Diwygio llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad

Diwygio llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1.Cyflwyniad  

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu am dros hanner canrif dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid. Yn ystod ein cyfnod o weithredu o dros hanner can mlynedd, rydym wedi cymryd rhan blaenllaw yn y ddwy brif dadl yn y saithdegau a'r nawdegau ynghylch cynghorau yn gweithredu'n Gymraeg.    

1.2. Yn ein dogfen weledigaeth "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 Ymlaen", datganwn y "dylai unrhyw ad-drefnu Llywodraeth leol gynyddu'r nifer o awdurdodau sy'n gweithio drwy'r Gymraeg gan osod cymalau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau hynny"  

1.3. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi mabwysiadu argymhellion gweithgor ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir, a hynny'n drawsbleidiol, sy'n cynnwys y nod o symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg fel a weithredir yng Ngwynedd ar hyn o bryd:  

"NOD: I gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y gweithle a dwyieithogi ymhellach gweinyddiaeth fewnol y Cyngor gyda'r nod o weinyddu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser" Adran 3.4, Y Gymraeg yn Sir Gâr, Gweithgor y Cyfrifiad1  

1.4 Yn 2011, llofnododd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn yr addewid canlynol:  

"Y Gymraeg: Iaith Swyddogol Sir Ceredigion  

Yr wyf i, sydd yn arweinydd grŵp Plaid Cymru yn Sir Ceredigion yn ymrwymo i gefnogi'r egwyddor i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol Cyngor Sir Ceredigion..." 
 

2. Pwyntiau i'w hystyried

 2.1 Credwn fod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud pan fo grym yn agosach i'n cymunedau. Yn y gorffennol rydym wedi galw ar y llywodraeth i datganoli mwy o bwerau i ardaloedd lleol drwy gynghorau cymuned a chynghorau tref. Felly, dylid sicrhau nad yw rhagor o weithio ar lefel ranbarthol yn tanseilio atebolrwydd a democratiaeth.

2.2 Mae gan Gyngor Gwynedd polisi addysg sy'n cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, a pholisi o weinyddu'n fewnol yn Gymraeg sy'n enghraifft i siroedd eraill. Mae'n rhaid sicrhau bod unrhyw weithio ar lefel ranbarthol nid unig yn amddiffyn y polisïau hyn ond hefyd yn eu hymestyn i ardaloedd eraill. Mae'n destun pryder nad oes dim byd yn y ddeddfwriaeth ddrafft a fydd yn diogelu'r polisïau hyn.  

2.3 Yn yr un ffordd, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi mabwysiadu polisi o symud at yr un polisïau â Gwynedd o ran addysg a defnydd mewnol o'r Gymraeg. Mae cynghorwyr yn y Sir wedi ymateb i argyfwng canlyniadau'r Cyfrifiad yn gadarn a thrwy gydweithio ar draws y pleidiau. Dylai unrhyw weithio ar lefel ranbarthol ymestyn defnydd o'r Gymraeg a pholisïau addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin dros y rhanbarth i gyd ac ni ddylid erydu'r polisïau hyn.

2.4 Nodwn fod yr Asesiad o Effaith ar yr Iaith Gymraeg yn datgan: 'Bydd hi'n hanfodol nad yw datblygiad 'Cyd-bwyllgorau Llywodraethu' yn erydu arferion cyfredol yn yr awdurdodau lleol hynny sy'n cynnal eu gweinyddiaeth fewnol yn gyfan gwbl neu i raddau helaeth yn y Gymraeg. Yn wir, beth bynnag fo'r arferion cyfredol ar draws llywodraeth leol yng Nghymru, nod Gweinidogion Cymru yw bod arferion o'r fath yn cael eu cryfhau a'u hadeiladu arnynt'.  Cytunwn yn gryf â'r gosodiad hwn.

2.5 Galwn felly ar i unrhyw ddeddfwriaeth i sicrhau bod arferion yr awdurdod lleol sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r Gymraeg yn cael eu mabwysiadu ar gyfer unrhyw weithio rhanbarthol, gan sicrhau bod gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn norm mewn unrhyw bartneriaethau lle mae un awdurdod lleol eisoes yn gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg neu'n gweithio tuag at y nod hwn.