Llythyr am Gylch 3 y Safonau Iaith - Awst 2015

Y Safonau - ble mae bysiau, trenau, ynni a thelathrebu

Annwyl Brif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg,

Ysgrifennwn atoch i fynegi pryderon mawr ynghylch y newidiadau yn y rhestrau o sefydliadau sydd yn rhan o Gylch 3 o'r Safonau Iaith, a'r diffyg eglurder ynghylch bwriad y Llywodraeth a'r Comisiynydd o ran gweithredu'r holl bwerau yn y Mesur i gynnwys yr ychydig o'r sector breifat sy'n gynwysedig o dan ei ddarpariaethau. Credwn ei bod yn annerbyniol, bron i 5 mlynedd ers i Fesur y Gymraeg gael ei basio gyda cefnogaeth unfrydol y Cynulliad, nad ydych chi fel awdurdodau gyda chyfrifoldeb dros yr iaith wedi gweithredu'r ddeddfwriaeth yn llawn. 

Heb roi gwybod i'r cyhoedd, nac Aelodau Cynulliad ychwaith, tynnwyd dros 200 o sefydliadau oddi ar y rhestr o gyrff a fydd yn dod o dan gylch 3 o'r Safonau ym mis Ionawr a mis Ebrill eleni. Hyd y gwyddom, nid oedd dim craffu democrataidd ar y penderfyniad hynny. Drwy'r diffyg gweithredu, rydym yn pryderu eich bod yn amddifadu pobl o'u hawliau iaith a chyfle euraidd i gynyddu defnydd y Gymraeg. Yr hyn sy'n peri'r pryder fwyaf yw nad oes datganiad cyhoeddus wedi bod ynghylch hyn: cawn yr argraff eich bod yn ceisio gwneud y newidiadau heb roi gwybod i'r cyhoedd.  

Atodwn restr o'r cyrff a dynnwyd oddi ar restr Cylch 3, a gofynnwn am esboniad llawn dros hepgor pob un o'r cyrff hyn oddi ar y rhestr.  

Cyn i'r cyrff gael eu tynnu oddi ar y rhestr, derbyniom awgrym gan y Comisiynydd bod y Llywodraeth wedi mynnu bod cyrff yn cael eu tynnu allan o gylch 3. Mewn llythyr ar 22ain Rhagfyr 2014, ysgrifennodd y Comisiynydd: 

“Mae’r Llywodraeth wedi egluro wrthym nad oes sicrwydd y bydd amser digonol iddynt gyflwyno rheoliadau drwy’r Senedd cyn yr etholiad yn 2016 os ydym yn parhau i lynu wrth yr amserlen hon ac yn parhau i gynnal ymchwiliadau i’r holl gyrff a enwyd yng Nghylch 3.”  

Serch hynny, nid oes trafodaeth na datganiad cyhoeddus wedi bod ynghylch hyn. 

Hoffwn ofyn: ydy'r Llywodraeth wedi gofyn i, neu awgrymu y dylai, y Comisiynydd dynnu cyrff allan o'r rhestr sy'n gynwysedig yng nghylch 3?  

Hoffwn ofyn am gopïau o unrhyw gofnodion neu nodiadau o gyfarfodydd neu sgyrsiau ffôn, neu unrhyw ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch y cyrff a restrir yng nghylch 3 o raglen ymchwiliadau Safonau.  

Rydych chi, Brif Weinidog, wedi cwyno'n ddiweddar am ddiffyg darpariaeth Cymraeg Trenau Arriva Cymru, felly pam fod Trenau Arriva Cymru wedi eu tynnu oddi ar restr y cyrff yng nghylch 3? Mae diffygion mawr hefyd o ran darpariaeth Network Rail o wasanaethau Cymraeg o bethau sylfaenol fel arwyddion corfforol ac electroneg a'u gwefan. Pam felly gawsant eu hepgor o'r rhestr o gyrff yng nghylch 3 o'r Safonau?  

I ategu at hyn, rydym yn dal i ddisgwyl clywed pryd fydd cwmnïau megis ynni a thelathrebu yn cael eu cynnwys.  

