid fod wedi gwneud penderfyniadau llawer gwell hyd yn oed, pe byddai strategaeth drawsbortffolio clir gan y Prif Weinidog a'r gwasanaeth sifil.
Argymhellwn fod y pwyllgor yn mynnu atebion gan weision sifil yn Uned y Gymraeg ynghylch eu penderfyniadau, ynghyd â'u methiant i wneud asesiad trawsbortffolio o effaith gwariant ar y Gymraeg a'i gyhoeddi. Mae eu hanallu i gyflawni hynny o fewn 19 mis yn codi cwestiynau mawr sydd angen eu hyateb. Credwn y dylai'r Cynulliad ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymgymryd â'r gwaith yn lle.
Cyllideb Hyrwyddo'r Gymraeg
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru toriad o £1.5 miliwn yn ei gwariant ar hyrwyddo'r Gymraeg dros ddwy flynedd.
Ers hynny, rydym wedi clywed cyhoeddiadau dryslyd am arian ychwanegol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, nid yw'n glir a oes arian ychwanegol o gwbl. Yn ôl dadansoddiad gan un o'n haelodau, ymddengys fod Llywodraeth Cymru wedi torri tua £2.3 miliwn oddi ar gyllideb Cymraeg i Oedolion ers y Gynhadledd Fawr.
Ymddengys felly, nid yw'r cyhoeddiadau yn newid y ffaith mai ond 0.16% o gyllideb y Llywodraeth sy'n cael ei wario ar hyrwyddo'r Gymraeg. Yng ngwlad y Basg, gwelir buddsoddiad oddeutu saith gwaith yn fwy na hynny, ac mae hynny'n rhannol gyfrifol am y twf a welwyd yn y Fasgeg dros y degawdau diwethaf.
Credwn y dylai'r Cynulliad fel y corff graffu yn fanwl ar gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ynghylch 'arian ychwanegol' ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a gyhoeddwyd dros y misoedd diwethaf ynghyd â'r gymhariaeth rhwng Cymru a Gwlad y Basg.
Ymhellach, credwn y dylai'r Cynulliad sicrhau bod y gyllideb hywyddo yn pedryblu dros gyfnod rhesymol o amser.
Arian Prif-ffrwd - Dros 99% yn fuddsoddiad uniaith Saesneg
Mae'n amlwg bod tanfuddsoddi difrifol ar weithgareddau cyfrwng Cymraeg mewn nifer o gyllidebau prif ffrwd y Llywodraeth - gan gynnwys addysg ac iechyd. Mae'r Llywodraeth yn honni mai 'diffyg galw' sy'n achosi hynny, credwn fod hynny'n amlygu meddylfryd hen-ffasiwn y gwasanaeth sifil sy'n meddwl bod gwasanaeth Saesneg yn hanfodol ac yn ddiofyn, tra bod gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth atodol ac yn ddewisol.
Mae llai na phedair mil o bunnau allan o gyllideb o bron i £17 miliwn sydd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i ni gan Lywodraeth Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth am wariant yn flynyddoedd ariannol 2009/10 i 2011/12. Yn wir, mae nifer o brif gyllidebau’r Llywodraeth yn ariannu bron dim darpariaeth yn Gymraeg, gyda dros 99% o’r arian yn mynd ar ddarpariaeth Saesneg.
Yn ôl ein gwybodaeth, dros y dair blynedd diwethaf, allan o 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y Gymraeg, neu lai na phedwar ym mhob mil o brentisiaethau. Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai 0.02% yn unig o’r un deg saith miliwn a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros dair blynedd, neu £2 am bob £10,000, a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Yn un o'r blynyddoedd, chafodd dim un geiniog ei wario o'r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 am bob £1000, o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
Gweler atodlen 1 am y ffigyrau manwl.
Mae'r ffigyrau'n ysgytwol ac yn anodd iawn i'w credu. Maent yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei thanseilio'n llwyr gan arian prif-lif Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd mae'r Saesneg, un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd, yn derbyn cymhorthdal enfawr gan drethdalwyr Cymru. Mae patrymau gwariant y Llywodraeth yn lleihau defnydd y Gymraeg a'r cyfleoedd i'w defnyddio. Felly tra bod y Llywodraeth yn clustnodi symiau cymharol fach o arian i fentrau Cymraeg eu hiaith, mae effaith Cymraeg y prosiectau hynny'n cael eu tanseilio a gwrth-droi'n llwyr gan bolisïau eraill. Nid ydy Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd gydlynus felly.
Maniffesto Byw - ymateb i argyfwng y Gymraeg
Ym mis Rhagfyr 2012, wedi cyhoeddiad canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad, cyhoeddom ein Maniffesto Byw a alwodd am y 2 newid ariannol, ymysg degau o argymhellion eraill, er mwyn sicrhau twf yn yr iaith:
"Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant."
