Galwad Sir Gâr - mynnwn bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu dros y Gymraeg a chymunedau Sir Gâr

Lawrlwythwch daflen er mwyn casglu enwau o pobl sy'n cefnogi'r alwad o Sir Gâr ar Lywodraeth Cymru i weithredu dros y Gymraeg a chymunedau Sir Gâr trwy sicrhau:

  • Addysg Gymraeg i Bawb
    Deddf Addysg Gymraeg sy’n symud ysgolion ar hyd y llwybr tuag at addysg Gymraeg i bawb, ac yn cynllunio gweithlu digonol - fel na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o’r gallu i siarad a gweithio yn Gymraeg.

    Deddf Eiddo Gyflawn
    Deddf Eiddo i sefydlu fod y stoc tai i'w hystyried yn adnoddau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau, yn hytrach na bod yn asedau masnachol i greu elw hapfasnachol. Ble mae Papur Gwyn y Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg?

    Cynllunio Gwaith i Gynnal yr Iaith
    Methodoleg glir i ddangos sut y gellir gwneud cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o amcanion strategaethau datblygu economaidd. Dylai’r economi wasanaethu’r bobl, nid fel arall!

    Cynnal Cymunedau Gwledig a Bywoliaeth mewn Amaeth
    Strategaeth glir ym maes amaeth a datblygu gwledig i wrthbwyso'r buddsoddiadau yn y dinas-ranbarthau ac i hybu cynaliadwyedd cymunedau gwledig. Mae cymunedau gwledig yn haeddu buddsoddiad hefyd!

    Menter Ddigidol Gymraeg
    Menter Ddigidol Gymraeg o bosibl â'i phencadlys yn Yr Egin, ar ben y Mentrau Iaith tiriogaethol, er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn weledol yn y cyfryngau diweddaraf. Yr un egwyddor â sefydlu S4C 40 mlynedd yn ôl.

    Bod y Gymraeg yn Iaith Gwasanaethau Cyhoeddus
    Gosod Safonau newydd ar gyrff o dan Fesur y Gymraeg 2011 gyda'r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn brif iaith gwasanaethau cyhoeddus Sir Gâr – gan roi sylw arbennig i'r sector Iechyd a Gofal. Mae'n warth nad yw cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o Amcanion Llesiant sylfaenol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y sir.

    Bod y Gymraeg yn Iaith Gwaith
    Dylai'r Gymraeg ddod yn brif iaith Prentisiaethau a Chyrsiau Galwedigaethol mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg. Sgil addysgol hanfodol yw’r gallu i weithio’n Gymraeg.