Dyletswydd y Comisiynydd, fel y datgenir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw 'hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.' Mae dyletswydd statudol ar y Comisiynydd felly i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cwmnïau mawrion yn ddarostyngedig i'r Safonau cyn gynted â phosibl. Rydym ni fel mudiad yn hynod rwystredig nad ydych yn gweithredu'r pwerau sydd gyda chi yn y meysydd pwysig hyn. Drwy dynnu cwmnïau a chyrff allan o gylch 3, rydych yn rhoi eu buddiannau hwythau o flaen hawliau iaith pobl Cymru.  

Gofynnwn i chi gyhoeddi amserlen ar gyfer y sectorau sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr ar gyfer Cylch 3 cyn gynted â phosibl.  

Gofynnwn unwaith eto i chi hefyd gyhoeddi rhestr o'r cwmnïau a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghylch 4 y Safonau, neu'r dyddiad y byddwch yn cyhoeddi'r rhestr honno.  

Nodwn fod Strategaeth Iaith y Llywodraeth a chynllun strategol y Comisiynydd y ddau yn ymrwymo i weithredu'r Mesur i'w lawn botensial. Noda Strategaeth Iaith y Llywodraeth o dan y pwyntiau gweithredu: 

"Gwneud safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau’r sector preifat sy’n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau...." Tud. 44, Iaith Byw: Iaith Fyw  

Hoffwn hefyd eich holi ynglŷn â hyrwyddo bodolaeth y Safonau ar gyfer llywodraeth lleol, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymry a fydd yn dod i rym ar 1af Mawrth 2016; pwy fydd yn gyfrifol am hywrwyddo bodolaeth yr hawliau iaith newydd a fydd yn deillio o'r Safonau a sut byddant yn mynd ati i'w hyrwyddo?  

Yn gywir, 

 

Manon Elin  

Is-gadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg  

cc: Simon Thomas AC, Aled Roberts AC, Suzy Davies AC, Keith Davies AC 

 

Sefydliadau a dynnwyd oddi ar restr Cylch 3 o'r Safonau Iaith a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014 

