Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
1.2. Er bod llawer o sôn am y Gymraeg yn naratif y ddogfen, yn enwedig yn y sylwadau cychwynnol, pan ddaw hi at effaith cynigion penodol y ddogfen, pryderwn yn fawr y cânt effaith negyddol iawn ar y Gymraeg ar lefel gymunedol. Credwn yn ogystal bod y Fframwaith yn colli cyfle mawr i annog twf yr iaith a’i defnydd.
Prif Sylwadau
2.1. Mae modd crynhoi ein prif sylwadau fel a ganlyn:
Pryderwn yn fawr fod y rhanbarthau a ddynodir yn y ddogfen, yn nhermau strwythurol, yn mynd i fod yn niweidiol i gymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd, megis drwy gynnwys ardaloedd yn Sir Gâr ac Abertawe yn yr un rhanbarth a chreu un rhanbarth ar gyfer y Gogledd. Nid yw’r tri rhanbarth a ddynodir yn y ddogfen yn rhai sy’n gweddu yn naturiol yn ddaearyddol, economaidd, cymdeithasol na diwylliannol, ac mae hynny’n creu peryglon go iawn i’r Gymraeg.
Dylai fod polisi penodol ar gyfer tyfu nifer y cymunedau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned.
Pryderwn y bydd y Fframwaith yn hybu gor-ddatblygu tai ac felly bydd yn niweidiol i gymunedau a’r Gymraeg, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin, y Gogledd-orllewin a’r Gogledd-ddwyrain. Ni ddylid dynodi ardal Wrecsam-Glannau Dyfrdwy a De Sir Gâr fel ardaloedd o dwf cenedlaethol oherwydd eu heffaith negyddol ar batrymau allfudo a mewnfudo byddai’n niweidiol i’r Gymraeg.
Dylai’r Fframwaith fynnu bod angen dod â’r stoc tai presennol, megis eiddo gwag ac ail gartrefi, yn ôl mewn i ddefnydd ar gyfer pobl leol cyn adeiladu tai newydd. Byddai’r polisi hwnnw yn llawer mwy buddiol drwy gynnal gwasanaethau cymunedau, atal allfudo a mewnfudo anghynaladwy, ac i’r economi leol gan fod uwchraddio tai presennol yn cadw mwy o arian o fewn yr economi leol.
Cytunwn â’r pwyslais ar ddatblygu canol trefi o gwmpas cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
Croesawn y pwyslais ar ddatblygu ynni haul a gwynt a’r flaenoriaeth a roddir iddynt, fodd bynnag, credwn y dylai’r Fframwaith flaenoriaethu datblygiadau ynni haul a gwynt sydd ym mherchnogaeth pobl leol. Deuai buddion economaidd uwch gyda pholisi o’r fath, a byddai hefyd yn cryfhau cefnogaeth leol i’r datblygiadau pwysig hyn.
Pryderwn y bydd y ddogfen yn annog patrymau allfudo a mewnfudo sy’n niweidiol i hyfywedd y Gymraeg drwy flaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaeth a datblygiadau o’r Gorllewin i’r Dwyrain (megis yn ardal y Gogledd-ddwyrain) yn lle cysylltiadau trafnidiaeth De-Gogledd.
Dylai fod categori o gysylltiadau trafnidiaeth genedlaethol Gymreig rhwng y De a’r Gogledd a dylent gael eu nodi fel blaenoriaeth i wella mewn ffordd gynaliadwy, gan flaenoriaethu trenau, bysiau, cerdded a seiclo.
Dylai fod polisi penodol yn y ddogfen i gefnogi ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gan roi’r un flaenoriaeth i’r prosiect hwnnw â’r hyn mae’r ddogfen yn ei rhoi i Faes Awyr Caerdydd.
Pryderwn am faint, natur a pherchnogaeth y coedwigoedd a anogir tyfu yn y ddogfen, a’r effaith bosib ar y diwydiant amaethyddol ac ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Dylai’r Fframwaith yn benodol nodi bod angen ystyried yr effaith ar amaeth a’r Gymraeg wrth ddatblygu rhagor o goedwigoedd gan dynnu sylw at y ffaith bod 40% o’n gweithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y ganran uchaf mewn unrhyw faes gwaith yn y wlad. Dylai’r coedwigoedd orfod bod o goed cynhenid yn ogystal.