"O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru."
Gwasanaeth Sifil yn methu â chyflawni
Mewn cyfarfod rhyngom a'r Prif Weinidog ym mis Chwefror 2013, fe gytunodd i gynnal yr adolygiad fel y gofynnwyd amdano uchod yn ein Maniffesto Byw. Ers hynny, rydym wedi gweld oedi rhag gweithredu gan y gwasanaeth sifil, sydd wedi creu llawer o waith papur, ond dal heb gyhoeddi yr un asesiad.
Wedi tua 18 mis o aros am gyhoeddiad yr asesiad, a sawl addewid, ysgrifennom unwaith eto gan ofyn:
"Mewn cyfarfod gyda ni ar Chwefror 6ed 2013, dywedoch wrthym y byddai'ch Llywodraeth yn cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg o bob ceiniog a warir gan Lywodraeth Cymru ar draws eich holl adrannau. Pryd bydd yr asesiad yn cael ei gyhoeddi?"
Cawsom ymateb yn datgan bod 'Asesiad effaith newidiadau’r gyllideb ar y Gymraeg a chydraddoldebau eraill' i'w gyhoeddi, ac y byddai 'Dadansoddiad Canlyniadau Gwariant: Ymarfer gwbl newydd ar gyfer 2014 ydy hwn sy’n gofyn i adrannau adnabod prif raglenni gwariant sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg o fewn eu meysydd', ond doedd dim asesiad cynhwysfawr i'w gyhoeddi yn lle dywedasont:
"... rwy’n siŵr y byddwch yn gweld nad oes ‘cyhoeddiad’ fel allbwn i’r gwaith hwn, ond yn hytrach, proses gyllidebu’r sefydliad ydyw ... Mae cynnydd a gwaith sylweddol wedi digwydd dros y flwyddyn diwethaf ..."
Yn lle derbyn yr asesiad cyflawn felly, derbyniom ffurflen a fydd yn cael ei ddefnyddio gan weision sifil wrth wneud penderfyniadau ariannol. Felly, rydyn ni, drwy ychydig o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn unig, wedi llwyddo cyhoeddi mwy na'r gwasanaeth sifil mewn 19 mis erbyn hyn.
Rydym wedi adnabod nifer o feysydd lle mae tanfuddsoddi, galwn ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r meysydd hyn drwy gynyddu'r canran sy'n mynd at weithgareddau cyfrwng Cymraeg.
Hefyd, dylai Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi asesiad cyflawn o effaith ar y Gymraeg holl wariant Llywodraeth Cymru ar draws pob adran.
Anwybyddu'r Gynhadledd Fawr - y Llywodraeth yn anwybyddu ei ymgynghoriad ei hunan
Adeg cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i gynnal ymgynghoriad ynghylch sefyllfa'r iaith, croesawsom y fenter, gan ddisgwyl casgliadau gwrthrychol a gweithredu arnynt. Nid dyna rydyn ni wedi ei gweld ers hynny.
Yn ôl yr adroddiad am gasgliadau'r Gynhadledd Fawr1:
“Un thema gyffredinol, a chwbl allweddol, a fu’n rhedeg drwy’r holl gyfraniadau [oedd yr angen] i’r Llywodraeth gynyddu ei buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol.” Tudalen 8, Iaith fyw: dweud eich dweud, Gorffennaf 2013
Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld toriadau yn nghyllideb hyrwyddo'r Gymraeg a diffyg gweithredu ar y problemau ynghylch cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth.
Pergyl i Annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg
Pryderwn yn fawr am rym ariannol Llywodraeth Cymru dros Gomisiynydd y Gymraeg, corff sydd, yn statudol, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gyfrifol am reoli Llywodraeth Cymru a'i gydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith.
Nid yw'n bosib i'r Comisiynydd weithredu'n wrthrychol, ac yn gwbl annibynnol. A fydd y Comisiynydd yn gallu ochri â hawliau iaith y cyhoedd yn erbyn Llywodraeth sydd wedi torri ei wariant y llynedd, ac y gallai parhau i wneud toriadau pellach ar unrhyw adeg? Mae sefyllfa Comisiynydd y Gymraeg yn wahanol i nifer o Gomisiynwyr eraill, gan fod ganddi rymoedd statudol llawer iawn mwy pwerus oherwydd diffyg cydymffurfiaeth nifer o gyrff i gadw at eu dyletswyddau ers degawdau.