1st Choice Transport Ltd  
Abbey Cars  
Achub y Plant (Save the Children)   
Airparks Services  
Alpine  
Arriva Cymru  
Arriva Midlands  
Asiantaeth yr Amgylchedd  
ATOC  
Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (newydd)  
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch  
Banc Lloegr  
Barnardo's  
Berwyn  
Briggs Coach Hire  
Brodyr James  
Brodyr Williams  
Bryans Coaches  
Bryn Melyn  
Buddsoddwyr mewn Pobl  
Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth  
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladau Peiriannol  
Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain  
Bws Caerdydd  
Cadwch Gymru'n Daclus (Keep Wales Tidy)  
Caelloi  
Call a Cab  
Canolfan Cydweithredol Cymru (Wales Co-operative Centre)  
Canolfan Gwasnaethau Gwirfoddol y Fro (Vale Centre for Voluntary Services)  
Capitol Hire  
Caring Coaches  
Carreglefn Coaches  
Celtic Travel  
Cen ap Tomos  
Chepstow Classic Buses  
Citywing  
Clynnog & Trefor  
Collins of Roch  
Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr  
Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol  
connect2  
Creigiau Travel Ltd  
Crickhowell Taxis  
Cronfa addysgu ac ymchwilio alcohol  
CrossCountry Trains  
Crossgates Coaches  
Cumfybus  
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gar (Carmarthenshire Association of Voluntary Services)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (Ceredigion Association of Voluntary Services)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (Gwent Association of Voluntary Services)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont (Bridgend Association of Vountary Organisations)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (Powys Association of Voluntary Organisations)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Benfro (Pembrokeshire Association of Voluntary Services)  
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam  
Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (Torfaen Voluntary Alliance)  
Cyngor Chwaraeon y DU  
Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg  
Cyngor Ffilm y DU bellach yn 'British Film Institute'  
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe  
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell Nedd Port Talbot  
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (Conwy Voluntary Services Council)  
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (Denbighshire Voluntary Services Council)(NEWVOL)  
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Rhondda Cynon Taf (Interlink RCT)  
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (Flintshire Local Voluntary Council)  
Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Cardiff Third Sector Council)  
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol  
Cyngor Ymchwil Perianneg a Gwyddorau Ffisegol  
Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol  
D A Mason Minibus Hire  
D Jones & Son  
DANSA  
Davies Coaches Ltd  
DR Travel  
E Jones & Son  
Easyway of Pencoed  
Edwards Bro  
Edwards Coaches  
Eifion's Coaches  
EST Coach Ltd  
Evans Coaches Tregaron Limited  
Express Motors  
Ffocws ar Deithwyr  
Ffoshelig Coaches  
First Call  
First Chester & The Wirral  
First Cymru  
First Great Western  
First Somerset & Avon  
G H A  
G&H Executive Minibuses  
George Young's Coaches  
GHA Coaches  
Globe Coaches  
Glyn Evans  
Goodsir  
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau  
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (Voluntary Action Merthyr Tydfil)  
Gwynfor Coaches  
Gwynne Price Transport Ltd  
H & H Coaches Ltd  
H.D.A. Coaches  
Harris Coaches (Pengam) Ltd  
HD Hutchinson & Son  
Henleys  
Hybu Cig Cymru  
James Bevan  
John's Coaches  
John's Travel (Merthyr Tydfil)  
Jones Login  
Knighton Taxis  
Lewis Y Llan  
Lewis's Coaches Llanrhystud  
Llew Jones Coaches  
Lloyds Coaches  
Lloyd's Taxis  
Lugg Valley Primrose  
M&H Coaches  
Mantell Gwynedd Cyf  
Medrwn Môn  
Megabus  
Menyn's Private Hire  
MET Taxis  
Mid Wales  
Midway  
Millington Buses  
Mintax  
Morris Travel  
Motability  
N.A.T. Group  
National Express Coach Services  
National Express  
Nefyn Coaches Ltd  
Network Rail  
Newport Bus  
Newport Transport  
NSPCC (The National Society for the Provention of Cruelty to Children)  
O R Jones  
Oares  
Oswestry Community Transport  
Owens of Oswestry  
Owens  
P & O Lloyd  
Padarn Bus Ltd  
Padarn Cars  
Parrott Motors Ltd  
Passenger Focus  
Pat's Coaches  
Pheonix Transport  
Phil Anslow  
Preseli Rural Transport Association  
Price Coaches  
Pwyllgor Ymynghorol Trafnidiaeth i'r Anabl  
Rees Motors  
Richards Bros  
Ridgways  
RJ Jones Travel  
Roy Brown  
Sargeant  
Sefydliad Datblygu Cymunedol  
Select Local Bus Services  
Silcox  
SNAP Cymru  
South Wales Transport  
Sprint Transport  
Stagecoach Group  
Stagecoach Wales  
Taf Valley Coaches  
Tanat Valley Coaches  
The Brecon Beacons National Park Authority (* yn rhinwedd ymchwiliad safonau i mewn i bersonau neilltuedig sy’n darparu bysiau i’r cyhoedd)  
The Community Transport Association  
The Trainline.com 
Thomas Coaches of Porth  
Town & Country Bus Ltd  
Townlynx  
Travel Final Ltd.  
Traveline Cymru  
Traws Cambria  
Tros Gynnal  
Vale of Llangollen  
Virgin Trains  
Voel Coaches  
VR Travel  
Watts' Coaches  
Y Comisiwn Hapchwarae  
Y Cyngor Defnyddwyr Dwr  
Y Cyngor Prydeinig  
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol  
Y Cyngor Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau  
Y Cyngor Ymchwil Meddygol  
Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau  
Y Rheoleiddiwr Pensiynau  
Yeomans Canyon  
Ymddiriedolaeth Cronfa'r Teulu ar gyfer Teuluoedd gyda Phlant Anabl Iawn (The Family Fund Trust for Families with Severely Disabled Children)   
Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol  
Yr Ombwdsman Pensiynau  
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cyfyngedig  
Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd (wedi disodli British Waterways)  
Yr Ymddiriedolaeth Garbon