Credwn y dylai’r ddogfen fod yn gliriach o ran peidio cefnogi datblygiadau niwclear oherwydd eu peryglon i gymunedau, y Gymraeg a’r amgylchedd.
Does dim cydnabyddiaeth o’r angen i adnabod cymunedau lle dylid anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y gymuned. Dylai fod sôn am gynyddu nifer y cymunedau hyn ac anogaeth yn y Fframwaith i bob un rhanbarth flaenoriaethu hyn.
Dylai'r Fframwaith nodi bod angen i awdurdodau flaenoriaethu datblygiadau sy’n dynodi tai i bobl leol yn unig.
Anghytunwn â geiriad canlyniad 4 ar dudalen 2: mae angen anelu at gynyddu’r nifer o gymunedau ac ardaloedd sydd â’r Gymraeg yn brif iaith y gymuned.
Nid yw’n glir bod yr amcangyfrifon poblogaeth a adroddir yn y ddogfen yn gywir. Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau mae disgwyl i boblogaeth Cymru gwympo rhwng nawr a 2040. Mae angen i’r ddogfen ail-ystyried y ffigyrau am yr angen am adeiladau tai yn sgil hyn felly.
Gwrthwynebwn yn gryf natur annemocrataidd y cynigion gan gynnwys: bodolaeth aelodau anetholedig ar bwyllgorau’r Cynlluniau Datblygu Strategol; gorfodi cyfuno cynlluniau datblygu lleol; a gorfodi awdurdodau i gyflwyno Cynlluniau Datblygu Strategol. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, bydd hi bron yn amhosib i gymunedau lleol herio datblygiadau mawr ar eu stepen drws, a byddai'n anodd dadlau bod y gyfundrefn newydd yn parchu democratiaeth leol.
Sylwadau Penodol - Mesul Adran
Amcangyfrifon Poblogaeth
Ar dudalen 12, dywedir bod disgwyl i boblogaeth Cymru gynyddu 4% o 2018 i 2038. Fodd bynnag, yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau, bydd y boblogaeth yn gostwng, nid cynyddu dros y cyfnod o 3,151,000 yn 2019 i 3,118,000 yn 2040, gan gwympo’n bellach wedi hynny. Yn sgil y ffigyrau diweddaraf hyn, dylai’r Llywodraeth leihau nifer y tai y mae disgwyl adeiladu’n rhanbarthol ac yn lleol.
Gwlad gysylltiedig
Croesawn y pwyslais ar ehangu band eang ar dudalen 14, ond gresynwn nad oes llawer iawn mwy o bwyslais ar gysylltiadau trafnidiaeth genedlaethol o fewn Cymru. Yn wir, nid oes yr un cynnig polisi pendant yn Fframwaith a aiff i’r afael â hyn. Yn wir, drwy lunio dogfen nad yw’n nodi cysylltiadau trafnidiaeth allweddol cenedlaethol o’r De i’r Gogledd fel categori o bwys, mae’n esgeuluso un o brif wendidau economi a thrafnidiaeth Cymru.
Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi astudiaeth dichonoldeb ar ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Fodd bynnag, dylai fod polisi penodol ar gyfer ffafrio’r prosiect yn y ddogfen fel y mae ar gyfer prosiect trafnidiaeth arall, sef Maes Awyr Caerdydd.
Rhanbarthau Amrywiol
Anghytunwn yn gryf â’r rhanbarthau a gynigir yn y Fframwaith a chredwn y byddai’n hynod niweidiol i’r Gymraeg. Yn benodol, credwn fod y ddogfen yn cynnig creu rhanbarthau llawer rhy fawr ac annaturiol sy’n torri ar draws ffiniau ieithyddol. Canlyniad creu’r rhanbarthau hollol ffug hynny byddai gorfodi cannoedd ar filoedd o dai ar ardaloedd nad sydd eu hangen ar y boblogaeth a chymunedau lleol.
Ymhellach, credwn y byddai’n hynod niweidiol i gyflwr y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin pe bai De a Dwyrain y sir yn cael eu cynnwys yn yr un rhanbarth ag Abertawe. Pryderwn yn fawr y byddai hyn yn arwain at ddatblygiadau sy’n hybu patrymau mewnfudo sy’n niweidiol i’r Gymraeg.