Gwelwyd toriad o 10% yn 2014-2015 i gyllideb Comisiynydd y llynedd. Deallwn fod y Llywodraeth yn ystyried toriadau pellach i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mewn llythyr o Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg i'r Comisiynydd yn Ionawr 2014, sy'n cadarnhau'r toriad, dywed: "Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymofyn am drafodaethau penodol rheolaidd ar gyllideb gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn y dyfodol. "
Dadleuom yn ystod cyfnod pasio Mesur y Gymraeg 2011 y dylid ymdrin â chyllideb y Comisiynydd yn yr un modd â'r Archwilydd Cyffredinol, corff sy'n derbyn arian yn syth o grant bloc Cymru. Credwn y dylai'r Cynulliad deddfu er mwyn sefydlu'r un system ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg yn sgil y profiad anffodus iawn dros y blynyddoedd diweddar.
Casgliadau
Credwn felly y dylid:
-
pedryblu'r gyllideb ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg er mwyn agosáu at lefelau buddsoddiad yng Ngwlad y Basg;
-
gosod allan cyllideb tymor hirach ar gyfer y Gymraeg fel bod modd cynllunio'n gall ar gyfer twf yr iaith;
-
comisiynu Comisiynydd y Gymraeg i gyhoeddi adolygiad cynhwysfawr o effaith ar y Gymraeg holl wariant Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, ac, wedi cyhoeddi'r asesiad, dylai'r Cynulliad weithredu ar newidiadau i'r gyllideb er mwyn sicrhau bod cyfran deg o gyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yn cael eu buddsoddi yn y Gymraeg;
-
deddfu dros gyllideb sefydlog a llif ariannol annibynnol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg er mwyn diogelu annibyniaeth y swydd.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Medi 2014
Atodlen 1 - Enghreifftiau o effaith negyddol ar y Gymraeg o fewn gwariant prif-ffrwd
(a) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i 2011/12 i’w weld isod:
Blwyddyn y Contract |
Cyfanswm y Gwariant ar yr holl raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith |
Gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Seiliedig ar Waith a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg |
Gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Seiliedig ar Waith a ddarparwyd drwy gyfrwng y Gymraeg |
Gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Seiliedig ar Waith a ddarparwyd yn ddwyieithog |
2009/10 |
£119,579,654.00 |
£116,694,350.71 |
£188,925.32 |
£2,696,377.97 |
2010/11 |
£115,545,759.00 |
£111,387,106.65 |
£117,708.31 |
£4,040,944.04 |
2011/12 |
£109,373,427.00 |
£105,413,959.26 |
£412,196.21 |
£3,547,271.53 |
(b) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer gweithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i 2011/12, yn cael ei ddangos yn y tabl canlynol:
Blwyddyn y Contract |
Cyfanswm y Gwariant ar weithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned |
Cyfanswm y Gwariant a gyfrifwyd ar weithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg |
Cyfanswm y Gwariant a gyfrifwyd ar weithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarparwyd drwy gyfrwng y Gymraeg |
Cyfanswm y Gwariant a gyfrifwyd ar weithgareddau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarparwyd yn ddwyieithog |
2009/10 |
£5,684,838.00 |
£5,683,894.34 |
£943.66 |
£0.00 |
2010/11 |
£5,497,838.00 |
£5,492,697.56 |
£0.00 |
£5,140.44 |
2011/12 |
£5,684,838.00 |
£5,680,558.24 |
£2,743.94 |
£1,535.82 |
(c) Mae cyfanswm y gwariant a gyfrifwyd ar gyfer rhaglenni prentisiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ar gyfer y cyfnod 2009/10 i 2011/12 yn cael ei ddangos isod:
Blwyddyn y Contract |
Cyfanswm y Gwariant ar Brentisiaethau |
Cyfanswm y Gwariant ar Brentisiaethau a ddarparwyd drwy gyfrwng y Saesneg |
Cyfanswm y Gwariant ar Brentisiaethau a ddarparwyd drwy gyfrwng y Gymraeg |
Cyfanswm y Gwariant ar Brentisiaethau a ddarparwyd yn ddwyieithog |
2009/10 |
£78,818,839.95 |
£76,917,042.69 |
£124,526.83 |
£1,777,270.43 |
2010/11 |
£76,787,033.82 |
£74,023,361.82 |
£78,224.18 |
£2,685,447.82 |
2011/12 |
£73,358,151.02 |
£70,702,485.56 |
£276,465.25 |
£2,379,200.21 |
(d) Mae'r tabl isod yn dangos nifer y prentisiaid a ymgymerodd â’u fframwaith prentisiaeth drwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Nodwyd darpariaeth cyfrwng Cymraeg os oes o leiaf un cymhwyster fframwaith llawn wedi cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.
Blwyddyn y Contract |
Cyfanswm y Prentisiaid |
Prentisiaid Cyfrwng Saesneg |
Prentisiaid Cyfrwng Cymraeg |
Prentisiaid Dwyieithog |
2009/10 |
32,550 |
31,635 |
97 |
818 |
2010/11 |
25,517 |
24,320 |
85 |
1,112 |
2011/12 |
35,928 |
34,522 |
172 |
1,234 |