Rhoddir dau brif reswm dros gau Ysgol Llangynfelyn yn groes i ddymuniadau amlwg y gymuned leol a’r rhieni
(1). Dywedir mai newidiadau mewn demograffeg yw'r rheswm cyntaf. Eto i gyd, bydd cau Ysgol Llangynfelyn yn golygu nad oes unrhyw ysgol am 11 milltir rhwng safle bresennol yr ysgol a Machynlleth, ac nid oes unrhyw ddadansoddiad o safon o ran niferoedd tebygol o ddisgyblion yn yr ardal eang hon.
(2) Dywedir mai'r ail ffactor sy'n gyrru'r broses yw consyrn am y Gymraeg (yn wir dyna un o brif resymau honedig yr adroddiad gwreiddiol a gynigiodd gau Ysgol Llangynfelyn – heb fod yr awdur wedi ymweld a’r ysgol), ac mae adroddiad atodol ar effaith potensial cau'r ysgol ar yr iaith. Mae'r adroddiad hwnnw'n dod i'r casgliad anhygoel y byddai cau'r ysgol yn cael effaith cadarnhaol ar y Gymraeg. Mae pob rheswm yn gwrthddweud hyn. Mae'r ystadegau'n dangos fod yr ysgol hon yn ysgol i raddau helaeth iawn i deuluoedd i fewnfudwyr di-Gymraeg. Yr ysgol yw'r allwedd a'u cyswllt a'r iaith a'r diwylliant Cymraeg a gellid adeiladu ar hynny, er enghraifft gyda gwersi teuluol. O gau'r ysgol, caiff eu llinyn cyswllt a'r Gymraeg ei dorri. Dyma fydd y canlyniadau - oll yn negyddol i'r Gymraeg -
(a) O golli'r ysgol yn eu cymuned, bydd y mwyafrif o rieni di-Gymraeg yn trefnu addysg gyfrwng Saesneg i'w plant, naill ai trwy fynd a nhw at ysgol Aberystwyth neu drwy eu haddysgu gartref yn ol eu tystiolaeth (dewisir y naill neu'r llall o'r ddau opsiwn hyn yn ôl cyfleustra teuluoedd unigol).
(b) Petai rhai o'r plant yn trosglwyddo i addysg gyfrwng Cymraeg yn Nhal-y-bont, byddai'r iaith yn cael ei chysylltu bellach gydag addysg yn unig yn hytrach nag fel allwedd i'r gymuned.
(c) Dwy ysgol Gymraeg wahanol iawn eu natur yw Llangynfelyn a Thal-y-bont. Fel y dywedwyd yr ysgol yw cyswllt plant a theuluoedd Llangynfelyn gyda'r iaith tra bo'r gymuned leol yn Nhal-y-bont yn bennaf Gymraeg a chyfran arwyddocaol o'r plant yn arddel y Gymraeg yn iaith gyntaf. Felly, nid yn unig y byddai cau Llangynfelyn yn effeithio'n negyddol a chanfyddiad eu plant nhw o'r Gymraeg (cyfrwng addysg, nid allwedd i gymuned), ond byddai hefyd yn Seisnigo hynny o Gymreictod naturiol sydd yn Nhal-y-bont. Sefyllfa "colli-colli" neu "ddwbl-negyddol". gwell cael dwy ysgol wahanol gyfrwng Gymraeg sy'n hollol wahanol eu hethos ac yn gweddu a'u cymunedau.