Ymhellach, pryderwn yn fawr am effaith gorfodi un rhanbarth ar Ogledd y wlad. Pryderwn yn fawr y caiff datblygiadau tai enfawr eu gorfodi ar ardaloedd lle nad oes angen am dai, dim ond am fod targed ar gyfer y rhanbarth cyfan, er enghraifft yng Ngwynedd a Môn lle nad oes twf yn y boblogaeth.
Heriau a Chyfleoedd
Cytunwn â’r angen i ganolbwyntio ar dechnolegau ynni adnewyddadwy, rhannu cyfoeth yn decach o gwmpas y wlad a datblygu mewn ardaloedd adeiledig sy’n bodoli eisoes. Er bod cydnabyddiaeth o’r diffyg cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, nid oes cynnig yn y Fframwaith sy’n mynd i’r afael â hynny. Yn wir, credwn y bydd y pwyslais ar gysylltiadau trafnidiaeth eraill yn gwaethygu’r sefyllfa.
O ran tai fforddiadwy, mae angen bod yn glir beth yw ystyr tŷ fforddiadwy. Nid yw’r rhan fwyaf o ‘dai fforddiadwy’ yn fforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol. Yn ogystal, credwn y dylai fod polisi o ddod â thai ac eiddo presennol, gan gynnwys ail gartrefi, yn ôl i mewn i ddefnydd y gymuned a phobl leol cyn adeiladu o’r newydd.
Canlyniadau
Anghytunwn â geiriad canlyniad 4 ar dudalen 20; mae gwir angen anelu at gynyddu’r nifer o gymunedau ac ardaloedd lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned.
Byddai’n gamgymeriad strategol o bwys pe bai’r Llywodraeth yn derbyn taw’r gorau y gallai hi geisio cyflawni yw atal unrhyw ddirywiad pellach. Mae angen anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y gymuned ym mhob rhan o Gymru, a chryfhau’r defnydd ym mhob cymuned. Yn hynny o beth, mae angen i bob awdurdod lleol adnabod cymunedau lle mae potensial i wneud yr iaith yn brif iaith y gymuned. Yn anffodus, dim ond ychydig iawn o gymunedau sydd lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned ar hyn o bryd, tu hwnt i’r ardaloedd hyn, nid yw’n gywir i ddatgan mai addysg yw’r unig faes sydd o bwys yn y system gynllunio. Mae angen bod yn llawer mwy eangfrydig na hynny gan gydnabod bod statws yr iaith, lleoliad a natur datblygiadau a chyfrwng iaith gweithleoedd yn cael effaith fawr ar y potensial i wneud y Gymraeg yn brif iaith mwy o gymunedau.
Nid yw geiriad canlyniad 4 yn adlewyrchu ymrwymiad strategaeth iaith y Llywodraeth i ddyblu defnydd y Gymraeg erbyn 2050 ychwaith.
Strategaeth Ofodol
Cynigiwn y newidiadau canlynol i’r strategaeth ofodol arfaethedig ar dudalen 25:
tynnu De a Dwyrain Sir Gaerfyrddin o’r ardal o dwf cenedlaethol;
newid ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy o ardal o dwf cenedlaethol i ardal o dwf rhanbarthol yn unig;
ychwanegu categori o ‘gysylltedd cenedlaethol Cymreig’, gan nodi fel blaenoriaeth yr angen am reilffordd newydd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ynghyd â phwysigrwydd yr A470.
Anghytunwn yn gryf iawn gyda chynnwys Llanelli ynghyd â De a Dwyrain Sir Gaerfyrddin yn yr ardaloedd o dwf cenedlaethol. Mae sefyllfa’r iaith yn Sir Gaerfyrddin yn wan ac yn fregus iawn a byddai’r datblygiadau tai enfawr, a gaiff eu hannog a/neu ganiatáu gan y Fframwaith hwn, yn ergyd farwol i’r Gymraeg yn y sir drwy hybu mewnfudo anghynaliadwy.
Cytunwn â pholisi 2, sef lleoli cyfleusterau gwasanaethau cyhoeddus ynghanol trefi a dinasoedd er mwyn ceisio sicrhau mynediad gwell, er enghraifft ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Darparu Cartrefi Fforddiadwy
Credwn y dylai bob tŷ ac annedd yng Nghymru fod yn fforddiadwy i bobl leol sy’n byw ar gyflogau lleol.
