Land & Lakes - Llythyr at Carl Sargeant

Annwyl Mr Carl Sargeant.

Cais - 46C427K / TR / EIA / ECON

Ar Dachwedd 6ed 2013, fe benderfynodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn i gymeradwyo cais cynllunio gan gwmni Land & Lakes (Anglesey) Cyf i adeiladu

pentref hamdden ym Mharc Glannau Penrhos, Ffordd Llundain, gyda hyd at 500 o letyau a bythynnod, pentref hamdden yng Nghae Glas, Parc Cybi, gyda’r pwrpas cychwynnol o ddarparu llety ar gyfer y gweithwyr fyddai’n adeiladu Wylfa B. Byddai’r 315 o letyau yna’n cael eu hadnewyddu i ddarparu llety gwyliau, datblygiad preswyl o hyd at 320 o dai newydd yn Kingsland. Eto, i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr Wylfa B yn gychwynnol cyn iddynt gael eu haddasu i greu datblygiad preswyl.

Ar Hydref 2ail 2013, fe benderfynodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn i wrthwynebu'r cais gan y byddai caniatáu yn golygu gor-ddatblygu cefn gwlad, a difetha ardal sydd wedi ei glustnodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Gan fod swyddogion o adran gynllunio'r Cyngor wedi argymell cymeradwyo'r cais, rhaid oedd trafod y mater ymhen y mis, wedi'r “cooling off period”.

Rydym yn bryderus iawn, na fu i swyddogion adran gynllunio'r Cyngor ateb yr amheuon a godwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar Hydref 2ail yn y cyfarfod ar Dachwedd 6ed, a bod aelodau'r pwyllgor cynllunio wedi teimlo pwysau gwleidyddol anferthol gan garfanau gwahanol i newid eu meddwl am y cais. Rydym yn bryderus hefyd am anallu cwmni Land & Lakes a swyddogion adran gynllunio Cyngor Sir Ynys Mon i ateb yr amheuon gwreiddiol, ar sail paham na chymeradwywyd y cais yn y cyfarfod cyntaf h.y. Gor-ddatblygu cefn gwlad ac adeiladu mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Rydym hefyd yn bryderus iawn am y datganiad diweddar gan Adran Gynllunio Cyngor Sir Ynys Môn, oedd yn nodi nad oedd unrhyw ddisgwyliadau ar gwmni Land & Lakes i gynnal adroddiad asesid iaith y datblygiad. Hynny mewn sir lle gwelwyd cwymp mewn siaradwyr Cymraeg o 60.1% yn 2001 i 57.2% yn 2011. Rydym yn grediniol y bydd caniatáu i ddatblygiad mor fawr fynd yn ei flaen yn sicr o fod yn ffactor allweddol yn nirywiad siaradwyr Cymraeg yn yr ynys yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Ac yn gweld methiant Cyngor Sir Ynys Môn i fynnu bod adroddiad asesiad iaith yn cael ei lunio, yn dangos ffaeleddau amlwg y cais.

Rydym hefyd yn bryderus am y niferoedd o dai sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn ardal Caergybi yn ddiweddar, pob un ohonynt wedi eu cymeradwyo tu allan i fframwaith Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn. Mae creu fframwaith a strategaeth cynllunio yn hynod o bwysig, a theimlwn fod caniatáu i 320 o dai gael caniatâd cynllunio y tu allan i fframwaith y Cynllun Datblygu Lleol yn gamgymeriad, ac yn codi cwestiynau difrifol am yr angen am gynllun o'r fath.

Mae Uned Polisi Cynllunio ar y cyd Gwynedd / Môn wedi codi cwestiynau tebyg, yn arbennig a fyddai caniatáu i 320 o dai fod yn gynamserol, ac y dylai unrhyw ddatblygiad o'r maint yma fod yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol, ac nid yn annibynnol iddo.

Gellir gweld ymateb yr uned bolisi yn y ddogfen -

“JPPU's Comments Regarding Application 46C427K/TR/EIA/ECON” dyddiedig Gorffenaf 6ed 2013. Uned Polisi Cynllunio Gwynedd a Môn

Dyma'r rhestru o'r 11 Polisi Cynllunio sydd wedi eu torri a'i anwybyddu gan Gyngor Sir Ynys Môn wrth benderfynu rhoi caniatâd cynllunio i gwmni Land & Lakes. Rydym yn teimlo bod cyfrifoldeb arnoch chi fel gweinidog i gymryd hyn o ddifrif, gan fod polisïau cynllunio wedi eu gosod mewn lle am resymau pendant, ac wedi ymgynghoriad eang.

  • Polisi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Adran 85

  • Polisi Diogelu Coed

  • Polisi Ardaloedd Cymeriad Tirwedd 1 a 3 o Strategaeth Tirwedd Ynys Mon

  • Polisi 49 Cynllun Unedol Ynys Mon. Rhan o Kingsland yn sefyll tu allan i'r ffin anheddiad trefol

  • Mae Penrhos yn sefyll tu allan i Bolisi Cefn Gwlad Ynys Mon

  • Mae safleoedd Penrhos a Chae Glas wedi eu lleoli mewn ardal a gellir eu ystyried mewn termau polisi i fod yn rhan o arfordir heb ei ddatblygu

  • Polisi 36 yn y Cynllun Datblygu, rhaid i ddatblygiad mewn ardal heb ei ddatblygu sydd ar neu'n ffinio arfordir gael ei reoli'n llym, a rhaid i gynigion fod yn ffisegol ac amgylcheddol gydnaws a chymeriad yr ardal.

  • Mae safleoedd Penrhos a Chae Glas mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae paragraff 5.5.6 yn Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod rhaid diogelu yr ardaloedd hynny rhag datblygiadau mawr. Mae hefyd yn ddyletswydd statudol i warchod A.H.N.E.

  • Polisi 11.1.3 Polisi Cynllunio Cymru, yn nodi bod dyletswydd i warchod mannau gwrdd agored.

  • Cynllun Datblygu Lleol yn nodi na chanieteir datblygu lle bydd achos o niwed i goetydd hynafol

  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, yn gwarchod bywyd gwyllt.

Nid ar chware bach y dyle chi ganiatáu i'r polisi hyn gael eu hanwybyddu, ac mi fydda chi yn sicr o wynebu cwestiynau difrifol os na fydd gweithredu ar hyn.

Rydym yn gofyn yn garedig i chi felly, i alw'r penderfyniad i ganiatáu cais cynllunio Land & Lakes i fewn am ymchwiliad pellach gan Lywodraeth Cymru, oherwydd y rhesymau dilys sydd wedi eu nodi uchod.

Edrychwn ymlaen at glywed yn ôl gennych yn fuan.

Osian Jones – Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Menna Machreth – Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Hillary Paterson -Jones – Ymgyrch Achub Penrhos

Erica Jones – Ymgyrch Achub Penrhos