(3) Dylai fod moratoriwm ar gau ysgolion nes cyflawni'r ymchwil Dywedir yn dadlennol yn yr Astudiaeth Effaith Iaith "Dylid nodi fod ceisio asesu'r effaith bosibl y caiff trefniadaeth ysgolion ar yr iaith Gymraeg yn dasg anodd." Ac eto mae Cyngor Ceredigion yn mynd ati i gau ysgolion ac amddifadu cymunedau heb gasglu'r dystiolaeth wrthrychol, ac mae hyn yn hollol anghyfrifol. Mae digon o ysgolion pentrefol cyfrwng Cymraeg wedi cael eu cau yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac mewn siroedd cyfagos fel Caerfyrddin cyn hynny. Mater ymchwil eitha rhwydd fydd gweld a ydyw disgyblion o ddalgylchoedd yr ysgolion hyn wedi mynd at yr ysgolion a ddynodwyd neu ba gyfran sydd wedi'u hanfon at ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Mater ymchwil eitha syml fydd cyfri perfformiad academaidd y disgyblion presennol o'r dalgylchoedd o gymharu a disgyblion a fynychent ysgolion yn eu pentrefi cyn hynny. Mater ymchwil gweddol syml fydd cyfri effaith cau ysgolion ar y farchnad dai yn y cymunedau hyn - a ydyw teuluoedd ifainc yn llai tebyg o brynu tai yn y cymunedau ? Ond mae Ceredigion a siroedd eraill yn parhau i gau ysgolion a risgio effaith negyddol iawn ar yr iaith ac ar ein cymunedau gwledig heb wneud ymchwil o'r fath. Dylai fod moratoriwm ar gau ysgolion nes cyflawni'r ymchwil.
(4) Mae hefyd dadl ddifrifol o ran democratiaeth leol. Cyflwynwyd mewn proses ymgynghori ddadleuon manwl gan lywodraethwyr, y Cyngor Cymuned a Chymdeithas yr Iaith ac eraill. Nid oes unrhyw arwydd yn y byd fod y Cyngor wedi cymryd unrhyw ystyriaeth o’r dadleuon hyn nag wedi gwneud unrhyw ymdrech ystyrlon i’w hateb. Yr argraff a roddir yw fod Adran Addysg yn gyson yn mynd trwy gamau gwag ymgynghori, yn ol gofynion statudol, heb unrhyw fwriad o newid llwybr. Mae hyn yn tanseilio ymddiriedaeth mewn prosesau democrataidd lleol, a phan fo pob carfan wleidyddol yn dilyn yn gaeth safbwynt y swyddogion, cynyddir dadrith y cyhoedd.
(5) Caiff cau’r ysgol effaith niweidiol ar ddyfodol y cymunedau a wasanaethir. Mae dogfen y Cyngor ei hun yn rhagweld rhannu plant rhwng ysgolion yn Y Borth a Thal-y-bont. Dylid ychwanegu at y chwalfa hwn o gymuned plant y bröydd y caiff nifer eu hanfon at ysgolion cynradd Saesneg Aberystwyth yn ol cyfleustra patrymau gwaith rhieni, ac y caiff eraill (yn ôl tystiolaeth y rhieni) eu haddysgu gartref. Canlyniad sicr fydd chwalu’r ymdeimlad o gymuned ymhlith pobl ifainc yr ardal.
(6) Gellid cael yr holl fuddion a ddisgrifir - mwy o staff academaidd a chyfleoedd dysgu a chymdeithasu - trwy sefydlu ffederasiwn ffurfiol o'r ysgolion neu ysgol aml-safle yn hytrach na chau ysgol. Yn fwya sylfaenol, mae Cyngor Ceredigion wedi methu unwaith yn rhagor i ymchwilio - yn ôl ei ddyletswydd statudol - i'r holl opsiynau eraill cyn cynnig cau ysgol. Mae'r Cyngor yn dal i ddefnyddio'r ymadrodd "ffederasiwn meddal" nad oes dim sail iddo yn rheoliadau a chanllawiau'r llywodraeth. Mae dau opsiwn posibl a dyw'r Cyngor ddim wedi ymchwilio i'r naill neu'r llall -
(a) Creu ffederasiwn (yn unol a rheoliadau diwygiedig y llywodraeth 2012) rhwng 3 ysgol y fro - sef un bwrdd ffederal rhwng y 3 ysgol i ffurfioli'r cydweithio a rhesymoli ar ffurf cynaliadwy
(b) Creu un ysgol 3-safle a olygai gau 3 ysgol a chreu un ysgol ardal 3-safle
Nid ymchwiliwyd i'r un o'r opsiynau hyn. Gellid dewis un o'r opsiynau hyn ar y cyd gyda'r opsiwn o symud yr adeiladau symudol yn Llangynfelyn yn unol a chanllawiau'r llywodraeth ac felly leihau'n sylweddol y capasiti dros ben.
Cynigwyd yr opsiynau i’r Cyngor ac ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o bwys ohonynt
Cymdeithas yr Iaith – 18.10.15