Fodd bynnag nid ydym yn cytuno gyda safbwynt neo-ryddfrydol y Llywodraeth o ran y ffordd i ddelio gyda hynny. Yn lle canolbwyntio bron â bod yn unig ar adeiladu rhagor o dai newydd, mae angen ymyrryd yn llawer cryfach yn, a sicrhau newid sylfaenol i natur, y farchnad. Anghytunwn felly â’r targedau ar gyfer adeiladu tai o’r newydd gan eu bod yn seiliedig ar gamsyniad ideolegol, sef derbyn neo-frydiaeth a pheidio â cheisio rheolau prisiau rhent a thai y stoc tai presennol.
Hyd yn oed o fewn meddylfryd neo-ryddfrydol Llywodraeth Cymru, credwn fod y targedau’n wallus gan:
nad ydyn nhw’n seiliedig ar yr ystadegau ac amcangyfrifon poblogaeth ddiweddaraf sy’n rhagweld cwymp ym mhoblogaeth Cymru rhwng nawr a 2040;
eu bod yn anwybyddu’r stoc tai presennol, yn enwedig eiddo wag ac ail gartrefi sydd angen dod yn ôl i mewn i ddefnydd pobl a chymunedau lleol cyn adeiladu o’r newydd;
bod diffiniad Llywodraeth Cymru o dai fforddiadwy yn wallus ac nad yw’n sicrhau bod tai yn wirioneddol fforddiadwy i bobl sy’n derbyn yr incwm cyfartalog lleol;
y dylai pob tŷ newydd fod yn fforddiadwy i bobl leol, nid canran ohonyn nhw’n unig
Cynigiwn y dylid diwygio Polisi 5 felly er mwyn:
diffinio tai fforddiadwy i rai sy’n fforddiadwy i bobl sy’n byw ar gyflogau ac incymau cyfartalog yn eu cymunedau lleol;
cynnwys polisi o ddod ag eiddo wag ac ail gartrefi yn ôl i mewn i ddefnydd fel cartrefi llawn amser cyn adeiladu o’r newydd;
sicrhau bod anogaeth i bolisïau sydd eisoes ar waith yng Ngwynedd o osod amod lleol ar ddatblygiadau tai newydd;
seilio cynlluniau datblygu ar amcangyfrifon lleol yn unig yn lle amcangyfrifon rhanbarthol.
Polisi Penodol Ychwanegol - gwarchod a chynyddu’r nifer o gymunedau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned
Nodwn fod polisi penodol (Polisi 8, tudalen 33) yn nodi a gwarchod ardaloedd o bwysigrwydd ecolegol. Cytunwn â hynny. Fodd bynnag, nid oes polisi penodol cyfatebol ar gyfer adnabod cymunedau lle dylid anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y gymuned. Dylid llunio polisi penodol er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn adnabod cymunedau ac ardaloedd lle mae (i) eisiau gwarchod defnydd cymunedol y Gymraeg, a (ii) gwneud y Gymraeg yn brif iaith y gymuned.
Rydym wedi argymell ffordd o wneud hyn drwy sefydlu continwwm datblygu’r Gymraeg yn gymunedol. Mae modd darllen mwy am y polisi hwn drwy ddarllen y ddogfen hon: https://cymdeithas.cymru/dogfen/ymateb-i-nodyn-cyngor-technegol-20
Y goedwig genedlaethol
Er ein bod yn croesawu’r cysyniad o goedwig genedlaethol, pryderwn am faint, natur a pherchnogaeth y coedwigoedd a anogir tyfu yn y ddogfen, a’r effaith bosib ar y diwydiant amaethyddol ac ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Dylai’r coedwigoedd orfod bod o goed cynhenid a dylid nodi hynny yn y Fframwaith.
Yn ogystal, mae’n hynod o bwysig i’r Fframwaith gydnabod effaith iaith y cynnig hwn. Yn benodol, dylai’r Fframwaith nodi bod angen ystyried yr effaith ar amaeth a’r Gymraeg wrth ddatblygu rhagor o goedwigoedd, gan dynnu sylw at y ffaith bod 40% o’n gweithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y ganran uchaf mewn unrhyw faes gwaith yn y wlad. Byddai troi tir o fod yn dir sy’n cefnogi cyflogaeth amaethyddol i fod yn dir ar gyfer coedwigoedd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
Ynni adnewyddadwy
Cytunwn yn gryf gyda’r ymrwymiad at ynni haul a gwynt yn y ddogfen a’r ffafriaeth a roddir iddynt yn y ddogfen.
