Annwyl swyddog,
Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith er mwyn eich annog i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yn eich gwaith ymgyrchu cyn yr etholiadau ar yr 8fed o Fehefin ac wedi hynny.
Rydyn ni wedi derbyn cwynion gan nifer o bobl am sawl plaid sy'n dosbarthu llenyddiaeth uniaith Saesneg, ac yn hybu cyfathrebiadau uniaith Saesneg ar-lein. Wrth reswm, mae hyn yn destun pryder i ni fel mudiad sydd am weld cynnydd yn nefnydd y Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.
Fel plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, cefnogoch chi Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a sefydlodd statws swyddogol i'r Gymraeg. Yn ogystal, rydych chi a'r pleidiau gwleidyddol eraill wedi cefnogi gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg sy'n cynnwys ymrwymiad i:
"Defnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r iaith naturiol o'r crud i'r bedd"
Hoffem eich atgoffa felly o'ch dyletswydd foesol i gyfathrebu gydag etholwyr Cymru yn Gymraeg, gan barchu cefnogaeth gref pobl Cymru i'n hiaith genedlaethol unigryw boed ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio.
Gofynnwn i chi gadarnhau bod gennych bolisi yn ei le, a'ch bod wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yn eich gwaith fel plaid wleidyddol.
Yn ogystal â pharchu'r Gymraeg wrth ymgyrchu, gobeithio y gallwn ddibynnu arnoch fel plaid i weithredu a chefnogi'r Gymraeg yn gyffredinol.
Yr eiddoch yn gywir,
Manon Elin
Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Copi at:
Comisiwn Etholiadol
Comisiynydd y Gymraeg