Credwn fodd bynnag bod angen annog a ffafrio datblygu sydd ym mherchnogaeth y gymuned leol. Nid yn unig y byddai hynny’n sicrhau bod y budd economaidd yn aros yn lleol, ond byddai hefyd o gymorth mawr o ran sicrhau cefnogaeth cymunedau lleol i ddatblygu ynni adnewyddadwy.
Credwn y dylai’r ddogfen fod yn glir na fydd cefnogaeth i ynni niwclear oherwydd ei beryglon amgylcheddol difrifol ynghyd â’r peryglon i’r iaith.
Polisi Penodol Ychwanegol - Ardaloedd â Blaenoriaeth ar gyfer Cysylltiadau Trafnidiaeth Genedlaethol Cymru
Credwn yn gryf y dylai fod polisi penodol i flaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaethau cenedlaethol newydd yng Nghymru, megis ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Nodwn fod blaenoriaeth i rwydweithiau gwres a Maes Awyr Caerdydd, ond dim byd ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae diffyg cysylltiadau o fewn Cymru yn cael effaith negyddol ar yr iaith drwy hybu allfudo a rhwystro datblygiadau economaidd yng Ngorllewin a Gogledd y wlad.
Cynlluniau Datblygu Strategol - annemocrataidd
Pryder mawr arall yw natur gwrth-ddemocrataidd Cynlluniau Datblygu Strategol. I bob pwrpas bydd yn amhosib i gymunedau ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio a allai gael effaith anferth arnyn nhw.
Gan ddibynnu ar yr ardal (mae Dwyrain a De Sir Gâr yn un ohonynt), byddai hierarchaeth gynllunio yn blaenoriaethu penderfyniadau rhanbarthol a chenedlaethol yn lle rhai lleol. Mae hynny’n hollol anghywir ac yn groes i ddemocratiaeth leol.
Yn ogystal ag arweinwyr y pedwar cyngor sir, mae aelodaeth y pwyllgor sy’n gyfrifol am lunio Cynlluniau Datblygu Strategol yn cynnwys nifer o "cynrychiolwyr cymunedol" anetholedig. Dylai pob aelod o’r pwyllgor fod yn etholedig. Y nhw a'r swyddogion fydd yn gyfrifol am y cynllun datblygu strategol a phenodi'r panel cynllunio. Bydd yn rhaid i'r cynlluniau datblygu strategol adlewyrchu a chydymffurfio â chynnwys y Fframwaith Cenedlaethol. Pa mor debygol ydy'r panel cynllunio o dynnu'n groes i ddymuniadau'r cydbwyllgor a'u penododd?
O ganlyniad i’r newidiadau, colliff cynghorau fel Cyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb dros gynllunio yn Llanelli a'r ardal, heblaw am ganiatáu pethau bychain megis ceisiadau cynllunio ar gyfer estyniadau tai.
Nid mater i gynlluniau rhanbarthol ddylai penderfyniadau am ddatblygiad tai mawr fod, ond yn hytrach, mater i gynghorau a chynghorwyr lleol.
Ar ben hynny, mae'r Llywodraeth wedi dweud wrth gynghorau y byddan nhw'n gorfod cyfuno eu cynlluniau datblygu lleol unwaith eu bod nhw wedi'u mabwysiadu. O ganlyniad bydd hi bron yn amhosib i gymunedau lleol herio datblygiadau mawr ar eu stepen drws, byddai'n anodd dadlau bod y gyfundrefn newydd yn parchu democratiaeth leol.
Ymhellach, anghytunwn yn gryf gyda’r cynnig i’w gwneud hi’n ofynnol i Gynlluniau Strategol Rhanbarthol gael eu cyflwyno ym mhob un o’r tri rhanbarth. Mae angen consensws a chydsyniad pob un awdurdod lleol cyn mynd ati i greu un, felly mae’n hynod o bwysig bod y datblygiadau hyn yn cael eu penderfynu yn lleol, nid o’r brig i lawr.
Rhanbarth y Gogledd
Polisi 17 - Wrecsam a Glannau Dyfrdwy
Gwrthwynebwn y cynigion i hybu datblygiadau rhwng Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae datblygiadau o’r fath yn hybu patrymau allfudo a mewnfudo sy’n niweidiol i’r Gymraeg. Mae angen i’r Llywodraeth gofio mai allfudo o Gymru yw’r ffactor bwysicaf, heblaw am farwolaethau, sy’n arwain at gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac felly mae hybu allfudo yn y fath fodd yn gwbl groes i’w Strategaeth Iaith Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.
Fel y nodir eisoes, credwn y dylai ardal Wrecsam-Glannau Dyfrdwy fod yn ardal o dwf rhanbarthol, nid cenedlaethol er mwyn osgoi gor-ddatblygu tai.
Eto, dylid nodi pwysigrwydd yr A470 fel cysylltiad trafnidiaeth genedlaethol a rhoi blaenoriaeth i gysylltiadau trafnidiaeth genedlaethol Gymreig.
Polisi 18 - Aneddiadau Arfordirol yn y Gogledd
Dylid diwygio’r polisi hwn er mwyn pwysleisio nad yw’r holl ardaloedd o Gaernarfon i Lannau Dyfrdwy o’r un natur ieithyddol a bod angen bod yn ofalus o ran effaith iaith datblygiadau.
Nodir ym mholisi 19 yr angen i ystyried yr effaith ar unrhyw leiniau glas. Dylai fod cymal cyfatebol er mwyn sicrhau bod ystyriaeth ofalus iawn o’r effaith ar y Gymraeg a defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad yn ogystal.
Y Gymraeg
Ar dudalen 52, mae paragraff diystyr a disylwedd am le’r Gymraeg yn rhanbarth y Gogledd. Mae angen ychwanegu sôn am bwysigrwydd y nifer fawr o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y gymuned. Dylid cynnwys cymal yn gorfodi awdurdodau i roi sylw a bod yn rhagofalus o ran datblygu yn y cymunedau hyn.
Targedau Tai - Y Gogledd
Anghytunwn â’r targed tai am nifer o’r rhesymau a nodir uchod eisoes, yn enwedig gosod targed ar gyfer y rhanbarth cyfan. Er enghraifft, nid yw’r boblogaeth yng Ngwynedd a Môn yn tyfu, felly nid oes angen tai newydd ar yr ardal. Yn hytrach mae angen sicrhau bod y stoc tai presennol yn fforddiadwy i bobl leol, ac yn cael ei blaenoriaethau ar gyfer pobl y cymunedau hynny.
Polisi 21 - Cysylltiadau Trafnidiaeth â Lloegr
Eto, gwrthwynebwn yn gryf y polisi hwn gan ei fod yn hybu patrymau allfudo a mewnfudo sy’n niweidiol iawn i’r Gymraeg. Yn lle’r polisi hwn, dylai fod gofyniad penodol i hybu cysylltiadau o’r Gogledd a’r De yng Nghymru.
Polisi 22 - Y Gogledd-orllewin ac Ynni
Gwrthwynebwn y pwyslais ar gefnogi ynni niwclear yn y polisi hwn. Mae ynni niwclear yn beryglus i bobl, yr amgylchedd a’r Gymraeg. Dylai’r Fframwaith nodi gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ynni niwclear, ac, yn lle, canolbwyntio ar ynni gwynt a haul.
Y Canolbarth a’r De-orllewin
Mae’r rhanbarth hon yn chwerthinllyd o annaturiol ac o ganlyniad yn niweidiol i’r Gymraeg.
Gwrthwynebwn ganolbwyntio twf yn Ne a Dwyrain Sir Gaerfyrddin oherwydd byddai hynny’n hybu patrymau allfudo a mewnfudo sy’n niweidiol i’r Gymraeg.
Eto, gwrthwynebwn y targedau tai gan eu bod yn rhy uchel. Nid yw anghenion tai yn siroedd Dyfed yr un peth ag anghenion ardaloedd eraill yn y rhanbarth anferth hwn. Ni ddylid gorfodi awdurdodau lleol i gyflawni ar dargedau nad ydynt yn adlewyrchu eu gwir anghenion lleol.
Mae gwir angen nodi pwysigrwydd y cysylltiadau rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin fel rhan o greu cysylltiadau cenedlaethol Cymreig. Synnwn nad oes sôn am ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan ystyried cefnogaeth gref Arweinydd y Blaid Lafur i’r datblygiad hwn a’r astudiaeth dichonoldeb a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru.
Eto, nid yw’r sôn am y Gymraeg yn y rhan hon yn nodi pwysigrwydd eithriadol cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y gymuned i gyflwr yr iaith yn genedlaethol.
Y De-ddwyrain
Gwrthwynebwn y pwyslais ar gysylltiadau trafnidiaeth i Loegr, gan ei fod yn hybu allfudo sy’n tanseilio amcan y Llywodraeth ei hun i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Yn lle, dylai fod blaenoriaeth i gysylltiadau trafnidiaeth rhwng y De a’r Gogledd yng Nghymru.
Hoffwn wybod sut mae’r pwyslais ar ddatblygu Maes Awyr Caerdydd yn gweddu â datganiad Llywodraeth Cymru bod argyfwng hinsawdd.
Yn yr adran am yr iaith Gymraeg, dylai fod ymrwymiad i flaenoriaethu datblygiadau sy’n hybu defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad, megis ysgolion, canolfannau a gweithleoedd cyfrwng Cymraeg. Hefyd, dylai fod gofyniad i adnabod cymunedau lle mae nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y gymuned. Pryderwn fod y geiriad yn y Fframwaith yn ddiystyr ac arwynebol iawn.
Ymatebion i Gwestiynau’r Ymgynghoriad
1. Canlyniadau’r Fframwaith
Anghytunwn gyda geiriad canlyniad 4 am y Gymraeg am y rhesymau a nodir uchod.
2. Strategaeth Ofodol
Anghytunwn yn gryf gyda’r strategaeth ofodol ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig am y rhesymau a nodir uchod.
3. Tai Fforddiadwy
Anghytunwn yn gryf am y rhesymau a nodir uchod.
8. Y Rhanbarthau
Anghytunwn yn gryf gyda’r Cynlluniau Datblygu Strategol - nodir y rhesymau uchod
9. Y Gogledd
Anghytunwn yn gryf â’r polisïau a’r dulliau gweithredu arfaethedig - nodir y rhesymau uchod
10. Y Canolbarth a’r De-orllewin
Anghytunwn yn gryf â’r polisïau a’r dulliau gweithredu arfaethedig - nodir y rhesymau uchod
11. Y De-ddwyrain
Anghytunwn â’r polisïau a’r dulliau gweithredu arfaethedig - nodir y rhesymau uchod
14. Y Gymraeg
Credwn y byddai mabwysiadu’r Fframwaith fel y mae yn ergyd fawr i gyflwr y Gymraeg, yn enwedig o achos y targedau tai, ffafrio trafnidiaeth a datblygiadau sy’n hybu allfudo a natur y rhanbarthau annaturiol nad ydyn nhw’n llesol i’r Gymraeg drwy dorri ar draws ffiniau ieithyddol presennol.
Nodir ein cynigion amgen uchod, ond yn benodol, credwn fod angen:
diwygio’r rhanbarthau arfaethedig fel eu bod yn adlewyrchu ffiniau ieithyddol a diwylliannol naturiol er enghraifft, peidio â chynnwys y Gogledd-orllewin gyda gweddill y Gogledd a sicrhau bod Abertawe mewn rhanbarth ar wahân i Sir Gaerfyrddin;
tynnu De a Dwyrain Sir Gâr allan o’r ardal twf cenedlaethol ‘Abertawe-Llanelli’ arfaethedig;
gwneud ardal Wrecsam-Glannau Dyfrdwy yn ardal o dwf rhanbarthol, nid un cenedlaethol;
lleihau’r targedau tai yn gyffredinol, gan ganolbwyntio ar ddod â’r stoc tai presennol, yn benodol eiddo wag ac ail gartrefi yn ôl i mewn i ddefnydd y gymuned;
llunio Polisi Penodol sy’n rhoi blaenoriaeth i bolisïau sy’n gwarchod a thyfu’r nifer o gymunedau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y gymuned, a hynny ym mhob rhan o’r wlad;
ail-ystyried y polisïau trafnidiaeth, megis hybu cysylltiadau rhwng y Gogledd a Lloegr ac eraill sy’n hybu allfudo;
blaenoriaethau prosiectau i gryfhau cysylltiadau trafnidiaethau rhwng y De a’r Gogledd yng Nghymru, megis ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy
Cymdeithas yr Iaith
Tachwedd 2019Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - ymateb.pdf (97.29 KB)